Castell, Cilan (3)/Penygroes
Castell, Cilan 3/Penygroes
1841: (Ardal 13 rhif 39)
Elinor Griffith, 38 oed
Griffith Griffith, 14 oed
Thomas, 10 oed
Josiah, 7 oed
1851: (Ardal 7c rhif 10 – yn Penygroes)
Elinor Griffith, penteulu, gweddw, 49 oed, ‘late mariner’s wife’ (Claddwyd ei gŵr yn Eglwys Llanengan, 1834)
Josiah Thomas, ei mab, 17 oed, ‘agricultural labourer’
1861: (Ardal 17 Rhif 82 – yn Penygroes)
Elinor Griffiths , penteulu, gweddw, 59 oed, ‘private house’
Josiah Ellis, ei mab, dibrïod, 27 oed
1871: (Ardal 17, rhif 108 – Penygroes)
Ellen Griffith, penteulu, gweddw, 70 oed, yn ffermio 15 acer (B060, Bwlch, dim carreg, claddwyd 5 Mawrth 1881 yn 79 oed)
Josiah Thomas, ei mab, dibrïod, 37 oed, ‘stone cutter’
1881: (Ardal 17, rhif 108 – Penygroes)
Josiah Thomas, penteulu, prïod, 47 oed, ‘stonemason’
Mary, ei wraig, 28 oed
Ellen, eu merch, 3 oed (m.1957 yn 79 oed. B270 Bwlch)
John, eu mab, 1 oed (m.1949 yn 69 oed ym Morallt, Llanengan, B271 Bwlch)
1891: (Ardal 17, rhif 39 – Castell)
Josiah Thomas Ellis, penteulu, prïod, 56 oed, ‘farm labourer’
Mary, ei wraig, 36 oed
Ellen, eu merch, 13 oed, ‘domestic housemade’ (sic)
John, eu mab, 11 oed, yn yr ysgol
Ellis, eu mab, 8 oed, yn yr ysgol (m. 1961 yn 79 oed. B270 Bwlch)
1901: (Ardal 16, rhif 67 – Pen y Groes)
Josiah Thomas, penteulu, prïod, 66 oed, ‘ordinary agricultural labourer’
Mary, ei wraig, 48 oed
Yn Llyfr Ocsiwn y Faenol, 1907, enwir Lot 125 yn Pen-y-Groes (formerly part of Nant) a’r tenant yn Mr. Josiah Ellis. Roedd ychydig dros acer o dir y Waen gyda’r tŷ a’r adeiladau.
1911: (Ardal 14, rhif 144/5 – Penygroes Cottage)
Josiah Thomas, penteulu, prïod, 76 oed, ‘farm labourer’
Mary, ei wraig, 56 oed, yn brïod ers 34 mlynedd, 3 o blant, y tri yn fyw (llun o M ac E)
Ellen, eu merch, 33 oed, dibrïod, ‘dressmaker’ yn gweithio adref
John, eu mab, 30 oed, dibrïod, ‘farm labourer’
Richard John Thomas, ŵyr, 8 mis oed (m. 12 Mawrth 1969 yn 58 oed; B060, Bwlch) Corn
Gweler Gynt, Gwladys Williams, 1974 (Cyngor Gwlad Sir Gaernarfon) t. 51 ac ymlaen.
1921: Pwllheli 03> 19.20.21. Penygroes, Cilan, Llanengan, (539/644)
Mary Thomas, penteulu, gweddw, 68.11 oed, g. Cilan
Ellen, ei merch, sengl, 44.1, yn gweithio gartref
Ellis, ei mab, sengl, 39.8, ffarmwr
Richard John Thomas, ei ŵyr, 10.11, ‘y tad wedi marw’, ysgol llawn amser
1939 Penygroes, Cilan, Abersoch, (Lleyn, Zega, 8/10 rhif 105)
Ellis Thomas, dyddiad geni: 19/10/1883, farmer
Ellen Thomas 3/5/1878, household duties unpaid
Yn Adroddiad y capel, 1914, gwelwn i Josiah Thomas , Penygroes, fod wedi marw yn ystod y flwyddyn. (B060, Bwlch, 27 Gorffennaf 1914) Mae Mary, ei weddw, a’i meibion John ac Ellis yn gyflawn aelodau – John yn Drysorydd yr Ysgol Sul tan 1917 – ond nid yw enw Ellen yna.
Erbyn 1915, mae enw Ellen yn gynwysedig efo’r teulu unwaith eto ac ychwanegiad, sef Richard John Thomas yn blentyn iddi.
