Castell 4
Castell, Cilan 4
1841: (Ardal 13 rhif 40)
Catherine Williams, 60 oed, ‘farmer’
William Williams, 23 oed
Margret Williams, 15 oed
1851: Casdell (Adran 7c rhif 16)
Evan Jones, penteulu, prïod, 35 oed, ‘farmer of 22 acres’
Anne, ei wraig, 30 oed
William, eu mab, 7 oed
Griffith, eu mab, 5 oed
Margaret, eu merch, 2 oed
Catherine Williams, mam-yng-nghyfraith, gweddw, 65 oed
David , eu mab, 9 mis oed
1861: y teulu uchod yn yr Ewig (Ardal 17 rhif 57) erbyn hyn
Castle (Ardal 17 rhif 78)
Ellis Jones, penteulu, prïod, 53 oed, yn ffermio 26 acer
Jane, ei wraig, 34 oed
Eleanor, eu merch, 8 oed
Ann, eu merch, 7 oed
John, eu mab, 5 oed
William, eu mab, 2 oed
1871: Castell (Ardal 17 rhif 105)
Ellis Jones, penteulu, gweddw, 61 oed, yn ffermio 20 acer
Ellen, ei ferch, dibrïod, 18 oed, ‘labourer’
John, ei fab, 14 oed, yn yr ysgol
William, ei fab, 12 oed
Charles, ei fab, 8 oed, yn yr ysgol
1881: Castell (Ardal 17 rhif 98)
John Jones, penteulu, prïod, 26 oed, yn ffermio, g. Llanengan
Mary, ei wraig, 22 oed, g. Llanor
William, eu mab, 2 oed, g. Llanengan
Evan, eu mab, 1 mis
(Posibilrwydd fod y John Jones hwn yr un a nodir yn 1871 yn fab 14 oed)
1891: Castell (Ardal 17 rhif 38)
Mary Jones, penteulu, prïod, 33 oed, g. Llanor
William, ei mab, 12 oed, g. Llanengan
Evan, ei mab, 10 oed
Ellis, ei mab, 8 oed
Charles, ei mab, 7 oed
John, ei mab, 5 oed
Mary, ei merch, 2 oed
1901: Castell (Ardal 16 rhif 59)
John Jones, penteulu, prïod, 45 oed, yn ffermio adra, g Llanengan
Mary, ei wraig, 43 oed, g Llanor
Mary, eu merch, 12 oed
(Yn 1901 hefyd gallai Evan a’i frawd Charles fod yn gweini yn Crugan, Llanbedrog (rhif 124 19/22) yn 17 ac 16 oed, wedi eu geni ym mhlwy Llanengan.)
(Yn 1911 yn Gelligaer, Sir Forgannwg (Adran 10 328/563) 3 Quarry Row, Bedlinog mae:
Ellis Jones, prïod, ‘boarder’ 27 oed ‘colliery haulier below ground of’ Castell, Cilan ac
Evan Jones, prïod, ‘boarder’ 32 oed ‘colliery labourer below ground of Castell Cilan.)
1911: Castell (Ardal 14 rhif 116)
John Jones, penteulu, gweddw, 54 oed, yn ffermio adra, g Llanengan
1921: Un tŷ yn unig a elwir Castell, Cilan, Abersoch yng Nghyfrifiad 1921
(Pwllheli > 03 > 19. 20. 21 rhif 603/644)
Evan Jones, penteulu, 41 oed g. Llanengan, ffermwr, ‘suffering from ill health, only working at home when able’
Margaret, ei wraig, 51.1 g. Llangïan, ‘working/washing woman by day for different people’ (1859-1935)
Evan/Ifor, eu mab, 11.3 oed g. Llangïan, yn yr ysgol (priododd Catherine/Katie, Bryncelyn).
Mae’r Evan Jones uchod ar y rhestr etholwyr yn Ebrill 1921, rhif 211, a hithau Margaret, rhif 212.
Yng Nhghofrestr 1939 enwir cartref Evan Jones (gweddw) yn Castell Farm (rhif 100). Dyddiad ei eni yw: 28/2/81 a’i waith yw ffermio. Hefyd yno mae Ivor Jones, 31/3/1910, yn ffermwr, a Catherine Jones, ei brïod, 6/4/16 yn wraig tŷ.
Gellir olrhain teulu Evan Jones yn ôl yn Castell i o leiaf 1861, er efallai nad yn yr un tŷ – cymharer Castell 1/Plas Belle. Prynodd tad Evan Jones, sef John Jones, Castell, ym 1907 a’i adael i’w fab, Evan. Gwerthodd Evan y tŷ i Evan John Williams a Mary Ann Williams (Siop). Lladdwyd Evan Jones mewn damwain angeuol yn Greenland gan ei gaseg ym 1955 a chyfeirir at hyn yn Adroddiad y capel. Claddwyd ef yn Y Bwlch (B390) efo’i wraig Margaret.
