Castell/Dalarddima/Bryngwynt/Castell Cottage

Castell, Cilan – (Ardal 13 rhif 55) wedi ei gynnwys ar wahan i’r tai eraill a elwir yn Castell. Newidir yr enw ddwywaith neu dair – i Castell Cottage yn y diwedd?

 

1841 : John Richards, 63 oed, ffermwr

           Elinor Richards, 62 oed

           Edward Hughes, 20 oed, ‘weaver’; No – not born in Caernarvonshire

           Ann Hughes, 20 oed; Yes – born in Caernarvonshire

 

1851 : Dalarddima (Ardal 7c rhif 8)

           John Prichard, penteulu, prïod 79 oed, yn ffermio 12 acer, ganwyd yn Llanengan

           Ellen, ei wraig, 72 oed

           Edward Hughes, son-in-law, prïod, 35 oed, weaver, g. Dolgelly

           Anne, his wife, 31 oed, g. Llanengan

Margared, eu merch, 9 oed

Ellen, eu merch, 6 oed

Griffith, eu mab, 5 oed

John, eu mab, 3 oed


1861: Bwlch y Gwynt (Ardal 17 rhif 84)

            Edward Hughes, penteulu, gweddw, 46 oed, weaver and farm 12 acres, b. Dolgelly

            Griffith, ei fab, 15 oed

            John, ei fab, 13 oed

            Margaret, ei ferch, dibrïod, 19 oed

            Eleanor, ei ferch, 17 oed

            Ann, ei ferch, 8 oed

 

1871 : Bwlch Gwyn (Ardal 17 rhif 110)

            Edward Hughes, penteulu, gweddw, 49 oed, ffermwr. g. Dolgelly

            John, ei fab, dibrïod, 22 oed, labourer g. Llanengan

            Ann, ei ferch, dibrïod, 17 oed, ditto

 

1881 : Bwlchgwynt (Ardal 17 rhif 111)

            Edward Hughes, penteulu, gweddw, 58 oed, yn ffermio 16 acer

            John, ei fab, dibrïod, 28 oed, ‘farm servant’

            Mary Evans, morwyn, dibrïod, 22 oed, ‘general servant’


1891 : Bwlchgwynt (Ardal 17 rhif43)

            Edward Hughes, penteulu, gweddw, 70 oed, ffermwr, g. Llanaber, Merioneth

            John, ei fab, dibrïod, 28 oed (sic)  ffermwr, g. Llanengan

            Sarah Elizabeth Carter?Carlie? morwyn, dibrïod, 22 oed, ‘general servant’, g. Ll’engan

 

1901 : Bwlch Gwynt (Ardal 16 rhif 69)

            Edward Hughes, penteulu, gweddw, 91 oed, ffermwr, ‘own acc’, g Dolgelley

            John, ei fab, prïod, 53 oed, yn gweithio gartref, g Llanengan

            Ellen, ei ferch yng nghyfraith, 20 oed

            John Williams, ‘nephew’ 2 oed? 


1911 : Bwlchgwynt (Ardal 14 146/175)

           John Hughes, penteulu, 63 oed, prïod

           Ellen, ei wraig, 30 oed, yn brïod ers 12 ml, 4 plentyn, 3 yn fyw, g. Llanengan

           John W, eu mab, 12 oed, yn yr ysgol

Edward, eu mab, 8 oed (g.7/8/02) yn yr ysgol ( tad Iorwen, Ty’n Morfa – Eddie)

Elizabeth Jane, eu merch, 3 oed

John Williams, ‘byrddiwr’ gweddw, 83 oed (y crydd oedd yn byw yn NyB cyn teulu JG – yn dad i Ellen uchod.)

 

1921 :  Bwlchgwynt (Ardal Lleyn Rd. Ardal 21 rhif 48)

            John Hughes, penteulu, 73.5 oed, gweddw, g. Llanengan, ddim mewn gwaith

            Elizabeth J Hughes, merch, 14.2 oed, y fam wedi marw, yn yr ysgol, g. Llanengan

            Janet Hughes, merch, 9.10 oed, yn yr ysgol, g. Llanengan 


1939 : Castell Cottage ( Ardal Lleyn Rd, Zega, rhif 99) 8/10

            J.W. Hughes, g. 21/9/98, general labourer, builder (m.1978)

            J.A. Hughes, g. 7/7/94, unpaid domestic duties (m. 1969 B298 Bwlch)

            E.J. Hughes, g.25/12/24, at school (m.1987 C090 Bwlch)

            2 entries redacted

            R.H. Hughes, g.1/1/31, at school (m. 10/8/1947)

 

Ym 1914, Elen Hughes oedd yr unig enw o Bwlchgwynt ar lyfr y capel ond erbyn y flwyddyn ganlynol ategwyd enw John William Hughes, ynghyd â’r plant Teddy, Eliza Jane  a Janette. Ym 1916 fodd bynnag, bu farw Elen Hughes ond gweddill y teulu yn dal yn aelodau.


