Castell (2) Fair View

Castell 2/Fair View (Ardal 13 rhif 38)

1841:   Ann Morris, 28 oed

            Ann Morris, 1 oed

 

1851 : mae’r teulu hwn yn Lon Las (Ardal 7c rhif 19)

            Anne Morris, penteulu, prïod, 38 oed, ‘mariner’s wife’, g. Llanengan

            Anne, ei merch, 11 oed

            Jane, ei merch, 7 oed

            Mary, ei merch, 5 oed (Gwraig David Roberts, mab Deborah Williams, Bryncelyn??)

            Ellen, ei merch, 2 oed

            Margaret, ei merch, 1 mis


1861:  Castell  (Ardal 17 rhif 77)

            Thomas Morris, penteulu, prïod, 47 oed, ‘mariner’, g. Llangïan

            Ann, ei wraig, 48 oed, g. Llanengan

            Ellin, eu merch, 12 oed

            Margaret, eu merch, 10 oed

 

1871:  y teulu yn Fair View (Ardal 17 rhif 103)

            Thomas Morris, penteulu, prïod, 67 oed, ‘sailor’, g. Llanengan (sic)

            Ann, ei wraig, 68 oed (sic)

            Ann, eu merch, dibrïod, 31 oed, ‘labourer’, g. Llanengan

            Jane, ei merch, 9 mis oed (1870-1947 – A10 Bwlch?)

 

1881: Castell (Ardal 17 rhif 99)

            Anne Morris, penteulu, dibrïod, 42 oed, ‘housekeeper’

            Jane, ei merch, 10 oed, yn yr ysgol

            

1891: Castell: (Ardal 17 rhif 37)

            Ann Morris, penteulu, sengl, 51 oed

            Jane, ei merch, 20 oed

            Ann Jane, ei merch, 2 fis oed

 

1901: yn byw yn Fair (Ardal 17 rhif 60)

           Anne Morris, penteulu, sengl, 62 oed 

           Anne Jane, ‘niece’ (sic) 10 oed

David Roberts, 2 oed (ai mab Mary, chwaer Anne Morris, a’i gŵr David Roberts, mab

Deborah Williams, Bryncelyn, yw’r plentyn hwn?)

 

1911: yn dal yn Fair View (Ardal 14 rhif 118) Ai Jane yw merch Anne Morris uchod?

            Hugh Williams, penteulu, prïod, 33 oed, llafurwr amaethyddol, g. Llandwrog

Jane, ei wraig, 40 oed, yn brïod ers 13ml, 5 o blant, 4 yn fyw, g. Llanengan (1870-1947 Bwlch A010) (Mary, Bryneryr yn fodryb i Jane)

           William Hugh, eu mab, 13 oed, llafurwr amaethyddol, g. Llandwrog

Thomas, eu mab, 9 oed, yn yr ysgol, g. Llanengan (12 o blant : Blodwen yn un)

John Robert, eu mab, 4 oed, g. Llanengan

Mary Annie, eu merch, 2 oed, g. Llanengan – (m. 13 Mai 1995)

 

Yn Rhestr Etholwyr Ebrill 1921: rhif 561 N.M. (naval/military voter, absent)

  Thomas Williams, Fair View 

  Jane Williams, Fair View, rhif 474 O.O.



1921: Fair View,  Abersoch (Lleyn Rd. 03 < 19.20.21 rhif 601/644)

  Jane Williams, penteulu, gweddw, 51 oed, cadw tŷ

  Mary Annie, ei merch, 12.3, yn yr ysgol

  Margaretta, ei merch, 9.1 oed, yn yr ysgol

 

Cofrestr 1939 Fair View (Lleyn Rd. Zega rhif 98)

Jane Williams , dyddiad geni 31/5/1870, gweddw, ‘ unpaid domestic duties’

John  Williams, 29/6/06, sengl, ‘builder’s labourer’

 

Gwelwn fod y teulu yn aelodau yng Nghapel Bethlehem ym 1914 - y rhieni William Hugh a Jane a’u 4 plentyn Thomas, John Robert, Mary Annie, a Margretta yn ychwanegiad ers 1911, ac enw’r cartref yr un fath, Fair View. Erbyn 1916 derbyniwyd Thomas yn gyflawn aelod a’r flwyddyn ganlynol diflanna ei enw o’r Adroddiadau – ond gwelir yn achlysurol yn cyfrannu fel aelod o’r gynulleidfa tan 1923. 

