Bachwared

Bachwared ddaw gyntaf, yr enw yn dod o ddau wreiddyn sef Bach – yn golygu cilfach neu gornel gwaered/gwared yn golygu llethr, llechwedd, goriwaered neu waelod. Dyma ddisgrifiad clir o leoliad y fferm uwch tonnau Porth Neigwl.


Bachwared 1841 : (Ardal 13 rhif 64)

John Parry, 30 oed, ffermwr

Margaret Parry, 30 oed

James Parry, 7 oed

Henry Williams, 15 oed, Ag. Lab. (Agricultural labourer)

Rachel Williams, 20 oed, F.S. (Farm servant



Bachywared 1851 : (Ardal 7c rhif 2)

Evan Jones, penteulu, prïod, 32 oed, yn ffermio 30 acer, yn cyflogi 2, g. Llangïan

Anne, ei wraig, 31 oed, g. Llanengan

William, eu mab, 6 oed

Jane, eu merch, 4 oed

Evan, eu mab, 2 oed

Margaret, eu merch, 5 mis oed

Timothy Roberts, gwas, dibrïod, 18 oed

Laura Thomas, morwyn, dibrïod, 18 oed



Bachywared 1861 : (Ardal 17 rhif 89)

Evan Jones, penteulu, gweddw, 42 oed, yn ffermio 50 acer, g. Llangïan

William, ei fab, 15 oed, g. Llanengan

Jane, ei ferch, 14 oed, yn yr ysgol

Evan, ei fab, 12 oed, yn yr ysgol

Margaret, ei ferch, 10 oed, yn yr ysgol

Griffith, ei fab, 8 oed, yn yr ysgol

Salmon, ei fab, 6 oed (m. 17 Ebrill 1893 yn 39 oed, Bwlch B285)

John, ei fab, 4 oed

Elizabeth Roberts, morwyn, dibrïod, 41oed



Bachwared 1871: (Ardal 17 rhif 115)

Evan Jones, penteulu, gweddw, 52 oed, yn ffermio 40 acer, g. Llangïan

Jane, ei ferch, dibrïod, 24 oed

Evan, ei fab, dibrïod, 22 oed

Margaret, ei ferch, dibrïod, 20 oed

John, ei fab, 15 oed, yn yr ysgol

Robert, ei fab, 13 oed, yn yr ysgol 



Bachywared 1881: (Ardal 17 rhif 116)

Evan Jones, penteulu, gweddw, 62 oed, yn ffermio 40 acer, g. Llangïan

Margaret, ei ferch, dibrïod, 30 oed

Robert, ei fab, dibrïod, 23 oed, gwas ar y fferm

Catherine Jones, 15 oed, morwyn



Bachwared 1891: (Ardal 17 rhif 48)

Robert Jones, penteulu, dibrïod, 33 oed, ffermwr

Margaret, ei chwaer, dibrïod, 40 oed, yn cadw’r tŷ

Catherine Jones, 25 oed, dibrïod, morwyn

E ? Williams, 17 oed, gwas, dibrïod



Bachwared 1901: (Adran 16 rhif 74)

Robert Jones, penteulu, dibrïod, 43 oed, ffermwr

Margaret, ei chwaer, dibrïod, 50 oed (m. 16 Mawrth 1910 yn 59 oed, Bwlch B285)

Catherin Jones, 35 oed, dibrïod, morwyn

Griffith Hughes, 14 oed, gwas



Bachwared 1911: (Adran 14 rhif 154/175)

Robert Jones, penteulu, dibrïod, 53 oed, ffermwr

Catherine Jones, 45 oed, dibrïod, yn cadw’r tŷ

Humphrey Roberts, 28 oed, dibrïod, gwas

 

 

Nid yw Bachwared yn ymddangos yn rhestr gwerthiant y Faenol.



Bachwared, Abersoch 1921: (Adran 03. 19.20.21: rhif 581/644)

Robert Jones, penteulu, 63 oed, ffermwr, cyflogydd

Margaret, ei wraig, 39 oed, gwaith tŷ

Evan, eu mab, 3 oed

Alfred Richard Evans, 20 oed, mab Margaret, ‘mechanical engineer’. Bu’n gweithio yn United Brassfounders & Engineers, Cornbrook, Manchester, ond allan o waith yn bresennol.



