Bryncelyn Uchaf
Bryncelyn (mae 6 tŷ o’r enw hwn)
Mae’r ffaith mai dim ond yr enw Bryncelyn yn unig a geir yn y Cyfrifiadau, ac hefyd yn yr Adroddiadau capel, yn golygu fod aneglurder i ni heddiw ynglŷn â pa deulu oedd yn byw ym mha dŷ, er y byddai trigolion lleol ar y pryd yn gwybod yn iawn pwy oedd yn byw yn lle wrth gwrs. Rhydd llyfr Ocsiwn y Faenol (1907) gymorth drwy enwi Bryncelyn Uchaf, Bryncelyn Isaf, Bryncelyn-bach, a Bryncelyn Cottage a’i tenantiaid, er yn lleol gelwid Bryncelyn Cottage yn Bryncelyn Sarah neu Bryncelyn Bach a Bryncelyn-bach yn Bryncelyn William Parry yn ôl eu trigolion ar gyfnodau penodol.
Am y ddau Fryncelyn arall, nid oeddynt yn perthyn i dir Y Faenol - ac felly nis gwerthwyd yn yr Ocsiwn - er iddynt sefyll yn agos iawn i Bryncelyn-bach. Yn y blynyddoedd mwy diweddar enwyd un o’r rhain yn Bryncelyn Bellaf, a’r llall sydd yn rhannu’r unto yn Bryncelyn Mrs Evans i mi!
Gwreiddyn yr aneglurder yw’r ffaith i’r Swyddfa Bost neu’r Cyngor newid ffiniau ac enwau’r ardaloedd rhywbryd rhwng diwedd y 19G a dechrau’r 20G. Diddymwyd enw ardal Bryncelyn – a fu’n ymestyn o Fwlch-y-Clawdd i lawr i gynnwys Sarn Bach, sef yw’r ‘bryn lle tŷf y celyn’ gan alw’r cyfan yn Cilan; hefyd diddymwyd ardaloedd Marchros, Cim a Phenrhyn Du a galw’r cyfan yn Bwlchtocyn, er mai enw un fferm yn unig oedd yr enw hwn yn wreiddiol.
Bryn Celyn (Uchaf): 1841(Ardal 13 rhif 18)
Robert Williams, 45 oed, ffermwr;Ann Williams, ei wraig, 45 oed;
William, eu mab, 15 oed;
Griffith, eu mab, 10 oed;
Henry, eu mab, 8 oed;
Ann, eu merch, 4 oed;
Gristal?? Williams, 15 oed, gwas.
1851 (Ardal 7c rhif 27)
Robert Williams, prïod, 59 oed, yn ffermio 55 acer; g. Llanengan
Jane - gwall mae'n debygol, am Ann - gwraig, 58 oed; g. Llanengan
William, eu mab, sengl, 25 oed, yn gweithio adref; g. Llanengan
Griffith, eu mab, sengl, 20 oed, yn gweithio adref; g. Llanengan
Henry, eu mab, sengl, 18 oed, yn gweithio adref; g. Llanengan
Anne, eu merch, 14 oed; g. Llanengan
Margaret Roberts, morwyn, sengl, 28 oed; g. Llanengan
1861 (Ardal 17 rhif 56)
Robert Williams, prïod, 69 oed, yn ffermio 56 acer; g. Llanengan
Ann Williams, prïod, 68 oed; g. Llanengan
Griffith, eu mab, sengl, 30 oed; g. Llanengan
Ann, eu merch, sengl, 24 oed; g. Llanengan
Evan Williams, gwas, sengl, 16 oed; g. Llanengan
Eleanor Jones, morwyn, sengl, 15 oed; g. Llanengan
Margaret Roberts, ymwelydd, sengl, 35 oed; g. Llanengan
1871 (Ardal 17 rhif 70)
Ann Williams, gweddw, 79 oed, yn ffermio 56 acer; g. Llanengan
William, ei mab, sengl, 45 oed; g. Llanengan
Griffith, ei mab, sengl, 39 oed; g. Llanengan
Mary Williams, morwyn, sengl, 47 oed; g. Llanengan
Griffith Hughes, gwas, sengl, 22 oed; g. Llanengan
1881 (Ardal 17 rhif 122)
Griffith Williams, prïod, 50 oed, yn ffermio 56 acer; g. Llanengan
Margaret, ei wraig, 33 oed;
Robert, eu mab, 4 oed;
Hugh Griffith, eu mab, 2 oed; (m. Medi 1886 yn 7 oed; B140, Bwlch)
Robert Davies, gwas, sengl, 31 oed; g. Llanengan
Robert Owens, gwas, sengl, 21 oed; g. Nevin
Mary Jones, morwyn, sengl, 17 oed; g. Llanengan
Ym 1881 hefyd mae’n amlwg bod y teulu uchod yn cadw mwynwyr mewn adeiladau ar eu tir, gan fod rhifau 123 a 124 yn dod o dan enw cartref Griffith Williams:
Bryncelyn : rhif 123
John Goldsworthy, penteulu, prïod, 40 oed, ‘leadminer’, g. Dowlais, Glamorgan
Eliza, ei wraig, 32 oed, g. Perran Porth, Cornwall
Lavinia, eu merch, 12 oed, yn yr ysgol, g. Llanidloes, Montgomeryshire
Kerris Amelia, eu merch, 10 oed, yn yr ysgol. g. U.S.A.
