Bryngwyn
1841 : Bryngwyn (Ardal 13 rhif 66)
Robert Ellis, 45 oed, ‘stonemason’
Lowry Ellis, 45 oed
Robert Ellis, 11 oed
Thomas Ellis, 8 oed
John Ellis, 5 oed
Lowry Ellis, 3 oed
1851 : (Ardal 7c rhif 33)
Robert Ellis, penteulu, prïod, 56 oed, ‘butcher’, g. Pisdill (sic)
Laura, ei wraig, 57 oed, g. Llanarmon
Thomas Roberts, ŵyr, 3 oed, g. Llanengan
Jane Roberts, wyres, 2 oed, g. Llanengan
1861 : (Ardal 17 rhif 91)
Robert Ellis, penteulu, prïod, 66 oed, ‘mason’, g. Llangïan
Laura, ei wraig, 67 oed, g. Llanarmon
Laura Roberts, eu merch, dibrïod, 35 oed
Jane Jones, eu wyres, 12 oed
Robert Roberts, ŵyr, 5 mis oed
1871 : (Ardal 17 rhif 117)
Laurah Roberts, penteulu, dibrïod, 42 oed, ‘laundress’,
Robert Roberts, ei mab, 11 oed, yn yr ysgol
Griffith Roberts, ei mab, 2 oed
1881: (Ardal 17 rhif 121)
Laura Roberts, penteulu, dibrïod, 50 oed, ‘housekeeper’
Robert Roberts, ei mab, dibrïod, 20 oed, ‘lead miner’
Griffith Roberts, ei mab, 12 oed, yn yr ysgol
1891: (Ardal 17 rhif 49 – dim ond enw Bryndu ond trigolion Bryngwyn dros y dudalen)
Laura Roberts, merch, dibrïod, 29 oed (ai camgymeriad yw'r oed?)
Griffith Roberts, mab, dibrïod, 27 oed, ‘farm labourer’ (Ai 22 ddylai’r oed fod?)
Robert Parry Roberts, mab, 8 oed, yn yr ysgol
1901 : (Ardal 16 rhif 76)
Griffith Roberts, penteulu, dibrïod, 32 oed, ‘shoemaker’
John Hughes, boarder, 10 oed
1907 : Llyfr Y Faenol : Lot 108, Bryndu (formerly part of Nant) In the occupation of Mr Griffith Roberts. Dim sôn am Bryngwyn o gwbl. Dybed nad oedd yn perthyn i’r Faenol?
1911 : (Ardal 14 158/175)
Bryngwyn : Griffith Jones, penteulu, prïod, 42 oed, ‘shoemaker
Elizabeth, ei wraig, 53 oed, yn brïod ers 9 mlynedd, 1 plentyn
Laura Jane Jones, eu merch, 9 oed, yn yr ysgol.
1921 : Bryngwyn, Abersoch (Ardal 03 - 19. 20. 21 - 583/644)
Griffith Jones, penteulu, 52.11 oed, crydd, yn gweithio i John Evans, Abersoch Boot Stores
Elizabeth, ei wraig, 63 oed, yn cadw tŷ
Judith, merch yng nghyfraith (sic) 39 oed, dibrïod, yn cynorthwyo’r teulu
Mae teulu Bryngwyn, yn ôl Adroddiad 1914 y capel, yn gyflawn aelodau - Griffith Jones, Elizabeth a Judith Jones, ynghyd â Laura Jane yn blentyn. (Roedd Judith yn ferch i Elizabeth o’i phriodas gyntaf ag Ellis Jones.) Erbyn 1916 mae Laura Jane hefyd wedi ei derbyn yn gyflawn aelod, ond ni welir ei henw yn y rhestr erbyn 1918. Ail-ymddengys ym 1920 fel Aelod o’r Gynulleidfa ac erbyn 1921 mae’n ôl gyda’i rhieni a Judith. Ym 1922 ymddengys enw Mary Jones, Bryngwyn (merch arall i Elizabeth ac Ellis) fel Aelod o’r Gynulleidfa. Dengys 1923 fod Laura Jane yn ymadael, ond derbynnir fel aelod llawn, Margaret Jones, Bryngwyn (merch Elizabeth ac Ellis Jones). Y flwyddyn ganlynol nodir iddi ymadael. Ym 1926 mae’r teulu’n cyfrannu i’r casgliad arbennig i dalu am lestri’r cymun, Miss Judith Jones yn cael ei nodi ar wahan i Mr Griffith Jones. Ym 1928 mae enw Margaret yn ymddangos efo’r teulu unwaith eto.
