Bodarfoel
Mae ystyr yr enw Bodarfoel yn eitha eglur : ‘bod’ yw preswylfod, cartref, lle i fyw. Mae’r cartref ar y foel ym mhen draw’r penrhyn yn ddisgrifiadol addas.
Bodolfoel : 1841(Ardal 13 rhif 59)
John Griffith, 45 oed, ffermwr
William Griffith, 30 oed
Robert Griffith, 15 oed, ‘miner’?
Moses Griffith, 14 oed
Elinor Thomas, 40 oed, F S (farm servant)
Gwen Jones, 15 oed, F S
Bodervoel : 1851 (Ardal 7c rhifau 25 a 26)
1. William Jones, penteulu, prïod, 39 oed, yn ffermio 17 acer, g Llanengan
Jane, ei wraig, 30 oed
John, eu mab, 3 oed
Ellen, eu merch, 6 mis oed
Ar 20 Mai 1841 claddwyd Griffith Jones, Bodarfoel yn 26ain oed. A oedd yn frawd i William uchod dybed?
2. John Griffith, penteulu, prïod, 58 oed, yn ffermio 17 acer, g. Aberdaron
Ellen, ei wraig, 42 oed, g. Bottwnog
Jane, eu merch, 4 oed, g. Llanengan
Boderfoel : 1861 (Ardal 17 rhif 69)
William Jones, 50 oed
Jane, ei wraig, 41 oed
John, eu mab, 13 oed
Eleanor, eu merch, 10 oed
Robert, eu mab, 7 oed
William, eu mab, 4 oed
Evan, eu mab, 1 oed
Bodarfoel : 1871 (Ardal 17 rhif 91)
William Jones, penteulu, prïod, 58 oed, yn ffermio 40 acer (bu farw 21 Medi 1880 yn 70ain, bedd A031 Eglwys Llanengan)
Jane, ei wraig, 57 oed
John, eu mab, 23 oed, dibrïod, ‘labourer’
Ellen eu merch, 20 oed, dibrïod
Robert, eu mab, 18 oed
William, eu mab, 15 oed
Evan, eu mab, 12 oed
Bodorfoel : 1881 (Ardal 17 rhif 91)
Jane Jones, penteulu, gweddw, 59 oed, gweddw’r ffermwr
John, ei mab, dibrïod, 33 oed, ‘leadminer’
Ellen, ei merch, 30 oed, ‘dressmaker’
Robert, ei mab, 27 oed, ‘farm servant’
Evan, ei mab, 21 oed, ‘farm servant’
Bodyfoel : 1891 (Ardal 17 rhif 24)
Jane Jones, penteulu, gweddw, 70 oed, g Llanengan (bu farw 21 Ebrill 1897 yn 77 ml, A031)
John, ei mab, dibrïod, 42 oed, ‘farm labourer’
Ellen, ei merch, dibrïod, 40 oed, ‘housekeeper’
Robert, ei mab, dibrïod, 37 oed, ‘farm labourer’
Evan, ei mab, dibrïod, 32 oed, ‘farm labourer’
Bodor Foel : 1901 (Ardal 16 rhif 52)
John Jones, penteulu, dibrïod, 53 oed, ffermwr
Ellen, ei chwaer, dibri2od, 50 oed
Robert, ei frawd, dibrïod, 47 oed, ‘agricultural labourer’
Evan, ei frawd, dibrïod, 41 oed, ‘agricultural labourer’
Bodrfoel : 1911 (Adran 14 rhif 102/175)
Robert Jones, penteulu, dibrïod, 56 oed, ffermwr
Evan, ei frawd, dibrïod, 51 oed, gweithiwr ar y fferm
Ellen, ei chwaer, dibrïod, 59 oed, gwaith tŷ
Bodyfoel : 1921 (Adran 03. 19.20.21. rhif 628/644)
Ellen Jones, penteulu, 69.0 oed, ‘gwaith tŷ’
Robert, ei brawd, 65.11 oed, ffermwr
Evan, ei brawd, 60.7 oed, ‘efo’i frawd ar y fferm’
Mae’n amlwg mai eglwyswyr oedd y teulu yn wreiddiol gan i gofnod bedydd Robert ddangos iddo gael ei fedyddio yn Eglwys Llanengan ar 8 Gorffennaf 1853. Ac ym mynwent yr Eglwys y’i claddwyd. Bu farw 10 Mawrth 1929 yn 75 oed (bedd D062) ac Evan yn ei ddilyn ar 24 Gorffennaf 1933 yn 73 oed, yntau yn yr un bedd.
Ond cawn bod Ellen Jones ar lyfrau’r capel ym 1914 a chyfrannodd yn gyson anrhydeddus tan 1924 pan fu farw yn 73 oed ar 20 Awst. Claddwyd hi gyda’i rhieni ym mynwent yr Eglwys (bedd A031) a chafwyd cyfeiriad teilwng ati a’i ffyddlondeb i gyfarfodydd y capel yn Adroddiad 1924 gan y gweinidog, H D Lloyd.
Mae’n debyg i Evan barhau i fyw ym Modarfoel tan ei farwolaeth ym 1933, gan ei bod yn 1935 ar William Charles Williams a Dora yn symud yno o Benymynydd yn ôl Adroddiad 1935. A disgynyddion y teulu hwn sydd ym Modarfoel hyd heddiw. (Gellir cydio’r teulu hwn gyda chenhedlaeth flaenorol a theulu estynedig yn Nodiadau Castell, Cilan 4.)
*****************
Comments
Post a Comment