Castell/Plas Belle

CASTELL : nid yw’r enw hwn o reidrwydd yn golygu adeilad amddiffynnol pwrpasol. “Tueddai’r hen bobl gyfeirio at olion fferm o’r Oes Haearn oddi mewn i gylch cerrig a buarth fel castell...yn aml codwyd y rhain ar fryncyn i’w gwneud yn haws i’w hamddiffyn a gellir deall pam y’i gelwid ‘castell’.” (Cerdded y Caeau, Rhian Parry, Y Lolfa, t. 139) 

 

Barn archeolegwyr yw mai bryncyn naturiol yw Castell Cilan, gan nad oes ffos o’i amgylch, fel sydd yn Castell Pared Mawr ar dir Ysgubor Hen. Ond codwyd bythynnod yn gylch amddiffynnol ar y codiad tir gyda golygfeydd clir i’r gogledd a’r gorllewin. 

 

Castell, Cilan (1)

 

Bu sawl tŷ yn Castell, Cilan, ac anodd gwybod weithiau os mai ansicrwydd ar ran y Cyfrifydd sydd yn gyfrifol am enwau ‘symudol’ rhwng y tai hyn, ynteu’r trigolion oedd yn symud o un tŷ i’r llall am resymau gwahanol. Nid hawdd bod yn hyderus, felly, fod preswylwyr y tai yn hollol gywir bob tro. Hefyd mae nifer y tai a elwid Castell yn lleihau gyda'r degawdau. 

 

1841: Castell 1 (Ardal 13  rhif 37)

            Mary Richards, 58 oed

            Ann Richards, 15 oed


1851: Casdell (Ardal 7c rhif 15)

            Mary Jones, gweddw, 70 oed, yn ffermio 4 acer, g. Llanengan

            Anne Jones, ei merch, dibrïod, 28 oed

            John Jones, ei mab, 1 oed

 

1861: Castle Cilan (Ardal 17 rhif 76)

            Ann Jones, penteulu, dibrïod, 39 oed, ‘dressmaker’

            John Humphreys, mab, 11 oed, ‘scholar’?

 

1871: Castell (Ardal 17 rhif 104)

            Ann Jones, penteulu, dibrïod, 49, ‘dressmaker’

 

1881: Castell (Ardal 17 rhif 100)

           Griffith Williams, penteulu, prïod, 50 oed, ‘leadminer’, g. Llanengan

Anne, ei wraig, 58 oed, g. Llanengan (gallai hon fod yr un un â’r uchod, ond collir eu hanes o hyn ymlaen.)

 

1891: Castell (Ardal 17 rhif 39) (Gweler Castell 3, Penygroes Isaf)

            Josiah Thomas Ellis, penteulu, prïod, 56 oed, llafurwr ar fferm, g. Llanengan

            Mary, ei wraig, 36 oed, g.Llanengan

            Ellen, eu merch, 13 oed, morwyn

            John, eu mab, 11 oed, yn yr ysgol, 

            Ellis, eu mab, 8 oed, yn yr ysgol

 

1901 : un tŷ a enwir Castell y flwyddyn hon, sef (Ardal 16 rhif 59) lle mae

             John Jones, penteulu, prïod, 45 oed, ffermwr gartref, g. Llanengan

             Mary, ei wraig, yn 43 oed g. Llannor

              Mary, eu merch, 12 oed g. Llanengan

Gelwir y tŷ a restrir o flaen rhif 59, sef 58, yn Plas Belleenw a welir am y tro cyntaf,fel yr                enw Fair am rif 60, sef cartref Anne Morris. Yn Plas Belle cawn:

Griffith Hughes, penteulu, prïod, 54 oed, llafurwr ar fferm,g. Llanengan

Mary, ei wraig, 46 oed, g. Llanengan

Elizabeth, eu merch, 10 oed;

Hugh, eu mab, 9 oed

Judith, eu merch, 7 oed

John, eu mab, 5 oed

Moses, eu mab, 3 oed


           Yn 1891 roedd y teulu uchod yn Tŷ Newydd yn ôl y Cyfrifiad – oedd yn wag ym 1901 - ac            yn Bron yr Eryr erbyn 1911. Efallai mai’r gwirionedd ydi i’r Cofnodwr fod wedi drysu                    enwau pobl a thai, gan greu anghysonderau, ac i’r trigolion fod wedi byw yn yr un cartref                am ddegawdau.


           Yng ngwerthiant Stâd y Faenol ym 1907, enwir David Roberts fel tenant Castell Cottage            (Lot 122)


1911 : Castell, Cilan (Ardal 14 rhif 117)

            John Jones, gweddw, 54 oed

 

1911 : Plas Bell (Ardal 14 rhif 114)

David Roberts, penteulu, 76 oed, dibrïod, ffermwr wedi ymddeol, g. Lerpwl

 

Rhwng 1841-1901 Muriau Hen oedd ei gartref. Erbyn 1914 cyfeirir at ei gartref yn Adroddiad y capel fel Castell. Pery yn aelod hyd at 1917 pan fu farw a’r Adroddiad yn ganmoladwy o’i ffyddlondeb. Nid oes union ddyddiad ei farw na chofnod claddu yn y Bwlch nac Eglwys Llanengan.

            

1921: Un tŷ yn unig a elwir Castell, Cilan, Abersoch yng Nghyfrifiad 1921 

           (Pwllheli > 03 > 19. 20. 21 rhif 603/644)

Evan Jones, penteulu, 41 oed g. Llanengan, ffermwr, ‘suffering from ill health, only working at home when able’

Margaret, ei wraig, 51.1 g. Llangïan, ‘working/washing woman by day for different people’ (1859-1935)

Evan, eu mab, 11.3 oed g. Llangïan, yn yr ysgol (Ifor, priododd Catherine/Katie, Bryncelyn).


Mae’r Evan Jones uchod ar y rhestr etholwyr yn Ebrill 1921, rhif 211, a hithau Margaret, rhif 212.


Cofrestr 1939 : Lleyn < Zega < Castell Farm: rhif 100

Evan Jones, dyddiad geni: 28/2/1881 farmer, widowed

Ivor Jones, dyddiad geni: 31/3/1910 farmer, married

Catherine Jones, dyddiad geni: 6/4/1916 unpaid domestic duties, married

 

Gellir olrhain teulu Evan Jones yn ôl yn Castell i o leiaf 1861, er efallai nad yn yr un tŷ – gweler y manylion o dan Castell 4. Prynodd tad Evan Jones, sef John Jones, Castell, ym 1907 a’i adael i’w fab, Ifor. Gwerthodd Ifor y tŷ yn ddiweddarach i Evan John Williams a Mary Ann Williams (Siop). Lladdwyd Evan Jones mewn damwain angeuol yn Greenland gan ei gaseg ym 1955 a chyfeirir at hyn yn Adroddiad y capel. Claddwyd ef yn Y Bwlch (B390) efo’i wraig Margaret.


Rhif 99 yw Castell Cottage:

John William Hughes, 21/9/1898, ‘general labourer’

Jane Ann Hughes, 7/7/1894, gwaith tŷ

Edward J Hughes, 25/12/1924 yn yr ysgol

R H Hughes, 1/1/1931 yn yr ysgol 

 

                                                **************

 

Comments