Anne Beatrice, eu merch, 8 oed, yn yr ysgol, g. Llanidloes
William Joseph, eu mab, 5 oed, yn yr ysgol, g. Rhayadr, Radnorshire
Ethel Elisa, eu merch, 2 oed, g. Rhayadr
Bryncelyn : rhif 124
Lewis Humphreys, penteulu, prïod, 35 oed, ‘leadminer’ g. Llangurig, Cardiganshire
Margaret, ei wraig, 35 oed, g. Cumberland
Lewis, eu mab, 11 mis oed, g. Llanidloes
1891 (Ardal 17 rhif 9)
Griffith Williams, prïod, ffermwr, 59 oed; g. Llanengan; (m.Tach 1899 yn 70 oed,B140 Bwlch)
Margaret, ei wraig, 42 oed; g. Llanenagn
Robert, eu mab, 14 oed
Henry, eu mab, 9 oed
Mary, eu merch, 11 oed; (m. Gorffennaf 1899, B140 Bwlch)
Ann, eu merch, 2 oed
Jane Owens, morwyn, dibrïod, 22 oed
Hugh Roberts, gwas, 16 oed, g. Bryncroes
1901 (Ardal 16 rhif 40)
Margaret Williams, gweddw, 53 oed, ffarmwraig; g. Llanengan
Robert, ei mab, sengl, 23 oed, yn gweithio ar y fferm; g. Llanengan
Henry, ei mab, sengl, 19 oed, yn gweithio ar y fferm; g. Llanengan
Anne, ei merch, 12 oed, g. Llanengan
Yn ocsiwn Y Faenol 1907 (Lot 103) nodir dros 58 acer o dir, peth ohono ar Ben Pared a Phen Llech (neu Llechfraith). Yn gynwysedig hefyd mae Bryn Celyn Cottage ar y tir.
1911 (Ardal 14 sleid 84/175)
Margaret Williams, gweddw, 62 oed, ffarmwraig; g. Llanengan; (m. 1923 B140 Bwlch)
Robert, ei mab, sengl, 33 oed, yn gweithio ar y fferm; g. Llanengan
Henry, ei mab, sengl, 29 oed, yn gertiwr ar y fferm; g. Llanengan
Ann, ei merch, sengl, 22 oed, morwyn deuluaidd; g. Llanengan; (m. 1941 Bedd B357 Bwlch)
Yn 1914 roedd Margaret Williams a'i mab Robert yn aelodau yng Nghapel Bethlehem, Cilan.
1921 Bryn Celyn Uchaf, Abersoch (Ardal 03. 19. 20. 21. Sleid 545/644)
Margaret Williams, 72.4 oed, penteulu, gweddw, ‘gwaith tŷ’
Robert, ei mab, 43.2 oed, dibrïod, ffermwr, cyflogydd
Ann, ei merch, 32.6 oed, dibrïod, ‘cynorthwyo gyda gwaith tŷ’
Griffith Hamilton Williams, ei ŵyr, 9.3 oed, yn yr ysgol
Claddwyd Robert Williams, yn B308 Bwlch, mae'n debyg ym 1944, er efallai fod camgymeriad dyddiad ar y garreg fedd, sy'n nodi blwyddyn ei eni yn 1897 yn lle 1877. Yn Adroddiad Capel Bethlehem, Cilan 1946, gwelwn fod Ann Williams, ei weddw, wedi symud i fyw i Gwynfor o Bryn Celyn Uchaf. Erbyn Adroddiad 1951mae Ann Williams, Gwynfor, wedi 'ymadael' â'r capel/ardal. Nid yw wedi ei chladdu efo'i gŵr.
Robert ac Ann - oedd yn ddiblant - a fagodd Griffith Hamilton Williams, Bryncelyn Bellaf, g. 1912-1981,mab Ann (1889-1941) chwaer Robert. Ceir teyrnged i Robert Williams yn Adroddiad Bethlehem, Cilan, 1944. Yr oedd ei nai, Griffith Hamilton yn byw yn Cilan Uchaf ers 1940; erbyn Adroddiad 1941 roedd yn brïod â Nellie a mab ganddynt, Robert John Williams. Yn Adroddiad 1945 gwelir fod merch, Ann Eifiona, wedi ei geni iddynt hefyd. Erbyn 1948 yr oedd Griffith H a'i deulu yn byw yn Glaswern (sic) Cottage ac erbyn 1951 yr oedd y teulu wedi cyrraedd Bryncelyn Bellaf. Claddwyd Griffith H. efo'i fam yn Bwlch, B357. Yn dilyn ymadawiad Ann Williams, gweddw Robert, o Fryn Celyn Uchaf, daeth brawd Robert, Harri/Henry (1882-1960) a'i wraig, Elizabeth S.(1894-1976) yno i ffermio, o Greenland, Cilan. (B135) Disgynyddion y teulu hwn sydd yno heddiw.
Comments
Post a Comment