Gwelwn nodi marw Judith Jones, Bryngwyn yn Adroddiad 1930 – ar 6 Chwefror – a’r deyrnged iddi yn nodi ei ffyddlondeb i oedfaon y Sul ac i gyfarfodyddd canol yr wythnos tra gallodd. Rhydd ei charreg fedd (Bwlch B339) fwy o wybodaeth am ei chysylltiadau. Yn 47 oed pan fu farw, roedd yn ferch i Ellis Jones ac Elizabeth, Bryn Eryr. Lladdwyd ei thad, Ellis, yn y danchwa yng Nghlifynydd, 23 Mehefin 1894, yn 41 mlwydd oed. Yn yr Adroddiad nodir cyfraniad er cof am Judith at y casgliad arbennig i baentio’r capel.
Yn Adroddiad 1941 ceir teyrnged ddilys gan y Swyddogion i Griffith Jones, Bryngwyn, a fu farw 28 Mai, gan ganmol ei ffyddlondeb ar hyd ei oes i’r achos a’r moddion, a ‘hynny dan amgylchiadau anffafriol’. Roedd ei gof ‘eithriadol’ yn amlwg yn y Seiat a’i ddiddordeb yn yr Ysgol Sul yn golygu paratoi gofalus ar ei chyfer. Ym mynwent yr Eglwys mae ei fedd (D087) lle nodir ei ddyddiadau yn 1870-1942.
Y flwyddyn ganlynol, (1942) ar 7 Awst bu farw ei weddw, Elizabeth, a’r deyrnged yn nodi ei ffyddlondeb hithau ac iddi fod yn ‘chwaer garedig a chroesawgar yn ei thŷ’. Ond ni chladdwyd hi efo’i gŵr. Yn y Bwlch (B345) y dewisodd Margaret gladdu ei mam (1868-1942) a hithau yn rhannu’r un bedd ym 1973. Efallai fod camgymeriad yn nyddiad geni Elizabeth – 1858 ddylai fod, dwi’n meddwl.
Pery Margaret i fyw yn Bryngwyn am rai blynyddoedd tan welwn ei henw ym 1951 yn Castell Bungalow ac yno y bu am 15 mlynedd.
Ym 1955 mae enwau newydd yn Bryngwyn : Peter Jones, Jane Ann Jones a Hugh Bryn Jones, sy’n blentyn. Maent yn cyfrannu’n gyson tan y gwelwn ym 1958 iddynt ymadael.
Mae enw Margaret Jones, Castell, yn parhau yn gyson hyd at 1966, pan ymddengys am y tro olaf. Ni chyfeirir ati wedyn. Yn ôl ei nai (Ifor Williams, Chwilog, mab Mary) aeth Margaret i fyw at ei hanner chwaer, Laura (merch Griffith ac Elizabeth) i Bethesda at ddiwedd ei hoes, ac yno y bu farw. Ni nodir cyfeiriad iddi ar ei charreg fedd, dim ond ei dyddiadau: 1887-1973. (Bwlch B345)
O geisio olrhain teulu Elizabeth Jones, gwelwn mai merch Mary Hughes, Cilan Fawr oedd hi. Roedd Mary Hughes yn ferch i William Griffith, Cilan Fawr. Erbyn 1891 gwelwn hi yn Bryn yr Eryr yn 33 oed ac yn wraig i Ellis Jones, 37 oed sy’n ‘lead miner’. Mae dwy o ferched ganddynt – Judith, 8 oed a Margaret, 3 oed.
Yn 1901 maent yn dal yn Bron yr Eryr – Elizabeth yn weddw 43 oed a’i merch Mary yn 9 oed.
Erbyn 1911 bu ail briodas ac Elizabeth yn brïod â Griffith Jones, yn byw yn Bryngwyn.
Roedd Ellis yn fab i Ellis Jones a Margaret oedd yn byw yn Park y Brenin yn 1881, a’u mab Ellis yn ‘lead miner’ 27 oed.
Yn ôl tystiolaeth Ifor Williams, Chwilog, roedd Griffith Jones yn ddyn cydnerth ond cafodd gangrin yn ei goes a bu raid ei thorri. Bu'n cerdded efo bagl fel canlyniad, a'r plant lleol yn cyfeirio ato fel 'Guto Bryngwyn a'i faglau a'i ffyn'. Bu farw yn y Cartref ym Mhwllheli. Nodwn iddo yn ôl pob golwg, fod wedi newid ei enw o Griffith Roberts in Griffith Jones, tua adeg ei briodas efallai? Ai ymdrech i wahanaethu rhyngddo ef a chymydog agos ato yn Bryndu, oedd heb fod yn bell o'r un oed, ac oedd hefyd yn Griffith Roberts, oedd y rheswm dros y newid?
*****************
Comments
Post a Comment