Posts

Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003

Newid byd oedd dod i fyw i Cilan ym 1977, fel Cymraes o Sir y Fflint yn hytrach na Saesnes oedd am dŷ haf. Roedd fy acen ychydig yn wahanol; nid oedd perthnasau gen i’n byw yn yr ardal, felly wyddai neb pwy oeddwn ond ‘gwraig John Gwilym Nampig’. Codasom dŷ; magwyd y plant; dilynais fy ngyrfa fel athrawes. Nid oedd amser i wneud dim arall er i mi fod wedi ymaelodi â’r capel a Merched y Wawr. Maes o law, trwy hap a damwain, ac yna ychydig ymchwilio, darganfûm i’m hynafiaid ochr fy nhad fod wedi hanu oddiyma a mawr fu’r syndod i Tan y Bryn fod yn gartref iddynt o tua 1800 hyd 1860. Bu disgynyddion na wyddwn am eu bodolaeth yn byw yn yr ardal am flynyddoedd wedyn hefyd.  Flynyddoedd yn ddiweddarach, wedi cael hyd i fwy o wybodaeth yn yr Archifdy, penderfynais ddefnyddio’r dechnoleg a’r wybodaeth oedd ar gael, i greu darlun hanesyddol o’r ardal gan ganolbwyntio ar y  Cyfrifiadau  yn bennaf ac  Adroddiadau  blynyddol  Capel   Bethlehem, Cilan . Cefais wybod...

Bachwared

Bachwared  ddaw gyntaf, yr enw yn dod o ddau wreiddyn sef  Bach  – yn golygu  cilfach  neu  gornel  a  gwaered/gwared  yn golygu  llethr, llechwedd, goriwaered  neu  waelod . Dyma ddisgrifiad clir o leoliad y fferm uwch tonnau Porth Neigwl. Bachwared  1841 : (Ardal 13 rhif 64) John Parry, 30 oed, ffermwr Margaret Parry, 30 oed James Parry, 7 oed Henry Williams, 15 oed, Ag. Lab. (Agricultural labourer) Rachel Williams, 20 oed, F.S. (Farm servant Bachywared 1851 : (Ardal 7c rhif 2) Evan Jones, penteulu, prïod, 32 oed, yn ffermio 30 acer, yn cyflogi 2, g. Llangïan Anne, ei wraig, 31 oed, g. Llanengan William, eu mab, 6 oed Jane, eu merch, 4 oed Evan, eu mab, 2 oed Margaret, eu merch, 5 mis oed Timothy Roberts, gwas, dibrïod, 18 oed Laura Thomas, morwyn, dibrïod, 18 oed Bachywared 1861 : (Ardal 17 rhif 89) Evan Jones, penteulu, gweddw, 42 oed, yn ffermio 50 acer, g. Llangïan William, ei fab, 15 oed, g. Llanengan Jane, ei ferch...

Bodarfoel

Mae ystyr   yr enw  Bodarfoel   yn eitha eglur : ‘bod’ yw preswylfod, cartref, lle i fyw. Mae’r cartref ar y foel ym mhen draw’r penrhyn yn ddisgrifiadol addas . Bodolfoel : 1841(Ardal 13 rhif 59) John Griffith, 45 oed, ffermwr William Griffith, 30 oed Robert Griffith, 15 oed, ‘miner’? Moses Griffith, 14 oed Elinor Thomas, 40 oed, F S (farm servant) Gwen Jones, 15 oed, F S Bodervoel : 1851 (Ardal 7c rhifau 25 a 26) 1.          William Jones, penteulu, prïod, 39 oed, yn ffermio 17 acer, g Llanengan Jane, ei wraig, 30 oed John, eu mab, 3 oed Ellen, eu merch, 6 mis oed Ar 20 Mai 1841 claddwyd Griffith Jones, Bodarfoel yn 26ain oed. A oedd yn frawd i William uchod dybed?   2.       John Griffith, penteulu, prïod, 58 oed, yn ffermio 17 acer, g. Aberdaron Ellen, ei wraig, 42 oed, g. Bottwnog Jane, eu merch, 4 oed, g. Llanengan Boderfoel : 1861 (Ardal 17 rhif 69) William Jones, 50 oed Jane, ei wraig, 41 oed John, eu mab...