Yn Adroddiadau’r capel o 1914, ni sonnir am John Jones, Castell. Yr unig gyfeiriad at Castell yw enw David Roberts ac ef a nodir yn Llyfr Arwerthiant y Faenol 1907 Lot 122 fel tenant Castell Cottage. Ceir enw Evan Jones, Castell yn 1918 yn cyfrannu fel aelod o’r Gynulleidfa – gallasai fod yn fab (37 oed) i John Jones hwyrach.
I gydio yn y teulu uchod a restrir yn Castell 1891, awgrymwn fod mab John Jones a Mary, Ellis (oedd yn 8 oed ym 1891) bellach wedi priodi Gaynor, a nodir fel aelod o’r capel ym 1914, ac yn byw yn Pantygwyn. Gyda hi mae ei phlant Lizie Jones, John Owen, Willie, Mary a Kate. Erbyn 1915 mae enw Olwen Haf yn ymddangos hefyd. Ym 1917 y gwelwn enw Ellis ar y llyfrau am y tro cyntaf. A Pantygwyn yw’r cyfeiriad bob blwyddyn tan 1923 pan symudodd y teulu i Tyddynpricia. Gwelwn gofnodi marwolaeth Ellis ar 2 Ionawr 1932 yn 48 oed yn dilyn ‘cystudd maith’ yn ôl tystiolaeth Adroddiad y capel. (Bwlch A036) Yn 1936 dywed yr Adroddiad fod Gaynor Jones, Tyddynpricia, John Owen, William, Katie ac Olwen Haf yn ymadael â’r capel, ond yn ôl y daeth rhai ohonynt – Olwen Haf yn 1937 i fyw yn Bodarfoel. Y flwyddyn ganlynol (1938)mae Olwen Haf, a’i chwaer Katie wedi dod i fyw i Penlon. Erbyn 1939 mae eu mam Gaynor, a John Owen eu brawd wedi dod i fyw atynt i Penlon. Ond bu Gaynor farw yn ‘annisgwyl yn dilyn cystudd byr’ ar 25 Mai y flwyddyn honno, yn ôl Adroddiad y capel.
Ym 1934 ceir enw Mary – chwaer John Owen, Lizzie, William, Katie ac Olwen – yn Penymynydd, yn wraig mae’n debyg i William Williams. Yr oedd ef wedi bod yn byw yn Penymynydd ers rhai blynyddoedd ynghynt (ers 1931?) efo William Charles Williams a Dorothy Ellen Williams (prïod ynteu brawd a chwaer?)Yno hefyd yn 1932 yr oedd Catherine E Roberts. Ond erbyn 1936 roedd William Williams a Mary yn Bodarfoel a dau o blant ganddynt, Dorothy Gwendoline a Gaynor. Daeth Ellis Gwilym yn 1937 yn blentyn arall i’r teulu.
Gwelsom i William Charles Williams, Dora (Dorothy Ellen) a Catherine E Roberts fod yn Penymynydd yn nechrau’r 30au ond yn 1935, Bodarfoel oedd eu cartref, a’r flwyddyn ganlynol roeddynt yn byw yn Glaswen Cottage. Ar 2 Chwefror 1937, fodd bynnag, bu farw William Charles, oedd dros ei 70 oed bellach yn ôl Adroddiad y capel. Cyfeirir ato fel William Charles Williams, Bodarfoel, yn hytrach na WCW Glaswen.
Ym 1940 gwnaed John Owen Jones, Penlon, yn flaenor yn y capel – mae’n byw gyda’i chwaer Olwen Haf. Ond erbyn 1941 mae’n amlwg iddo briodi Mary Eirwen. Roedd Olwen yn parhau i fyw yn Penlon efo’r ddau brïod.Y flwyddyn ganlynol ganwyd Glanfor Owen yn fab iddynt a fedyddiwyd ar 25 Hydref gan y Parch W. Jones, Efailnewydd. Ym 1945 ganwyd Catherine Gaynor, a fedyddiwyd ar 15 Ebrill yn y capel gan y Parch. R.W.Rowlands, Nefyn. Ac yn olaf ganwyd Gwenda Olwen ym 1947. Bedyddiwyd hi ar 6 Ebrill gan y Parch.
