Glaswen
Glaswen – 1841 (Ardal 13 rhif 9)
Richard Williams, 65 oed, gof, ddim wedi ei eni yn y plwyf
Ann, ei wraig, 61, wedi ei geni yn y plwyf
Martha, eu merch, 26 oed, wedi ei geni yn y plwyf
1851 (Ardal 13 Refail 12 ac 13 (dim enw Glaswen o gwbl)
12. Thomas Owens, penteulu, prïod, 29 oed, yn gweithio ar fferm, g. Llanengan
Anne, ei wraig, 27 oed
13. Evan Williams, penteulu, prïod, 41 oed, ‘miner’
Anne, ei wraig, 41 oed
William Morris, eu mab, 2 oed
1861 (Ardal 17 Refal rhif 99; Glaswan rhif 100)
Refal – Mary Jones, penteulu, gweddw, 49 oed, mariner’s wife
Peter Williams, lodger, dibrïod, 40 oed, leadminer, g. Holywell, Flints
Glaswan – Thomas Owens, penteulu, prïod, 39 oed, labourer, g. Llanengan
Ann, ei wraig, 38 oed
Laura, eu merch, 14 oed
Owen, eu mab, 11 oed
William, eu mab, 9 oed
Thomas, eu mab, 5 oed
Margaret, eu merch, 2 oed
1871 Refail Glaswen – (Ardal 17 rhifau 62 a 63)
62. Griffith Jones, penteulu, prïod, 65 oed, ‘miner’
Hannah, ei wraig, 65 oed
John Evans, ‘boarder’, prïod, 26 oed, ‘miner’, g. Rhuthun
Jane, ei wraig, 24 oed, g. Llanengan
1881 Glaswen, (Ardal 17 rhifau 131 a 132)
131. Griffith Jones, penteulu, prïod, 75 oed, ‘lead miner’
Hannah, ei wraig, 75 oed
132. Ceir llinell drwy’r gair Refail, gan adael dim ond yr enw Glaswen
Thomas Owens, penteulu, prïod, 60 oed, ‘farmservant’
Anne, ei wraig, 58 oed
Richard, eu mab, 16 oed, ‘scholar’
1891 – (Ardal 17 rhif 66) Efailglaswen
Elizabeth Evans, penteulu, prïod, 40 oed
Griffith W, ei mab, 14 oed, ‘scholar’
Jane M, ei merch, 11 oed, ditto
Mary Winifred, ei merch, 9 oed, ditto
Ellin, ei merch, 7 oed, ditto
Robert Edward, ei mab, 4 oed
1901 – (Ardal 16 rhifau 83, 84, 85) Glaswen
83. John Evans, penteulu, prïod, 34 oed, ‘worker on farm’ g. Bryncroes
Laura, ei wraig, 39 oed? g. Llanengan
Evan J, eu mab, 8 oed
Griffith, eu mab, 6 oed
84. Thomas Owen, penteulu, prïod, 80 oed, ‘Ag Lab’?
Ann, ei wraig, 78 oed
85. William Williams, penteulu, prïod, 36 oed, ‘Ag Lab’, g. Llaniestyn
Laura, ei wraig, 32 oed, g.Llanengan
Lizzie , eu merch, 10 oed
William, eu mab, 8 oed
Rowland, eu mab, 3 oed
(Yn 1891 y teulu uchod yn Bryn Celyn Bellaf. Yn 1911 gelwir y tŷ yn Penlôn)
1911 – (Ardal 14, sleidiau 170-173/175) Glaswen
170/1. John Evans, penteulu, prïod, 45 oed, ‘farm labourer’, g. Bryncroes
Laura, ei wraig, 49 oed, bu’n brïod am 19 ml, 4 plentyn, 3 yn dal yn fyw
Griffith, eu mab, 16 oed, ‘farm labourer’
172/3. Elenor Netherton, penteulu, gweddw, 47 oed, ‘Elementary school teacher’,
yn gyflogedig gan Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon, g.Llanrhaiadr, Montgomeryshire
Helena, ei merch, 19 oed, dibrïod, yn athrawes fel ei mam, g.Trawsfynydd
174/5. Penlôn
William Williams, penteulu, 46 oed, prïod, llafurwr amaethyddol, g. Llaniestyn
Laura, ei wraig, yn brïod ers 23 mlynedd, 4 o blant, oll yn fyw g. Llanengan
Eliza, eu merch, 21 oed, dibrïod, ‘dressmaker’, own acc.
