Bryncelyn Cottage/Bach

1841 : Bryncelyn Cottage (Bryncelyn Sarah/Bryncelyn Bach)

(Ardal 13, rhif tua 25)

John Jones, 70 oed, ffermwr

Mary, ei wraig, 65 oed

Grifffith, eu mab? 34 oed

Richard, eu mab? 30 oed, ‘blacksmith’

Catherine Roberts, 35 oed, eu merch? (mam Elizabeth Roberts, hen nain Iris Griffiths)

John, mab Catherine, 1 oed

Elizabeth Evans, 15 oed, morwyn



1851: Bryncelyn (Ardal 7c rhif 16)

Griffith Jones, penteulu, prïod, 42 oed, yn ffermio 12 acer, ganwyd Llanengan

Margaret, ei wraig, 29 oed, g. Llanengan

Mary, ei fam, gweddw, 79 oed, g. Llanengan

Mary, eu merch, 1 oed

William Jones, gwas, 23? oed, yn gweithio ar y fferm, g. Ll’engan


Hefyd yn 1851 rhif 31 o dan Bryncelyn mae:

Catherine Roberts, penteulu, prïod, 44 oed, ‘mariner’s wife’, g. Llanengan

John, ei mab, 11 oed

Elizabeth, ei merch, 6 oed



1861: Bryncelyn (Ardal 17 rhif 93)

Catherine Roberts, penteulu, prïod, 55 oed, ‘mariner’s wife’

Elizabeth, ei merch, 16 oed 


Yn 1861 daw teulu Griffith Jones 54, Margaret 38, a’u plant Mary 11 a John 9 o dan rhif 96, Ty’r Lôn. Ac yn Ty’r Lôn yn 1871, rhif 59.



1871: Bryncelyn (Ardal 17 rhif 69)

Evan Roberts, penteulu, gweddw, 58 oed, ‘sailor’, g. Ll’engan

Elizabeth, ei ferch, dibrïod, 26 oed (priododd Daniel Jones a byw yn Bwlchclawdd Uchaf)

 


1881: Bryncelyn (Ardal 17 rhif 123)

John Goldsworthy, penteulu, prïod, 40 oed, ‘leadminer’, g. Dowlais, Glamorgan

Eliza, ei wraig, 32 oed, g. Perran Porth, Cornwall

Lavinia, eu merch, 12 oed, yn yr ysgol, g. Llanidloes, Montgomeryshire 

Kerris? Amelia, eu merch, 10 oed, g. United States America

Anne Beatrice, eu merch, 8 oed, g. Llanidloes

William Joseph, eu mab, 5 oed, g. Rhayadr, Radnorshire

Ethel Elisa, eu merch, 2 oed, g. Rhayadr


(rhif 124)

Lewis Humphreys, penteulu, prïod, 35 oed, ‘leadminer’, g. Llangurig, Cardiganshire

Margarert, ei wraig, 35 oed, g. Cumberland

Lewis, eu mab, 11 mis oed, g. Llanidloes



1891: (Ardal 17 rhif 56) Bryncelyn bach

William Williams, penteulu, prïod, 65 oed, ‘leadminer’ g. Llaniestyn

Sarah, ei wraig, 59 oed, g. Llangïan

Thomas, eu mab, dibrïod, 25 oed, ‘leadminer’ g. Llanengan

Jane Owen, chwaer-yng-nghyfraith, di-brïod, 79 oed


 

1901: (Ardal 16  rhif 78) Bryn Celyn Bach

William Williams, penteulu, prïod, 78 oed, yn gweithio ar fferm

Sarah, ei wraig, 69 oed

Jane Owens, ‘boarder’, dibrïod, 89 oed, g. Llangïan


1911 : Bryncelyn-bach, Abersoch (164/175)

Sarah Williams, penteulu, gweddw, 79 oed

Owen, ei mab, dibrïod, 42 oed, yn gweithio ar fferm


1921: Bryn Celyn, Abersoch (547/644)

Sarah Williams, penteulu, gweddw, 90.6 oed, g. Llangïan

Owen , ei mab, dibrïod, 53 oed, ‘engine driver, threshing machine’, yn gweithio i H Thomas, 

New Mill, Nanhoron.


Yn Rhestr Etholwyr Ebrill 1921, cyfeirir at gartref Owen Williams  fel Bryncelyn Bach.


Yn Adroddiad 1914 gwelwn enw Owen Williams yn gyflawn aelod o’r capel, ac felly’n flynyddol, gan roi hefyd ei wasanaeth drwy rannu’r gofal am y drysau ym Mehefin a Rhagfyr yn 1917-18. Gwelir iddo gyfrannu tuag at beintio’r capel ym 1930 ac erbyn y flwyddyn ganlynol, 1931, mae Owen yn amlwg wedi priodi Maggie, a Sarah Margaret yn blentyn iddynt. Daw ei brïod hefyd yn aelod o’r capel. Ym 1934 bedyddiwyd Tommy Williams yn fab iddynt ar 16 Mai – ganwyd 26/4/34. Ond cwta 5 oed oedd Tommy pan fu farw ei fam, Maggie, ar 11 Mawrth 1939, a Sarah hithau ddim ond tair blynedd yn hŷn. (Derbyniwyd Tommy i’r ysgol ar 5/6/39, rhif 1185. Gadawodd 30/7/48 a mynd i Ysgol Pwllheli.)


Torrodd y Rhyfel ymhen ychydig fisoedd a diddorol yw gweld bedyddio Maureen Gwenyth Breohaut, Bryncelyn Cottage ym 1940 – dybed beth oedd y stori tu ôl i’r datganiad hwn? Erbyn 1950 mae Tommy yn cael ei enw’n fwy ffurfiol fel Thomas, ac weithiau Thomas Parry (Williams) i roi iddo ei enw llawn. Ym 1952 mae enw arall ynghlwm ag aelodau’r teulu, sef Catherine Jane Williams, ond heb eglurhad pellach. Mae’r un enw gyda’r teulu ym 1953 ond nodir iddi ymadael yn ystod y flwyddyn. Mae’n amlwg i Tommy fod yn un o gasglyddion y capel yn ei dro, a chyfeirir at ei gartref fel Bryncelyn Bach ym 1954, yntau a’i deulu yn cyfrannu at dwymo’r capel y flwyddyn ganlynol, ym 1955.

 

Wedi blynyddoedd fel gŵr gweddw gwelwn gofnodi marwolaeth Owen Williams ym 1956 a’r dysteb yn yr Adroddiad yn canmol ei ffyddlondeb tawel ar hyd y blynyddoedd. (Bedd A084 Bwlch) Ym 1957 cofnodir rhodd ariannol gan Sarah a Tommy er cof am Deulu Bryncelyn Bach o dan y pennawd Caredigion yr Achos. Erbyn 1959 mae’n amlwg i Sarah a Tommy fod wedi symud gan y rhoddir Tanrallt Cottage fel eu cyfeiriad bellach. A dyna ddiwedd cyfnod yn hanes y bwthyn.

 

Comments

Popular posts from this blog

Bryncelyn-bach

Bryncelyn Uchaf

Bryngwyn