 

Erbyn 1920 mae John Robert wedi cyrraedd oed ei dderbyn yn gyflawn aelod, ond ni welir enw ei dad, William Hugh, yn ymddangos o gwbl, ac ni chyfeirir at ei ymadawiad na’i farwolaeth. Nid yw wedi ei gladdu  efo’i wraig, Jane, yn Y Bwlch (A010) er y cyfeirir ato fel ei gŵr ar y garreg. Gallai fod yn gweithio i ffwrdd, ond nid ymddengys ei enw yn yr Adroddiadau mwyach. Nodir marw Jane yn Adroddiad 1947 yn canmol ei ffyddlondeb ‘i holl gyfarfodydd yr Eglwys hyd y diwedd, a’i diddordeb yn fawr yn ei gweithgareddau. Trysorodd yn helaeth o’r Ysgrythyr ar ei chof...’


Mynd a dod fel aelod llawn neu fel aelod o’r gynulleidfa yw hanes John Robert am flynyddoedd ers ei dderbyn ym 1920. Ym 1946 yr ymddengys ei enw am y tro diwethaf fel aelod o’r gynulleidfa, ond bu’n cyfrannu yn gyson ar hyd y blynyddoedd, nid yn unig i gasgliadau arbennig ond hefyd rhannodd rodd o lyfr emynau i’w gadw yn y Sêt Fawr ym 1929. Y tebygolrwydd yw ei fod yn gweithio oddi cartref ond heb dorri’r cysylltiad â’r capel. Gyda marwolaeth ei fam ym 1947, fodd bynnag, ni welir ei enw mwyach.

 

Erbyn 1925 mae Mary Annie yn gyflawn aelod. Mynd a dod yw ei hanes hithau, yn gweithio oddi cartref ar brydiau mae’n amlwg, ac yn cyfrannu fel aelod o’r gynulleidfa ar droeon. Ond Mary Annie a ddychwelodd i Fair View wedi marw ei mam, ac yno y bu, yn aelod ffyddlon iawn o’r capel, gan gyfrannu’n gyson ar bob achlysur hyd ei diwedd ym Mai 1995. Cawn deyrnged hyfryd iddi yn sôn amdani ‘fel un â’i gair garwaf ymlaen ond buan dôi’r heulwen trwy’r cwmwl. Bu’n hynod ffyddlon i’r capel a hynny ar bob tywydd. Byddai’n edrych ymlaen at fis Mai i harddu’r tŷ a rhoi’r blodau ar y bwrdd bach dan y pulpud. Treuliodd ei blynyddoedd olaf yng nghartref yr henoed. Munudau dwys yn ei hanes oedd cloi drws ei bwthyn bach ar y mynydd.’


Ym 1926 derbyniwyd Margretta yn gyflawn aelod ac ysbeidiol yw ei henw hi un ai fel aelod llawn o’r capel, neu fel aelod o’r gynulleidfa. Mae’n amlwg iddi hithau weithio oddi cartref ar brydiau ac ym 1935 y gwelwn ei henw am y tro olaf yn yr Adroddiadau. 

 

Ar 2il Chwefror 1934 gwelwn fedyddio Hughie John Williams, Fair View, ond dim cyfeiriad at ei rieni. Yn y cyfeiriad hwn y gwelwn ef yn tyfu, fodd bynnag, a Jane, ei nain, yn cymeryd cyfrifoldeb ei fagwriaeth. Erbyn 1948, ac yntau’n 14 oed, ac wedi colli ei nain flwyddyn ynghynt, derbynnir ef yn gyflawn aelod o’r capel, a Mary Annie wedi dod adref i gadw’r cartref. Ymddengys ei enw yn gyson o dan enw Mary Annie yn yr Adroddiadau a chyfraniad ar ei gyfer, ond o 1958 ymlaen ysbeidiol yw’r cyfraniadau ganddo. Gwelir ei enw yn unig am y tro olaf ym 1969. Nid oes sôn os mai symud o’r ardal a wnaeth ynteu peidio â mynychu’r gwasanaethau. Ni welir cofnod claddu’n lleol iddo chwaith, nag i Mary Annie. Er i’r llinach barhau drwy ganghennau eraill, daeth diwedd ar y cyswllt teuluol hwn â Fair View/Castell, Cilan.                    

Comments

Popular posts from this blog

Bryngwyn

Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003

Bryncelyn-bach