W.G.Williams, Llanfairfechan. Ym 1952 ymadawodd Olwen Haf o Benlon a Glanfor yntau, ym 1960, pan gyfrannodd y ddau fel Caredigion yr Achos. Gydol y blynyddoedd hyn bu John Owen nid yn unig yn Flaenor yn y capel, ond yn Arolygwr yr Ysgol Sul hefyd ers 1942, a’i wraig Mary yn rhannu’r gwaith cyfeilio ers 1941. Bu hefyd yn croesawu’r pregethwyr yn flynyddol ym misoedd Rhagfyr ers o leiaf 1943. Gwasanaeth anrhydeddus.
Erbyn 1942 ym Modarfoel, fe anwyd Charles Glyn a’i fedyddio ar 8 Tachwedd, yr un adeg ag Albert Williams, 3 Bryneryr ac Ann Evans, Nant, gan y Parch. J. M. Roberts, Bryncir. Ym 1943 ymunodd Gareth Wyn â’r teulu a’i fedyddio ar 31 Hydref, yr un adeg â Dorothy Hughes, Tanybryn gan y Parch. R. P. Owen, Graig. Ymhen dwy flynedd daeth John Idris i’r byd, a’i fedyddio yn y capel ar 14 Hydref 1945 gan y Parch. William Jones, Efailnewydd. Ac yn olaf gwelwn enw Catherine Hefina ym 1947 i gwblhau’r teulu. Bedyddiwyd hi ar 19 Hydref gan y Parch. John Williams, Edern. Ond prin 7 oed oedd Catherine pan fu farw ei mam, Mary, ym mis Ebrill 1955 yn 43 oed. Noda’r deyrnged iddi gael ‘cystudd a thriniaeth caled’ wedi rhoi blynyddoedd yn fam glodwiw i’w theulu. Ymhen pum mlynedd, ar 7 Mai 1959, yn 70 oed bu farw ei gŵr, William, a elwir yn ‘annwyl’ a boneddigaidd yn y deyrnged iddo gan Swyddogion y capel. (Bedd B209, Bwlch) Gadawyd teulu o bobl ifainc a phlant yn amddifad ym Modarfoel i ysgwyddo cyfrifoldebau cyn eu hamser.
Ar hyd y blynyddoedd bu John Owen Jones yn ddiflino ei gefnogaeth i Gapel Bethlehem, ond ‘wedi gwaeledd byr yn 96 mlwydd oed’ bu farw ar 11 Rhagfyr 2002, a gydag ef fe aeth heibio gyfnod arbennig yn hanes y capel a’r ardal. Erbyn Mawrth 2003 roedd trefniadau ar y gweill i ddirwyn yr achos i ben wedi i ‘gonglfaen yr eglwys gael ei dymchwel’ medd y deyrnged glodwiw iddo yn yr Adroddiad olaf un.
Bu ei deulu agosaf yn ymroddedig eu teyrngarwch ar hyd y blynyddoedd i’r un achos â John Owen – Gwenda yn gyfeilydd yn yr Ysgol Sul o 1964; Glanfor a’i wraig Jennifer May yn ymaelodi yn 1967 er nad oeddynt yn byw yn yr ardal. Erbyn 1969 roedd Catherine Gaynor yn byw yn y Groeslon ac fe ymadawodd hi ymhen y flwyddyn; roedd Gwenda wedi priodi ac yn byw yn Abersoch; cawn mai Benllech yw cyfeiriad Glanfor a’i wraig bellach, a dau o blant ganddynt: Sharron Wyn a Susan Mai.
Ym 1970 mae Gwenda a’i gŵr, John, yn byw yn Awelon, y Tŷ Capel yng Nghilan. Y flwyddyn ganlynol bedyddiwyd Delyth Wyn ar 18 Ebrill 1971 yn ferch iddynt. Ym 1972 mae Glanfor yn ôl yn Llandudno a thrydydd plentyn gan y teulu bellach, Stephen Owen Jones, a fedyddiwyd yn y capel ar 23 Gorffennaf 1972. Ym 1974 ar 3 Mawrth bedyddiwyd Emyr Wyn, mab i Gwenda a John, Awelon, a brawd i Delyth. Ymddengys eu henwau yn gyson drwy flynyddoedd eu plentyndod fel aelodau ifanc y capel.Yn ystod y cyfnod hwn, ym 1986 fe symudodd Gwenda a John o Awelon i Tyddyn Peiswyn a John Owen a Mary hwythau’n symud o Penlôn i Awelon. Ym 1992 derbyniwyd Delyth ac Emyr yn gyflawn aelodau, Delyth wedi bod yn rhannu dyletswyddau cyfeilio yn y gwasanaethau ers 1988. Ond yn 1996 ymddengys iddi fod wedi priodi gan mai Tŷ Corniog (Pentre Ucha) yw ei chyfeiriad, yna yn 1997 Bryn Gadlas(Pentre Ucha) sy’n gartref iddi. Ym 1998 bedyddiwyd ei mab, Ifan Gwyn Roberts, gan y Parch Gareth Maelor Jones ar 30 Awst a Lowri Elen Roberts yn ferch iddi hi a’i gŵr ar 15 Hydref 2000, eto gan yr un gweinidog. Bu cyfraniadau Glanfor yntau a’i deulu yn rheolaidd am flynyddoedd, fel arfer o dan bennawd Caredigion yr Achos tan tua 1987. Dyna ffyddlondeb! Derbyniwyd John Evan Roberts, gŵr Gwenda, yn gyflawn aelod ym 1982 – cyn hynny cyfrannu fel un o Garedigion yr Achos oedd yntau.