Bryncelyn-bach

Er nad oes sicrwydd, credaf mai  Bryncelyn-bach   y cyfeirir ato yn rhestrau blynyddol y  Dreth   Tir , yn eiddo i  Thomas Assheton Smith  ac yn werth 6 cheiniog i'w dalu i'r Goron amdano. Yn  1818, Richard   Roberts  oedd y tenant, a'i enw yno o  1808-18 . Hawliwyd 1 swllt o dreth yn 1808 hyd at 1814.   O  1801-1807 John Jones  oedd y tenant; yn  1800 Henry Williams ; yn  1789 a chynt Robert   Griffith ; mae un rhestr lle nad yw'r dyddiad yn glir na'r enw yn llawn - Catherine ?   Ffermir y tir heddiw gan deulu Nant, Cilan a Bodlondeb, Sarn Bach.    Bryncelyn-bach : 1841 (Ardal 13 rhif 27) William Parry, 45 oed, 'joiner' Mary, gwraig, 40 oed Henry, mab, 18 oed - priododd Elizabeth Williams, Tanybwlch, chwaer Griffith Williams, y ddau yn blant Ann Sorton, merch Mary Sorton, Cim Jane, merch, 20 oed Catherine, merch, 15 oed Bryncelyn-bach: 1851 (Ardal 7c rhif 26) William Parry, 60 oed, 'joiner' M...

Bryncelyn Cottage/Bach

1841 :  Bryncelyn Cottage  ( Bryncelyn Sarah/Bryncelyn Bach ) (Ardal 13, rhif tua 25) John Jones, 70 oed, ffermwr Mary,  ei wraig, 65 oed Grifffith,  eu mab? 34 oed Richard, eu mab? 30 oed, ‘blacksmith’ Catherine Roberts, 35 oed, eu merch?  (mam Elizabeth Roberts, hen nain Iris Griffiths) John, mab Catherine, 1 oed Elizabeth Evans, 15 oed, morwyn 1851: Bryncelyn (Ardal 7c rhif 16) Griffith  Jones, penteulu, prïod, 42 oed, yn ffermio 12 acer, ganwyd Llanengan Margaret, ei wraig, 29 oed, g. Llanengan Mary , ei fam, gweddw, 79 oed, g. Llanengan Mary, eu merch, 1 oed William Jones, gwas, 23? oed, yn gweithio ar y fferm, g. Ll’engan Hefyd yn 1851 rhif 31 o dan Bryncelyn mae: Catherine Roberts , penteulu, prïod, 44 oed, ‘mariner’s wife’, g. Llanengan John, ei mab, 11 oed Elizabeth,  ei merch, 6 oed 1861: Bryncelyn (Ardal 17 rhif 93) Catherine Roberts , penteulu, prïod, 55 oed, ‘mariner’s wife’ Elizabeth,  ei merch, 16 oed   Yn  1861  daw ...

Bryncelyn Uchaf

Bryncelyn   (mae 6 tŷ o’r enw hwn)   Mae’r ffaith mai dim ond yr enw Bryncelyn yn unig a geir yn y Cyfrifiadau, ac hefyd yn yr Adroddiadau capel, yn golygu fod aneglurder i ni heddiw   ynglŷn â pa deulu oedd yn byw   ym   mha dŷ, er y byddai trigolion lleol ar y pryd yn gwybod yn iawn pwy oedd yn byw yn lle wrth gwrs. Rhydd llyfr Ocsiwn y Faenol (1907) gymorth drwy enwi  Bryncelyn   Uchaf ,  Bryncelyn Isaf ,   Bryncelyn-bach,  a   Bryncelyn Cottage  a’i tenantiaid, er yn lleol gelwid  Bryncelyn Cottage  yn  Bryncelyn Sarah neu Bryncelyn Bach  a  Bryncelyn-bach  yn  Bryncelyn William Parry  yn ôl eu trigolion ar gyfnodau penodol. Am y ddau Fryncelyn arall, nid oeddynt yn perthyn i dir Y Faenol  - ac felly nis gwerthwyd yn yr Ocsiwn - er iddynt sefyll yn agos iawn i Bryncelyn-bach. Yn y blynyddoedd mwy diweddar enwyd un o’r rhain yn Bryncelyn Bellaf, a’r llall sydd yn rhannu’r unt...