Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003
Newid byd oedd dod i fyw i Cilan ym 1977, fel Cymraes o Sir y Fflint yn hytrach na Saesnes oedd am dŷ haf. Roedd fy acen ychydig yn wahanol; nid oedd perthnasau gen i’n byw yn yr ardal, felly wyddai neb pwy oeddwn ond ‘gwraig John Gwilym Nampig’. Codasom dŷ; magwyd y plant; dilynais fy ngyrfa fel athrawes. Nid oedd amser i wneud dim arall er i mi fod wedi ymaelodi â’r capel a Merched y Wawr. Maes o law, trwy hap a damwain, ac yna ychydig ymchwilio, darganfûm i’m hynafiaid ochr fy nhad fod wedi hanu oddiyma a mawr fu’r syndod i Tan y Bryn fod yn gartref iddynt o tua 1800 hyd 1860. Bu disgynyddion na wyddwn am eu bodolaeth yn byw yn yr ardal am flynyddoedd wedyn hefyd. Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi cael hyd i fwy o wybodaeth yn yr Archifdy, penderfynais ddefnyddio’r dechnoleg a’r wybodaeth oedd ar gael, i greu darlun hanesyddol o’r ardal gan ganolbwyntio ar y Cyfrifiadau yn bennaf ac Adroddiadau blynyddol Capel Bethlehem, Cilan . Cefais wybod...