Garreg Lwyd
Garreg Lwyd (Ardal 13, rhif 35)
1841: Richard Griffith, 65 oed, ffermwr
Catherine Griffith, 60 oed
Ann Griffith, 35 oed
Mary Griffith, 12 oed
Evan Roberts, 4 oed
1851: (Ardal 13, rhif 3)
Catherine Griffith, gweddw, 69 oed, yn ffermio 10 acer
Anne, ei merch, dibrïod, 44 oed
Evan Richard, gwas, 14 oed, yn gweithio ar y fferm
Mary Evans, lodger, dibrïod, 20 oed, dressmaker, g. Aberdaron
William Parry, mab, 1 mis, g. Llanengan
1861: (Ardal 17, rhif 87)
Ann Griffiths, dibrïod, 55 oed, yn ffermio 10 acer
Evan Griffiths, ei mab, dibrïod, 24 oed
1891: (Ardal 17, rhif 45)
Catherine Williams, gweddw, 26 oed (m.11/3/1942 yn 77 oed, B 236 Bwlch, efo’i gŵr, Humphrey, ar 19/1/1890 yn 32 oed)
Richard, ei mab, 7 oed, yn yr ysgol
Evan, ei mab, 3 oed
1901: (Ardal 16, rhif 71)
David Williams, penteulu, 30 oed, ffermwr, g. Llangïan
Catherine Williams, ei wraig, 36 oed, g. Llanengan
Mary, eu merch, 14 oed (mam Evan, Siop Cilan)
John, eu mab, 9 oed
William, eu mab, 7 oed
Robert, eu mab, 2 oed (tad Gwynfor, Bryn Afon. Prïod Gaynor Ellen, Bryn yr Eryr)
Yn Arwerthiant y Faenol ym 1907, enwir Mr Evan Roberts yn denant ar y tyddyn dros 19 acer (Lot 127)
1911: (Ardal 14, rhif 75)
David Williams, 40 oed, ffermwr yn cyflogi 2, g. Llangïan (Bedd A042, Bwlch 1870-1913)
Catherine, ei wraig, 46 oed, yn brïod ers 18 mlynedd, 7 o blant yn fyw; 3 wedi marw
John, eu mab, 19 oed, yn gweithio ar y fferm
William, eu mab, 17 oed, yn gweithio ar y fferm
Robert, eu mab, 12 oed, yn yr ysgol
Owen, eu mab, 7 oed, yn yr ysgol (m. yn Ty’n Twlc, 1981, A042 Bwlch)
Evan J, eu ŵyr, 4 oed
1921: (Pwllheli, 03 < 21 < 580/644)
Catherine Williams, penteulu, 58.8 oed, gweddw, g. Llanengan, ffermwraig, cyflogydd
William Williams, ei mab, 28.8 oed, di-brïod, helpu’r fam ar y fferm
Robert Williams, mab, 22.6 oed, prïod, farm labourer, dim man sefydlog (Bwlch B 137)
Gaynor Williams, merch yng nghyfraith, 21.3 oed, gwasanaeth teulu
Catherine Ann Wiilliams, wyres, 0.11?
1939: (Lleyn Rd, Zega, rhif 70, 6/10)
C Williams, g. 5/3/1864, gweddw, Analluog
William Williams, 7/8/1893, di-brïod, Ffarmwr
O Williams, 29/4/1904, di-brïod, Pysgotwr
Ym 1914 yn Adroddiad y capel gwelwn i Catherine A. Williams fod yn gyflawn aelod, a dau o blant gyda hi, Owen ac Evan John. Erbyn 1917 mae enw Robert Williams yn ychwanegol. Hefyd mae William Williams yn rhannu dyletswydd gofalu am y drysau ar y Sul efo Rowland Hughes, Penymynydd, am fisoedd Ebrill a Hydref, a hynny am sawl blwyddyn i ddilyn. Ysbeidiol fu enwau’r brodyr ar y llyfrau o ddechrau’r 20au ymlaen, ac enw Catherine yn unig oedd yn enw sefydlog o Garreg Lwyd hyd ei marw ym 1942. Sonia’r deyrnged iddi fod wedi bod yn fregus ei hiechyd ers tro. Y patrwm aelodaeth yn dilyn colli’r fam oedd fod Owen yn parhau yn gyflawn aelod o’r capel ac enw William yn ymddangos yn rheolaidd fel aelod o’r gynulleidfa. Cyfrannent yn gyson i’r achos ar hyd y blynyddoedd.
Gwelwn ym 1973 i Owen symud o’r cartref i fyw i Tyddyn Twlc tra parhâi William yn Garreg Lwyd. Erbyn 1975 fodd bynnag, symudodd yntau at ei frawd i Ty’n Twlc. Ymhen tair blynedd, ym 1978, bu farw William ar 29 Rhagfyr a theyrnged gynnes iddo fel un o ‘gymeriadau Cilan’ yn Adroddiad y capel. Rhoddodd Owen gyfraniadau i’r capel er cof am William am y ddwy flynedd a ddilynodd nes iddo yntau gyrraedd pen ei daith ar 23 Mehefin 1981. Mae’r deyrnged a dalodd y gweinidog, Parch George Emlyn Jones, yn dangos yr un cynhesrwydd â theyrnged William, a’r sôn am ‘naws y cynfyd’ ar yr aelwyd yn dyst i’r ddau frawd dorri eu cwys eu hunain er cnoc y byd modern wrth eu drws.
*****************
Comments
Post a Comment