Rowland, eu mab, 13 oed, yn yr ysgol
1921 – (Ardal Pwllheli, 03 < 21 < 560/644) Glaswen, Abersoch
John Evans, penteulu, 55.4 oed, prïod, g. Rhiw, llafurwr amaethyddol i Owen Williams, ffermwr, Gwydryn, Abersoch C
Laura, ei wraig, 59.7 oed, g. Llanengan, gwasanaeth tŷ, gartref C
Griffith Roberts, byrddiwr, 57.10 oed, dibrïod, g. Llanengan, llafurwr amaethyddol i William Williams, ffermwr, Ysguborhen C
561/2 Henry Griffith, prïod, 42.11 oed, llafurwr amaethyddol i J W Holland yn Cim
Mary, ei wraig, 34.2 oed, g. Llangïan, gwaith tŷ
Penlôn 563/4
William Williams, penteulu, 57.8, prïod, g. Llaniestyn, llafurwr amaethyddol I Griffith Williams, Tŷ Newydd
Laura, ei wraig, 53.2 oed, cadw tŷ
Elizabeth, eu merch, 31.6 oed, gwnïo, iddi ei hun
1939 – (Lleyn Rd < Zega < rhif 41 4/10) Glaswen, Sarn Bach, Abersoch
John Evans, g. 11/4/1867, llafurwr amaethyddol (retired)
Laura Evans, g. 16/11/1861, house duties, unpaid
Glaswen Cottage, rhif 42: Dorothy Williams, g. 13/5/1896, dibrïod, house duties, unpaid
1939 - Penlon, Sarn Bach, Abersoch rhif 43
John Owen Jones, g. 31/3/1906, gardener and land labour
Rhif 44 James Ivor Jones, 13/4/1915, plasterer
Kate Jones, 4/5/1913, household duties, unpaid
Ymddengys i dri tŷ ddatblygu yn Glaswen dros amser – dau o dan yr enw Glaswen a’r llall o dan yr enw Penlôn. Ym 1914, roedd Griffith Roberts, Bryndu wedi symud i fyw i Glaswen wedi marw ei fam, a John Evans a Laura, ei wraig, wedi bod yn sefydlog yno ers 1901 o leiaf. Ar lyfrau’r capel, rhoddir enw Griffith yn gyntaf pan restrir enwau’r tri aelod o Glaswen. Ym 1916 ategir enw Evan J Evans atynt, fyddai’n 23 mlwydd oed o gymeryd mai mab John a Laura oedd. Yn Adroddiad 1917 ymddiheurir y dylai ei enw fod wedi ei gynnwys yn Adroddiad 1916 ymhlith rhestr yr aelodau ifanc oedd yn y lluoedd arfog; ond erbyn 1917 enw ei frawd Griffith sydd yn rhestr y lluoedd, ac enw Evan gyda’i deulu. Ni welir enwau’r ddau fab ar ôl 1918. Ym 1923 nodir marw Griffith Roberts. Rhoddir teyrnged ganmoladwy iddo yn yr Adroddiad yn nodi ei “ffyddlondeb mawr yng ngwyneb anfanteision mawr”. Nid yw’n glir beth oedd yr anfanteision hynny.(Bwlch A088, gyda’i fam, Gayney Roberts, Bryndu)
Erbyn 1924 mae John Evans arall wedi ymsefydlu yn Glaswen efo’i wraig Jane Ellen. John Evans a fagwyd ym Mur Cwpwl yw hwn (1883-1942) a’i wraig o Muriau. Fe’i priodwyd tua 1919. Cyn symud i Glaswen buont yn Castell Cottage a Bryn yr Eryr, Cilan. Ym 1925 gelwir cartref John a Jane Ellen yn Glaswen Cottage am y tro cyntaf. Pery’r enwau a’r cyfeiriadau hyn am flynyddoedd tan 1936 pan welwn i John Evans, Glaswen Cottage a Jane Ellen fod wedi symud i Rhiwlas, dros y ffordd.
