Bwlchclawdd (Uchaf)
Bwlch y Clawdd/Bwlchclawdd – mae’r ddau Fwlchclawdd o bobtu’r lôn fawr sy’n cysylltu Cilan â Bryncelyn a Sarn Bach, ond nid ydynt yn union gyferbyn â’i gilydd. Dyma reswm amlwg dros alw’r naill yn Uchaf a’r llall yn Isaf. Ond lle mae’r clawdd? A beth fu ei bwrpas? Efallai mai yma oedd y ffin gwreiddiol rhwng Cilan a Bryncelyn ac y bu unwaith glawdd clir i nodi hynny. A’r lôn yw’r ‘bwlch’ yn y ‘clawdd’ hwnnw? Efallai.
Anodd gwahaniaethu mewn dogfennau cynnar rhwng Bwlchclawdd Isa ac Ucha, gan na ddefnyddir ond Bwlchclawdd i gyfeirio at y ddau dŷ. Dengys llyfr ocsiwn y Faenol 1907, fod Bwlchclawdd Ucha yn fwy na’r Isa o ran aceri ac ar sail hynny ceisiwn wahaniaethu hyd nes yr amlygir yn wahanol.
1841 : Bwlchclawdd (Ucha): (Ardal 13 rhif 29)
Jane Williams, 40 oed
Ann Williams, 10 oed
1851 : (Ardal 7c rhif 31)
Elizabeth Williams, penteulu, gweddw, 59 oed, ‘late farmer’s wife’,
g. Rhiw;
Dorothy, ei merch, sengl, 30 oed, g Llanengan
Anne, ei merch, sengl, 26 oed
1861 : (Ardal 17 rhif ?)
Richard Jones, penteulu, prïod, 51 oed, ‘blacksmith’, g Llanengan
Jane, ei wraig, 61 oed, g Llanenagn
John Richards, eu mab, sengl, 25 oed, ‘sailor’, g ‘Merionethshire’
Mary Thomas, 15 oed, morwyn, g Llanengan
1871 : (Ardal 17 rhif 84)
Richard Jones, penteulu, prïod, 61 oed, yn ffermio 10 acer (m. 3 Mai
1877 yn 67 oed; bedd B024 Bwlch)
Jane, ei wraig, 71 oed (m. 7 Ionawr 1880 yn 80 oed)
Mary Hughes, 17 oed, morwyn, g Llangïan
1881 : ‘Part of Bwlchclawdd’ :
William Jones, penteulu, prïod, 22 oed, ‘lead mine labourer’, g Llanengan
Elizabeth, ei wraig, 25 oed, g Aberdaron (m. 29 Mai 1883 yn 28 oed; bedd B047 Bwlch)
Jane, eu merch, 2 oed, g Llanengan
Lewis, eu mab, 4 mis oed
1881 : ‘Llainfain’ (rhif 85) :
Daniel Jones, penteulu, prïod,36 oed, ‘stonemason & farmer of 6 acres’, g. Treflys (Daeth i helpu adeiladu capel newydd Y Bwlch, 1871)
Elizabeth, ei wraig, 36 oed
Evan Roberts, 68 oed, wife’s father, widower, pensioner mariner (bu’n byw yn Bryncelyn Cottage/Sarah)
Ellen Pierce, morwyn, 18 oed
1891 : ‘Llainfain’ (rhif 13):
Daniel Jones, penteulu, prïod, 46 oed, ‘farmer’ g. Ynyscynhaearn
(m. 1 Rhagfyr 1913 yn 69 oed. Bedd B024 Bwlch)
Elizabeth, ei wraig, 46 oed, g Llanengan (m. 4 Chwefror 1910 yn 66 oed)
Kate, eu merch, 6 oed, yn yr ysgol, g Llanengan
Mary Griffith, sengl, 24 oed, morwyn, g Llanengan
1901 : Bwlch Clawdd (Ardal 16 rhif 44)
Daniel Jones, penteulu, prïod, 56 oed, ‘farmer’, g Ynyscynhaearn
Elizabeth, ei wraig, 56 oed
Kate, eu merch, 16 oed
1911 : Bwlch Clawdd Ucha (Ardal 14 rhif 140/176)
Daniel Jones, penteulu, gweddw, 66 oed ‘stonemason’, g Morfa Bychan
Judith Hughes, sengl, 18 oed, morwyn, g Llanengan
1921 : Bwlch Clawdd, Cilan, Abersoch (03. 19,20,21, rhif 571/644)
Robert R Humphreys, penteulu, 40.11 oed, prïod, g. Ynyscynhaearn, ffermwr
Kate L, ei wraig, 35.8 oed, g. Llanengan, gwaith tŷ
Tudwal J , eu mab, 11.7 oed, g. Llangynwyd, Glamorgan, yn yr ysgol
Eliza A. eu merch, 9.11 oed, g. Llangynwyd, yn yr ysgol
Cofrestr 1939 : Bwlchclawdd Uchaf
Elizabeth A Morley, g. 1911
K L Humphreys, g. 1884
R R Humphreys, g. 1876
T J Humphreys, g. 1909 (5 Hydref) ‘ffermwr’
Adroddiadau’r Capel:
1914 : Robert Rowland Humphreys, Kate ei wraig, a Tudwell Jones Humphreys ac Elizabeth Ann Humphreys yn blant iddynt – yn aelodau.
Yn 1924 mae Tudwal Jones Humphreys yn gyfeilydd yn y capel, er ei fod yn dal yn ‘blentyn’ neu heb ei dderbyn yn gyflawn aelod mae’n debyg.
Erbyn 1929 mae Elizabeth Ann wedi ymadael gan adael ei rhieni a’i brawd yn aelodau.
Erbyn 1932 mae enwau’r rhieni wedi diflannu a dim ond Tudwal Jones Humphreys yn aelod o Blwchclawdd Ucha.
Yn 1933 gwelwn ddychwelyd enw Elizabeth Ann.
Erbyn 1937 mae cyfenw Elizabeth Ann bellach yn Morley.
Erbyn 1940 enw Tudwal Jones Humphreys yn unig sy’n ymddangos fel aelod.
Erbyn 1943 ni enwir Tudwal yn gyfeilydd mwyach.
Yn 1952 mae enw Kate Humphreys yn ôl fel aelod yn y capel.
Yn 1953 gwnaed Tudwal yn flaenor.
Yn 1954 bu farw mam Tudwal, Mrs L K Humphreys yn 69 oed.
O 1956 gwelwn enw Tudwal yn flynyddol gyfrifol am flodau i’r capel bob Ionawr.
Bu’n aelod triw tan ei farwolaeth ar 5 Chwefror 1996. Ceir teyrnged haeddiannol iddo yn Adroddiad 1995 lle nodir iddo fod yn flaenor ym Methlehem, Cilan am 43 o flynyddoedd ac iddo dderbyn yr M.B.E. ‘am ei wasanaeth diflino’ yn ymweld yn ‘gyson yn ysbytai Gogledd Cymru ar hyd y blynyddoedd’. Ar ben hynny bu’n Gynghorydd Dosbarth a Sir gan wasanaethu ei ardal yn deilwng. Bellach ei nith a’i theulu sy’n ymgartrefu yn Bwlchclawdd Uchaf.
***********
Comments
Post a Comment