Bryncelyn-bach
Er nad oes sicrwydd, credaf mai Bryncelyn-bach y cyfeirir ato yn rhestrau blynyddol y Dreth Tir, yn eiddo i Thomas Assheton Smith ac yn werth 6 cheiniog i'w dalu i'r Goron amdano. Yn 1818, Richard Roberts oedd y tenant, a'i enw yno o 1808-18. Hawliwyd 1 swllt o dreth yn 1808 hyd at 1814.
O 1801-1807 John Jones oedd y tenant; yn 1800 Henry Williams; yn 1789 a chynt Robert Griffith; mae un rhestr lle nad yw'r dyddiad yn glir na'r enw yn llawn - Catherine ?
Ffermir y tir heddiw gan deulu Nant, Cilan a Bodlondeb, Sarn Bach.
Bryncelyn-bach: 1841 (Ardal 13 rhif 27)
William Parry, 45 oed, 'joiner'
Mary, gwraig, 40 oed
Henry, mab, 18 oed - priododd Elizabeth Williams, Tanybwlch, chwaer Griffith Williams, y ddau yn blant Ann Sorton, merch Mary Sorton, Cim
Jane, merch, 20 oed
Catherine, merch, 15 oed
Bryncelyn-bach: 1851 (Ardal 7c rhif 26)
William Parry, 60 oed, 'joiner'
Mary, gwraig, 52 oed, m. 1855; bu farw 12 Ionawr 1855 yn 56 oed
Jane, merch, 30 oed - priododd Griffith (Sorton) Williams – gw. uchod
Catherine, merch, 25 oed; m. 1855
William, mab, 9 oed
Bryncelyn-bach: 1861 (Ardal 17 rhif 54)
William Parry, gweddw, 69 oed, 'farmer of 9 acres and joiner'; dau yn gweithio iddo
Robert Prichard, gwas, dibrïod, 19 oed
Margaret Williams, morwyn, 13 oed
Bryncelyn-bach: 1871 (Ardal 17 rhif 72)
William Parry, gweddw, 79 oed, 'farmer of 11 acres'; bu farw 21 Mawrth 1874 yn 82 oed;
William, mab, priod, 29 oed, 'joiner';
Catherine, gwraig, 30 oed, g. Tudweiliog
William, mab, 4 oed, g. Llanengan
Bryncelyn-bach: 1881 (Ardal 17 rhif 82)
William Williams, 39 oed, 'joiner and farmer of 12 acres'
Catherine, gwraig, 40 oed, g. Tydweiliog
William, mab, 14 oed, 'scholar'
Mary, merch, 8 oed, 'scholar'
David, mab, 6 oed, 'scholar'
Jane, merch, 4 oed
Bryncelyn-bach: 1891 (Ardal 17 rhif 1)
William Williams, 49 oed, 'joiner'
Catherine, gwraig, 49 oed, g. Tudweiliog
William, mab, di-briod, 24 oed, 'farm lab', g. Llanengan
Mary C, merch, di-briod, 18 oed, 'dressmaker'
David, mab, 16 oed, 'joiner's apprentice'
Bryncelyn-bach: 1901 (Ardal 16 rhif 39)
William Williams, 59 oed, 'joiner'; g. Llanengan
Catherine Williams, gwraig, 60 oed; g. Tydweiliog; m. 1908 yn 67 oed; bedd A070, Bwlch
William, mab, 34 oed; collodd ei wraig Elizabeth, 23 oed, yn Nhachwedd 1901; A059, Bwlch
Mary C, merch, di-briod, 28 oed;
Jane A, merch, di-briod, 23 oed;
John Roberts, brawd-yng-nghyfraith, di-briod, 64 oed, 'Ag lab'; g. Tydweiliog; m. 1905 yn 68 oed; A055, Bwlch
Yn ocsiwn Y Faenol 1907 (Lot 101) nodir tyddyn 14 acer yn cynnwys 5 cae efo'r tŷ a 2 gae ar wahan, pwll, ffynnon a thir ychwanegol i'w bori tua'r môr. Yma ceir yr enw penodol Bc-bach.
Bryncelyn-bach: 1911 (Ardal 14 sleid 82/175)
William Parry Williams, gweddw, 69 oed, 'joiner'; m. 1921 yn 80 oed; bedd A070, Bwlch
William Parry Williams, mab, 44 oed, gweddw, 'farmer'; 1868-1947 bedd A059, Bwlch
Mary C. Williams, merch, 38 oed, di-briod, 'dressmaker'
David Parry Williams, mab, 36 oed, di-briod, 'joiner'; 1874-1957; B179, Bwlch
Jane A. Williams, merch, 34 oed, di-briod, 'housekeeper'
Y teulu yn aelodau yng Nghapel Bethlehem, Cilan yn 1914.
Bryncelyn, Abersoch, 1921 (03. 19.20.21 sleid 543/644)
William Parry Williams, penteulu, 79.8 oed, gweddw, saer coed wedi ymneillduo, yn gweithio iddo’i hun
William Parry Williams, ei fab, 54.3 oed, gweddw, ffermwr, dim plant; (m.25/2/1947. Bedd A059 Bwlch gyda’i wraig Elizabeth, fu farw 7/11/1901 yn 23 oed.)
David Williams, mab, 47 oed, dibrïod, saer coed yn gweithio iddo’i hun, yn medru’r 2 iaith
Jane Ann Williams, merch, 44.4 oed, dibrïod, yn cadw’r tŷ
Dengys Adroddiadau’r capel i dri enw fod yn aelodau llawn ym 1914, sef William Parry Williams, Mary C Williams, a Jane A Williams, yn frawd a dwy chwaer. Pery hyn tan 1918 ac yna diflanna enw Mary. Ni sonnir amdani, felly cymeraf iddi symud o’r ardal. Erbyn 1926 mae enw arall o Bryncelyn yn ymddangos, ond y tro hwn fel aelod o’r gynulleidfa yn hytrach nag fel aelod llawn, sef David P Williams. Ac fel aelod o’r gynulleidfa y gwelwn ei enw o hyn ymlaen tan ei farwolaeth ym 1957 (bedd B179 Bwlch). Ym 1928 mae enw Jane yn diflannu tan y gwelwn ei ddychwelyd ym 1938 ond bellach fel aelod o’r gynulleidfa, ac fel Jane Roberts, neu ‘Mrs Cpt Roberts, Roma, Pwllheli’ fel y’i gelwir ambell waith. Erbyn 1942 daeth yn aelod llawn o’r capel unwaith eto. Ym 1947 mae William Parry yn marw a’i deyrnged yn dangos gŵr ‘diwyd a threfnus yn ei holl ymwneud... geirwir a gonest yn ei berthynas â phawb...gwnaeth ei ran yn anrhydeddus...’ Ym 1955 nodir marw Jane Ann ym Mehefin a chyfeiriad at ei haelioni tuag at yr achos. (Bedd B208 Bwlch) Ddwy flynedd yn ddiweddarach roedd Bryncelyn-bach yn wag a chyfraniad er côf am y teulu yn Adroddiad 1957. Bu’r un teulu yn byw yno ers o leiaf 1841 a theulu Bodlondeb yn etifeddu wedyn. Yn ddiweddarach, gwerthwyd y tŷ i deulu Lawton o ochrau Caer.
Comments
Post a Comment