Yn 1919 mae John Thomas yn Drysorydd yr Ysgol Sul unwaith eto; erbyn 1921 Ellis sy’n Drysorydd yr Ysgol Sul, ond yn ddiddorol iawn, nid yw’n cyfrannu’n ariannol o gwbl i’r capel, er i’w fam, ei frawd a’i chwaer wneud hynny. Yn 1921 mae enw John yn absennol am ddeg mlynedd, pan y’i derbynnir ef yn ôl ym 1931, o dan y cyfeiriad Morfa. Yn y cyfamser, mae Mrs Mary Thomas yn cyfrannu’n hael at baentio’r capel yn 1930, ond erbyn 1935 gwelwn nodi ei marw ar 26 Tachwedd yn dilyn damwain flaenorol, yn ôl y deyrnged a nododd ei ffyddlondeb a’i chymeriad dibynadwy. Yn ôl llyfr beddau Bwlch (t.44) nid oes carreg ar Mary.
Am y tro cyntaf, gwelwn golli enw Ellis o’r rhestr aelodau ym 1932 a John (Morfa) yntau’n ymadael ym 1933. Gwelir bedd John (1880 -1949) yn y Bwlch (B271)ynghyd â’i wraig, Lizzie Ann, Morallt, Llanengan – yn ymyl bedd ei frawd a’i chwaer Ellen (1878 – 1957) ac Ellis (1882 – 1961) sef B270.
Ond mae’n amlwg nad yw Ellis ym 1932 wedi troi ei gefn ar y capel chwaith, er nad yw’n gyflawn aelod mwyach, gan ei fod yn Drysorydd yr Ysgol Sul unwaith eto ym 1936 ac yn cyfrannu fel ‘Aelod o’r Gynulleidfa’ – ac felly y gwelwn ei gyfraniad ariannol o hyn ymlaen. Cyfranna hefyd i Gasgliad Arbennig ym 1939, ac Ellen a Richard John yn cyfrannu’n rheolaidd fel aelodau cyflawn.
Gwelwn i Richard John rhwng 1940 a 1943 fod yn absennol fel aelod ond ni chynhwysir ei enw yn rhestr yr aelodau oedd yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Erbyn 1944 roedd yn ei ôl yn cyfrannu i’r Gronfa Ganolog yn ogystal ag fel llawn aelod o’r capel. Ym 1945 bu’n Drysorydd yr Ysgol Sul ac yn cyfrannu i’r Casgliad Mawr yn ychwanegol i’r ddeubeth a nodwyd eisoes. Ym 1948 yr oedd yn Arolygwr yr Ysgol Sul am ddwy flynedd ac yn hael ei gyfraniadau ariannol.
Ond beth ddigwyddodd yn y 50au? Pallodd y cyfraniadau ariannol, er i Ellen ac Ellis barhau i gefnogi’r Achos.Rhwng 1952 a 1955 ni chyfrannodd Richard John o gwbl ar wahan i Gronfa Paentio’r Capel ym 1950. (Yn y cyfamser bu'n aelod yng nghapel Bwlchtocyn.) Ailgychwynnodd ym 1956 i gyfrannu flwyddyn cyn marw ei fam, Ellen Thomas, ar 26 Ebrill 1957 yn 79 oed. Ceir teyrnged iddi yn Adroddiad y capel. Ysbeidiol fu cyfraniadau Richard John wedyn, yn enwedig ar ôl marw ei ewyrth Ellis ym 1961, ‘yr olaf o hen deulu ag a fu yn nodedig mewn ffyddlondeb, a pharhaodd yntau i’r diwedd i fynychu oedfaon y Sul’.
Yn ôl Adroddiad 1962, Sarn Farm oedd cartref Richard John erbyn hyn, ond erbyn 1963, Corn yw ei gartref gan mai yno y gweithiai. Ac yno y bu hyd ei farw ar 7 Mawrth 1969 yn 58 oed, pan ysgrifennodd y Parch Gareth Maelor deyrnged iddo a awgrymai feddwl treiddgar, diddorol i un a oedd yn un swil i bob ymddangosiad. (Bwlch B060. Claddwyd efo’i daid a’i hen nain.)
Nid ymddangosodd Penygroes ar lyfrau’r capel o gwbl rhwng marw Ellis ym 1961 a 1967 pan gawn fod Myfanwy Owen (Evans, Nant gynt) yn byw yno efo’i gŵr a’i merch, Bethan, a fedyddiwyd yn y capel ar 18 Mehefin 1967. Ar 16 Mawrth 1969 bedyddiwyd merch arall i Myfanwy a’i gŵr, Eurwyn, sef Sian. Cafwyd cyfraniadau gan y plant am rai blynyddoedd, a’u henwau’n ymddangos tan 1987. Ni welwyd enw Penygroes yn Adroddiadau’r capel wedi hyn, ond pery Myfanwy i fyw yno hyd heddiw.
Comments
Post a Comment