Bwlchyclawdd (Isaf)


Bwlchclawdd (Isaf) 
:

 

1841 : John Richards, 45 oed, ‘Agricultural Labourer’

            Elinor, ei wraig, 30 oed

 

1851 : John Prichard, penteulu, prïod, 59 oed, ‘Ag Lab’, g Bryncroes

            Elinor Roberts, ei wraig, 66 oed? g Llanengan

 

1861 : John Prichards, gweddw, 69 oed, yn ffermio 3 acer , g Aberdaron

 

1871 : John Prichard, penteulu, prïod, 80 oed, ‘formerly Ag Lab’, g Bryncroes

            Jane, ei wraig, 63 oed, g Nevin

 

1881 : Jane Prichard, penteulu, gweddw, 74 oed, g Nevin

 

1883 : David Griffith a Jane wedi symud i Bwlchclawdd Isa, gw. B064 Bwlch        


1891 : Jane Griffith, penteulu, prïod, 31 oed, g Bodvean (m. 14 Mawrth 1929 yn                  68 oed, bedd B064 Bwlch)

            Henry, ei mab, 11 oed, yn yr ysgol, g Llanengan

  Thomas Owen, ei mab, 9 oed, yn yr ysgol (m. 23 Chwefror 1919 yn 37 oed    A 137 Bwlch)

  Griffith, ei mab, 6 oed, yn yr ysgol (m. 14 Chwefror 1896 yn 11 oed B064         Bwlch)

           William, ei mab, 1 oed

 

1901 : Jane Griffith, prïod, 40 oed, g Nevin

           Thomas, ei mab, ‘blacksmith’, g Llanengan

           William, ei mab, 11 oed, yn yr ysgol,

           Ellen, ei merch, 8 oed, yn yr ysgol

 

1911 : David Griffith, penteulu, 56 oed, ffarmwr, g Llanengan (m. 14 Tachwedd                   1911 yn 57 oed. Bedd B064)

Jane, ei wraig, 50 oed, yn brïod ers 33 mlynedd; 6 o blant, 4 yn fyw; g Bodvean

         William, eu mab, 21 oed, yn gweithio ar y fferm

         Nell, eu merch, 18 oed, morwyn deuluaidd

         Elizabeth Jane Griffith, sengl, 22 oed, cyfnither? ‘milliner’, g Ffestiniog


1921 : Bwlchclawdd, Abersoch (Pwllheli, 03. 19.20.21 569/644)

           Jane Griffith, penteulu, 61.1 oed, gweddw, g. Bodvean, gwaith tŷ

           Ellen Williams, ei merch, 28.9 oed, prïod, g. Llanengan

  R. W. Williams, mab yng nghyfraith, 33.4 oed, prïod, g. Pwllheli, llythyr             glydydd yn gweithio yn P.O. Abersoch

  Elizabeth Williams, ymwelydd, 67.1 oed, gweddw, g. Bethesda, yn byw yn       Bootle, Lerpwl

 

 



Jane Griffith tu allan i Bwlch Clawdd Isaf gyda Thomos, Nell a Will

 

Adroddiadau’r Capel


1914 : Roedd Jane, Henry, Thomas Owen ac Ellen yn aelodau yn y capel, Thomas yn un o’r casglyddion.

Yn 1915 roedd Thomas yn Arolygwr yr Ysgol Sul hefyd.

Erbyn 1917 roedd Thomas yn gofalu am y drysau fisoedd Mawrth a Medi, a gweddill y teulu - ond ddim David, y penteulu - yn dal yn aelodau. Mae’n amlwg i Ellen fod yn brïod bellach gan mai ei chyfenw bellach yw Williams.

Erbyn 1918 nid yw Henry yn aelod yn y capel.

Yn 1919 bu farw Thomas Owen, a cheir enw Robert Williams, Bwlchclawdd yn un o’r casglyddion ac R W Williams, Bwlchclawdd yn gofalu am y drysau fisoedd Mawrth a Medi. Mae'n debyg mai yr un yw Robert Williams ag R W Williams, gŵr Ellen.

Yn 1920 enwau Jane Griffith ag Ellen Williams yn unig sydd o Fwlchclawdd Isaf.

Yn 1922 mae enw Henry yn ôl fel aelod o’r capel, a’i wraig Mary. (Roedd Mary yn chwaer i Mrs Jennie Hughes, Glaswen, ac i Tomi Ty’n Mynydd, Mynytho – ac yn gyfnitherod a chefnder i’m taid innau, Morris Jones.) Gwelwn fod Ellen Williams bellach yn byw yn Gwelfor ac wedi ymadael â’r capel, gan adael Jane, Griffith, Henry a Mary yn aelodau o Fwlchclawdd Isaf – ond Henry a Mary yn byw yn Glaswen ym 1921.

Yn 1926 bu Henry yn Arolygwr yr Ysgol Sul tan 1930.

Yn 1929 bu farw Jane Griffith ar 14 Mawrth. Sonnir iddi fod wedi symud at ei merch – Ellen yn Gwelfor? Ceir coffa anrhydeddus iddi yn yr Adroddiad yn canmol ei ffyddlondeb, ei gwybodaeth Feiblaidd, a'i barn 'graff a chywir ar bethau crefyddol

'Darllennai lawer...a cheid llawer ganddi yn ei chwmni.' 

Yn 1931 mae Henry yn Arolygwr yr Ysgol Sul unwaith eto tan 1935.

Yn 1943 mae Henry a Mary yn croesawu’r pregethwr i’w cartref ym mis Ionawr.

Ond yn 1945, bu Mary farw ar 13 Tachwedd yn 57 oed, yr Adroddiad yn canmol 'gwraig rinweddol ei moes, diwyd a darbodus yn ei chartref' a groesawai Weinidogion y Gair i'w chartref.

Yn 1951 bu Henry Griffith farw ar 8 Chwefror yn 72 oed. (Bedd B064 Bwlch) Canmolir ei ffyddlondeb i'r 'cysegr a'i arbenigrwydd cynnes wrth weddïo, hyn gan y gweinidog, Ieuan James Owen.

Yn 1956 nodir enwau Mr a Miss Scott, Bwlchclawdd, ymhlith caredigion y capel.

 

                                                            ***********

Comments

Popular posts from this blog

Bryngwyn

Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003

Bryncelyn-bach