Ym 1917 nodir i John W Hughes fod yn gwasanaethu yn y Rhyfel, er mai ifanc oedd ei blant ac yn amddifad o’u mam. Ond cafodd ddod adref erbyn 1918. Ymddengys i rywbeth fod wedi effeithio ar aelodaeth John W Hughes o’r capel yn dilyn y Rhyfel, gan na fu wedyn yn gyflawn aelod, ond bu’n cyfrannu fel aelod o’r gynulleidfa am flynyddoedd (tan yr ailymaelododd ym 1947).  Rhestrir enwau’r plant fel aelodau ym 1919. Ym 1921 nodir i L Jane Hughes gael ei derbyn yn gyflawn aelod.


Bu’r 20au yn flynyddoedd llwm mae’n amlwg ond bu i John W Hughes ail briodi gan i Lyfr Log yr Ysgol nodi i Edward John Christmas Hughes gael ei eni ar 25/12/1924; Norman Hughes ar 4/11/1926; William Eric Hughes ar 10/6/1928; Robert Henry Hughes ar 1/1/1931 ac Eurwyn Hughes ar 21/7/1934, Castell Cottage yn gyfeiriad a John Hughes a Jane Ann yn rieni iddynt. (Norman yn dad i Brenda, Jill a Wendy; Eric yn dad i Elfyn, Berth Ddu, Bwlchtocyn.)


Derbyniwyd Janet Ann yn gyflawn aelod yn y capel ym 1926 a cheir cyfraniadau ganddi hi a’i chwaer pan aed ar ofyn yr aelodau i baentio’r capel. Ym 1931 bedyddiwyd Ellinor Hughes, Bwlchgwynt – merch Janet Ann mae’n debyg. Rhwng 1935-37 Castell Cottage yw cyfeiriad Janet Ann ac Eleanor, ond erbyn 1938 maent ym Murcwpl. Erbyn 1939 mae William Hughes yno gyda hwy.


John a’i wraig Jane Ann Hughes felly oedd yn Castell Cottage ers 1924. Ym 1943 derbyniwyd Eric, eu mab, yn gyflawn aelod yn y capel. Ym 1945 cawn fod Harri Hughes, Castell Cottage, yn cael ei dderbyn fel cyflawn aelod ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar 10 Awst 1947 cofnodir marw Harri yn 16 oed, a theyrnged dwymgalon iddo yn yr Adroddiad. Mae’r garreg fedd yn y Bwlch (B298) yn nodi iddo  golli ei fywyd yn ddamweiniol. Dywedir mai boddi wnaeth ym Mhorth Neigwl wrth chwilio am grancod – aeth ei droed yn sownd rhwng creigiau a methodd â rhyddhau ei hun. Yr un flwyddyn, derbyniwyd ei dad, John William Hughes, yn gyflawn aelod o’r capel unwaith eto.


 Ddwy flynedd wedi’r ddamwain,‘roedd Eurwyn yn dal gartref efo John, Jane ac Eric ym 1949. Y flwyddyn ganlynol gwelwn i William Hughes, Janet Ann ac Eleanor fod wedi symud o Mur Cwpl i Dwylan ac felly wedi ymaelodi yng Nghapel y Bwlch.


Cawn gyfraniadau cyson o Castell Cottage at achosion y capel – y paentio, y twymo

a’r cyfraniadau blynyddol arferol ac Eric yn gyfrifol am y casglu ar ddyddiau Sul. Ond ym 1960 mae William Eric yn ymadael (yn priodi ag Eirwen Berth Ddu) a phedair blynedd yn ddiweddarach, ym 1964, mae Griffith Eurwyn yn ymadael hefyd.


Cyfrannu i’r capel fel aelod o’r gynulleidfa mae Edward John Hughes, Castell Cottage ym 1965 ond ym 1970 gwelwn i Mrs Jane Hughes, Castell Cottage – gwraig John W Hughes a mam Edward – fod wedi marw flwyddyn ynghynt gan y gwnaed cyfraniad er cof amdani. Collwn enw ei gŵr gweddw o’r Adroddiadau am gyfnod, ond cynrychiolir y teulu gan Edward a ddaeth yn aelod cyflawn ym 1973. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ym 1978, cawn deyrnged i John William Hughes a fu farw’n sydyn yn 90 mlwydd oed. Canmolwyd ei ofal am ei deulu a’i ddoethineb yn wyneb treialon bywyd a chladdwyd ef gyda’i fab Robert Henry a’i wraig Jane ym mynwent y Bwlch (B298).


Parhaodd Edward John i fyw yn Castell Cottage gan gyfrannu er cof am ei dad am rai blynyddoedd. Collir yr enw o’r Adroddiadau o 1983 ymlaen ond gwelwn mai ym 1987 y bu farw, yn 63 oed a’i gladdu yn y Bwlch. (C090) 



                                                        **********************

Comments

Popular posts from this blog

Bryngwyn

Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003

Bryncelyn-bach