Bachwared, 1939 England & Wales Register : (Zega Enumeration District: Reg.Dist. 629-3)

Robert Jones, g. 1858 (m. 25 Mehefin 1941, Bwlch B286)

Margaret Jones, g. 1881/2 (m.1975, Bwlch B286)

Evan Jones, g. 1917



Ym 1914 Yn Adroddiad y Capel dim ond enw Robert Jones a gawn o deulu Bachwared, a gwelwn iddo fod yn dal swydd Ysgrifennydd yr Eglwys tan 1917; mae enw Catherine Jones (yr ‘housekeeper’) yn ymddangos ar wahan ymhellach ymlaen, ac felly ym 1915 a 1916. Ond erbyn 1917 ceir enw Margaret o dan enw Robert gan awgrymu iddynt briodi yn ystod y flwyddyn a aeth heibio (gan fod chwaer Robert, Margaret, wedi marw ers 1910)  ac enwau Catherine a Jane Jones Bachwared ar wahan, a’r llythyren A wrth enwau’r oll ohonynt yn dynodi mai aelodau am ran o’r flwyddyn oeddynt. Ceir enw Jane (A) y flwyddyn ganlynol hefyd ynghyd â Robert a Margaret, a gwelwn fedyddio Evan Jones ym 1918

(Ganwyd 23 Gorffennaf 1917; derbyniwyd i’r ysgol leol ar 15 Mawrth 1923; gadawodd am Ysgol Ramadeg Pwllheli ar 19 Medi 1930.) 


O hyn ymlaen enwau Robert, Margaret ac Evie a welwn fel aelodau’r capel o’r cyfeiriad hwn. Mae’r teulu’n cyfrannu’n gyson tuag at yr Achos a derbyniwyd Evie yn gyflawn aelod ym 1933. Fel ei dad, ysgwyddodd yntau gyfrifoldebau’r Achos, gan fod yn Drysorydd yr Ysgol Sul ym 1938 ac yn un o’r casglyddion am rai blynyddoedd.

 

Bu farw Robert ym 1941 a’r deyrnged yn nodi iddo roi  ‘blynyddoedd o wasanaeth ffyddlon a gwerthfawr fel Ysgrifennydd yr Eglwys, gwaith a gyflawnodd gyda graen a destlusrwydd. Bu’n weithiwr cyhoeddus defnyddiol, a chofiwn am ei arolygiaeth fedrus yn yr Ysgol Sul am flynyddoedd.’


Gwelwn yn Adroddiad 1942 fod teulu Bachwared yn derbyn gweinidogion ar y Sul drwy fisoedd Awst a Medi, a hynny am flynyddoedd i ddod. Ym 1950 rhoddir manylion y merched a roddai flodau yn y capel ar y Sul, ac mae enw Margaret, Bachwared, yn gyson ymddangos yn rhannu’r ddyletswydd honno efo Mrs E. Williams, Siop Cilan, bob Awst. Mae cysondeb eu cyfraniadau yn amlwg.


Ym 1922 sonnir am ymadawiad Nell Evans, Bachwared, ac ym 1944 cyfeirir at Nellie Jones, Bachwared, yn aelod am ran o’r flwyddyn. Ai gwraig Evan oedd hon? Bu Nellie’n aelod llawn ym 1945, ac ym 1946 bedyddiwyd Morfydd Jones, Bachwared, gan y Parch G.G. Owen, Penygroes, ar 26 Mai. Erbyn y flwyddyn ganlynol, fodd bynnag, mae Nellie a Morfydd wedi ymadael. Am y blynyddoedd i ddilyn, Margaret a’i mab Evie yw trigolion Bachwared bellach.


Erbyn 1973, fodd bynnag, cawn enw newydd ymysg rhestr Caredigion yr achos, sy’n cyfrannu’n gyson tan 2001, sef Mrs F M Jones, Bachwared. Dyma ail wraig Evie, sy’n ddi-Gymraeg, ac felly ddim yn ymaelodi, ond cymerodd ddyletswydd y blodau bob Awst yn ddeddfol tan iddi symud o’r ardal ym 1997. 


Ym 1975 bu Margaret farw ar 5 Rhagfyr yn 94 oed (Bwlch B286)  a’r deyrnged iddi’n canmol ei ‘gweithgarwch. Drws ei chartref a’i chwpwrdd yn agored led y pen i groesawu. Bu’n ffyddlon a pharod ryfeddol ei gwasanaeth i’r Eglwys tra y gallodd’ a bu Evie a’i wraig yn cyfrannu er cof amdani yn flynyddol hyd at 2001 pan welwn yr enw Bachwared am y tro olaf yn yr Adroddiadau.


Ym 1982, nodir marw Evie ar 6 Medi yn 65 oed (Bwlch C069) gan adael ei weddw Florrie yn Bachwared. Sonnir yn yr Adroddiad i Evie farw yr un flwyddyn â’i gymydog yn Nant, Janet Ann Evans, dau ‘wedi cyd-fyw ar y clawdd terfyn, a chydymwneud llawer fel teuluoedd. Yr un nodweddion yn tarddu a llewyrchu drwyddynt – tawelwch braf, aeddfedrwydd, hirymaros, a chymwynasgarwch.’