Ym 1936 mae John Evans a Laura yn parhau yn Glaswen ac enwau newydd mewn dau dŷ a elwir yn Glaswen Cottage, Catherine Roberts yn un; a William Charles Williams a’i wraig Dora yn y llall. Ai’r Catherine E Roberts y derbyniwyd ei thocyn yn y capel ym 1932 ac a fu’n byw yn Penmynydd a Bodarfoel cyn cyrraedd Glaswen Cottage ym 1936 yw hon? Os felly mae cyswllt rhyngddi â William Charles Williams a Dora fu hefyd yn byw cynt ym Mhenmynydd a Bodarfoel ac sydd wedi cyrraedd Glaswen Cottage fel trigolion newydd. Ond byr fu arhosiad William Charles gan i’r Adroddiad ym 1937 nodi ei farwolaeth ar 2 Chwefror yn un o ‘ddau o’n haelodau hynaf’. Mae’n amlwg iddo fod yn fusgrell wedi oes o wasanaeth ‘ewyllysgar’ i’r achos. Nodir ei enw yn Arysgrifau Cerrig Coffa Bwlch, t.44.
Ym 1938 ceir yr enw Penlôn lle mae Olwen Haf Jones a’i merch Katie wedi dod i fyw, tra mae Catherine Roberts a Dora Williams yn parhau yn y ddau Glaswen Cottage a John Evans a Laura yn Glaswen. Mae newid ym 1939 gyda marwolaeth Mrs Gaynor Jones, Penlôn ym mis Mai – fu’n aelod ffyddlon ac yn fam i Olwen Haf a John Owen Jones, a ddaeth yntau i Penlôn i fyw y flwyddyn hon at ei chwaer. Hefyd gwelwn Robert Griffith Williams yn dod i Glaswen Cottage gyda’i wraig Dorothy – wedi ymadawiad Dora Williams mae’n debyg. Mae Catherine Roberts, John Evans a Laura yn parhau yn eu cartrefi.
Ond diwedd y daith oedd hi i Laura Evans mis Ebrill 1940 a nodir ei ‘ffyddlondeb i’r moddion ar hyd y blynyddoedd’ gan adael John ei hun yn Glaswen. Erys y trigolion eraill fel y nodwyd,a’r unig newid ym 1941 oedd i John Owen Jones fod wedi priodi gan ddod â Mary Eirwen ato i Benlôn lle bu’n cartrefu am flynyddoedd.
Ym 1942 bu farw Catherine Roberts, Glaswen Cottage ddechrau Ebrill. Yn ystod y flwyddyn hon hefyd ganwyd Glanfor Owen yn fab i John a Mary Jones, Penlôn. Ond bu newid arall y flwyddyn ganlynol wrth i John Evans, Glaswen, symud o’r ardal i Mynytho ac ail-briodi. Ym 1945 ganwyd Catherine Gaynor yn ferch i John a Mary Penlôn a Gwenda yn helaethu’r teulu ymhellach ym 1947.
Mae newid yn nhrigolion Glaswen Cottage ym 1948 wrth i R Griffith Williams a Dorothy symud i Brynrodyn, ac i Griffith Hamilton Williams, ei wraig Nellie (Ellen) a’u plant Robert John ac Ann Eifiona symud i mewn yn eu lle. Y flwyddyn ganlynol mae Nellie yn rhannu’r ddyletswydd o ofalu am flodau yn y capel ym mis Gorffennaf efo Mrs G Roberts, Sarn Farm. Ym mis Tachwedd Mrs J O Jones, Penlôn sy’n gyfrifol am y blodau ynghyd â Mrs M M Hughes, Tanbryn.
Pery’r patrwm tan 1951 pan welwn fod Griffith Hamilton Williams a’i deulu wedi symud i Bryncelyn a Mrs Jane Hughes yn symud i mewn i Glaswen Cottage. Ym 1952 mae Olwen Haf yn symud o Benlôn a chawn drefniant newydd o drigolion am gyfnod pellach.
Gwyddom i Harry Hughes a Dorothy Jones briodi rhywbryd yn 1940au a phrynodd James Jones, tad Dorothy, hen efail Glaswen iddynt i fyw yno, gan ailenwi’r tŷ yn Trigfa. Bu Jane Hughes yn byw yn Glaswen Cottage tan ei marw ym Mawrth 1979 a John Owen Jones a Mary yn Penlôn tan 1985/6 pan aethant i fyw i Awelon, y tŷ capel. Gwerthwyd Penlôn wedi ymadawiad John Owen a Mary ac mae bellach yn dŷ haf. Mae Glaswen (Cottage) heddiw yn eiddo i ddisgynydd o deulu Penlôn – Catherine a’i gŵr Arwyn Williams - a mab Harry Hughes a Dorothy, Gareth Isfryn, sy’n berchen Trigfa, hen Efail Glaswen.
**************
Comments
Post a Comment