Yn ôl ym Modarfoel, erbyn 1961 gwelwyd newid cyfenw Gaynor Mair i Jones ac ymhen dwy flynedd yr oedd wedi ymadael â’r ardal. Ymddangosodd dau enw diarth o dan enw Bodarfoel fel Caredigion yr Achos yn 1963, sef Awena Ann a Margaret Wyn Jones. Y flwyddyn ganlynol ceir enw William Owen Jones ym Modarfoel, sef plentyn Gaynor Mair a’i gŵr, a fagwyd yno am sbel yn ei ddyddiau cynnar i’w fam gael cryfhau wedi’r enedigaeth. Bedyddiwyd ef ar 9 Awst 1964 (nodir ei gartref fel Pen Rhôs) gan y Parch Ieuan James Owen, Pontypridd. Parhaodd enw William yn yr Adroddiadau drwy ei blentyndod.
Ym 1966 gwelwn i Dorothy fod wedi priodi Thomas Parry Williams (gynt o Bryncelyn Bach); ym 1968 cyfeiriad Ellis oedd Pensarn, lle’r ymgartrefodd efo Doli, ei brïod. Ym 1972 cawn enw Sian Owenna Williams yn blentyn i Thomas a Dorothy – bedyddiwyd hi gartref ar 1 Mawrth 1973 gan y gweinidog, y Parch Gareth Maelor Jones. Cyfrannodd Mrs Dora Williams, gwraig Ellis, at yr achos fel un o’r Caredigion yn 1973 tan 1978.
Ym 1975 roedd Charles wedi gwneud ei gartref yn Erw Deg, yn dilyn ei briodas â Sally, a ymunodd yn aelod yn 1978. Gareth oedd y nesaf i symud allan o’r cartref gan iddo yntau ym 1977 fod yn byw yn Stâd Cae Du fel gŵr prïod â Helen.Ym 1978 yr un fu hanes John Idris, a oedd wedi ymgartrefu yn Porth Enlli, Bwlchtocyn yn dilyn ei briodas. Ymunodd Janice Mary, ei wraig, yn aelod ym 1979. Bu’n ddilyniant o briodasau gan i Catherine Hefina Roberts ddod yn Catherine Hefina Williams unwaith eto ym 1980 a symud i Glaswen efo’i gŵr newydd, Arwyn, a’i merch Gwenno.
Gwelwyd fedyddio Mary Elinor, Porth Enlli yn ei chartref ar 5 Ebrill 1981. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, bedyddiwyd Catrin Alwena yn ei chartref, Porth Enlli, ar 23 Ebrill 1983 gan y gweinidog, y Parch George Emlyn Jones. Erbyn 1987 roedd John Idris a Janice wedi symud i Deucoch lle ganwyd Sara Wyn.
Yn 1988 mae Gwenno wedi symud o Glaswen a bellach yn byw yn Stâd Cae Du ac yn brïod ag Alan. Cyfranna mwyach fel un o’r Caredigion. Yr un yw hanes Mrs Siân Owenna Evans hefyd, oedd wedi priodi Dyfed erbyn 1995 ac yn byw ym Morfa Nefyn. Fe gyfrannodd hithau’n gyson fel un o’r Caredigion. Yn 1999 cawn enw William Siôn Evans, mab Siân a Dyfed, hefyd. I gwblhau’r ganrif, bedyddiwyd efeilliaid Gwenno ac Alan, sef Angharad Mair a Gethin Tomos, Efailnewydd ar 11 Mehefin 2000 gan y Parch Gareth Maelor Jones.
Dyna gyswllt teuluol o Castell ym 1861 (ac ynghynt mae’n siwr) drwy gyfnod Capel Bethlehem a sefydlwyd i ddechrau ym 1822, hyd heddiw ag ardal Cilan, Llanengan.
Nodyn: Mae Adroddiad y capel am 1985 sydd gen i yn gopi anghyflawn – dim manylion ynddo o gwbl. Maddeuer diffyg yn yr uchod felly.
**********************
Comments
Post a Comment