O’r flwyddyn hon ymlaen, cyfeiriad at Evie a’i fam a gawn yn rhestr y Caredigion gyda chyfraniadau blynyddol Florrie er cof amdanynt. Mae’n amlwg iddi hi deimlo unigrwydd byw yn Bachwared heb ei gŵr, gan iddi godi cartref newydd iddi ei hun ar dir y fferm ger y lôn fawr, Bryn Grug, a symud iddo ym 1988. Fel canlyniad daeth Mr a Mrs Ramsden i Bachwared fel perchnogion newydd a buont hwy yn gyfranwyr hael tuag at achos y capel am flynyddoedd tan 2001. Mae perchnogion newydd yno bellach.


Yn dilyn sgwrs ffôn efo Gwen Jones Parry, (Riffli gynt) ar 9 Chwefror 2024, cafwyd ar ddeall pwy oedd teulu Margaret Bachwared. Rhydd Cyfrifiad 1851 i ni’r wybodaeth ganlynol am Sarn Bach: 

 

 Sarnfawr: (Ardal 7c rhif 5)

Margaret Griffith, penteulu, prïod, 32 oed, ‘mariner’s wife’

William, ei mab, 9 oed, yn yr ysgol

Owen, ei mab, 7 oed, yn yr ysgol

Griffith, ei mab, 4 oed

Margaret, ei merch, 2 oed

Jane, ei merch, 1 mis oed


1861 : Sarn (Ardal 17 rhif 84)

Margaret Griffith, penteulu, gweddw, 45 oed, ‘sailor’s widow’

Griffith, ei mab, 14 oed, ‘mariner’

Margaret, ei merch, 12 oed

Jane, ei merch, 10 oed

Catherine, ei merch, 4 oed


1871 : Sarn (Ardal 17 rhif 97)

Margaret Griffith, penteulu, gweddw, 55 oed, ‘domestic housekeeper’

 Jane, ei merch, 20 oed (mam Griffith Evans, Tanllech/Hafdy)

Catherine, ei merch, 14 oed, yn yr ysgol

Richard Evans, ‘lodger’, 24 oed, ‘lead miner’ g. Penegoes, Montgomery

Samuel Jones, ‘lodger’, 22 oed, ‘lead miner’ g. Llanfihangel?, Cardiganshire


Priodwyd y ddau ac aethant i fyw i Ty’n Llan, Llanengan. Cawsant 6 o blant.


1881 : Tyn Llan, Llanengan (Ardal 18 rhif 35)

Richard Evans, penteulu, prïod, 33 oed, ‘Carrier’ g. Montgomeryshire

Jane, ei wraig, 30 oed (claddwyd 29 Mawrth 1888 yn 36 ml. B176 Bwlch, dim carreg)

Griffith, eu mab, 6 oed, yn yr ysgol (ganwyd 15 Rhagfyr 1876 : Eng.&Wales Register 1939)

Kate, eu merch, 4 oed, yn yr ysgol

William, eu mab, 2 oed

Jane Griffith, morwyn, 16 oed


1891: Tyn Llan, Llanengan (Ardal 18 rhif 4)

Richard Evans, penteulu, gweddw, 41 oed, ‘Poor Rate Collector’, g. Llanbrynmair, Mont.

Griffith, ei fab, 16 oed, yn yr ysgol, g. Llanengan (aeth i fyw i Tanllech, Cilan ar ôl 1918)

Kate, ei ferch, 14 oed, yn yr ysgol

William, ei fab, 12 oed, yn yr ysgol (taid Huw Evans, Tanyfynwent)

Margaret, ei ferch, 9 oed yn yr ysgol (gwraig Robert Jones, Bachwared)

Lydia J, ei ferch, 6 oed, yn yr ysgol

Laura, ei ferch, 4 oed, yn yr ysgol


1901: Pant y Gwyn, Llanengan (Ardal 16 rhif 93)

Richard Evans, penteulu, gweddw, 49 oed, ‘car driver’, g.Llanbrynmair. Mont.

Margaret, ei ferch, dibrïod, 19 oed, g. Llanengan

Laura, ei ferch, 14 oed


1911: Pantygwyn, Llanengan (Ardal 13 sleid 164/181)

Richard Evans, penteulu, gweddw, 64 oed, bu’n brïod am 6 ml, 6 phlentyn, yr oll yn fyw,            ffermwr, g.Sir Drefaldwyn (claddwyd 12 Gorffennaf 1913 yn 66 ml. B176 Bwlch, dim carreg)

Margaret, ei ferch, dibrïod, 29 oed, ‘housekeeper’ g. Llanengan

Alfred Richard, ei ŵyr, 9 oed, g. Llanengan


                                                            *****************

Comments

Popular posts from this blog

Bryncelyn-bach

Bryncelyn Uchaf

Bryngwyn