Brynrodyn

Brynrodyn (y bryn lle mae’r odyn galch (lime kiln)


1841 : (Ardal 13  rhif 61) 

Richard Roberts, ffermwr, 60 oed

Jane ei wraig, 60 oed

Richard 30 oed

Edward 20 oed

Catherine Thomas, 13 oed, ‘farm servant’



1851 : (Ardal 7c  rhif 23)

Edward Roberts, penteulu. dibrïod, 32 oed, yn ffermio 12 acer, g. Llanengan

Jane Jones, morwyn, dibrïod, 19 oed, g. Llangïan

Mary Roberts, ymwelydd, dibrïod, 20 oed, g. Llanengan.



1861 : (Ardal 17 rhif 71)

Edward Roberts, penteulu, dibrïod, 42 oed, yn ffermio 12 acer ac yn gigydd 

Margaret Roberts, ei chwaer, dibrïod, 44 oed.



1871 : (Ardal 17  rhif 93)

Edward Roberts, penteulu,  dibrïod, 52 oed, yn ffermio 12 acer

Margaret Roberts, ei chwaer, dibrïod, 54 oed



1881 : (Ardal 17 rhif 93)

Edward Richard, penteulu, dibrïod, 62 oed, ffermwr 

Margaret Richard, ei chwaer, dibrïod, 64 oed



1901 : (Ardal 16 rhif 54)

Thomas Evans, penteulu, prïod, 25 oed, ffermwr, g. Llanengan 

Anne, ei wraig, 26 oed, g. Rhiw.



1911 : Bryn’rodyn (Ardal 14 ffram 106/175)

Griffith Jones, penteulu, prïod, 66 oed, ffermwr, g. Rhiw.

Laurah; ei wraig, 40 oed, g. Llanengan, yn brïod ers 13 ml. 1 plentyn ganddynt 

John Griffith Jones, mab, 13 oed, yn yr ysgol, g. Rhiw. 

(Laurah yn ferch i Evan ac Ellen Richards, Lônlas, gw. Llanw Llŷn, Mehefin 1984) 

Bu i Griffith Jones foddi yn harbwr Pwllheli ym 1914. Anffawd drasig.



Yn 1914 mae Laura Jones, Brynrodyn (1866-1938, bedd DO 71/72 Eglwys Llanengan) yn gyflawn aelod yng Nghapel Bethlehem, Cilan. Erbyn 1917 geill y Laura hon fod wedi symud i fyw i’r Ewig at Margaret Jones lle bu hi tan ei marw yn 1938. Tybiaf fod Margaret Jones, Rewig yn chwaer i Laura?



1921 : (Ardal 03 - 19.20.21 – ffram 623/644)

Brynrodyn, Abersoch

Mathew Robert Jones, penteulu, prïod, 61.3 oed, g. Ffestiniog, yn ffermio gartref

Dorothy, ei wraig, 46.11 oed, g. Llanfihangel Bachellaeth, yn gweithio gartref

Maggie Mary, eu merch, 9.2 oed, g. Ffestiniog, yn yr ysgol

Catherine Jones, ymwelydd, dibrïod, 28.2 oed, g. Ffestiniog, bu’n gweithio yn Irwin’s Co. Ltd, Lerpwl, fel ‘shop assistant’ ond allan o waith yn bresennol

Ellis Davies, ymwelydd, prïod, 44.9 oed, g. Ffestiniog yn gweithio  gyda’r 

Great Western Railway Co. fel Signalman, ac yn byw yn Shrewsbury

Margaret, ei wraig, 43.9 oed, g. Ffestiniog, yn gweithio gartref yn Shrewsbury


Mae’r enwau newydd uchod ym Mrynrodyn ers 1917 yn ôl Adroddiad y capel – Matthew R. Jones, Dorah ei wraig a Maggie Mary yn blentyn iddynt. Blaenau Ffestiniog oedd eu cartref blaenorol. Y flwyddyn ganlynol, 1918, gwnaed Matthew yn flaenor. Bu farw ar 5 Mehefin 1933.

Roedd Margaret M yn gyfeilyddes yn yr Ysgol Sul ers 1927 ac yn cyfeilio yn y capel ers 1929; yn 1932 bu’n ysgrifenyddes yr Ysgol Sul am rhyw dair blynedd.

 

Ym 1938 derbyniwyd Mr Thomas Thomas, Brynrodyn, yn aelod o’r capel. (Brawd Dorah oedd ef, teulu Felin Newydd, Nanhoron. Bu’n gweini yn Gwynus, Nefyn, ac yna symudodd i fyw gyda’i chwaer a’r teulu. Bu farw 28 Mawrth 1947.)

 

Erbyn 1940 mae Margaret M yn brïod â William John Hughes, Ysgubor Hen – a dderbyniwyd yn aelod o’r capel yn 1939. Trist yw gweld fodd bynnag, i William J Hughes farw yn ddisymwth ar 28 Ionawr 1945 yn 32 oed.


Ym 1941 bedyddiwyd Gwilym Hughes, Brynrodyn yn fab i Margaret a William. Roedd Dorothy Jones a Thomas Thomas yn dal i fyw yno hefyd. Ond erbyn 1943 roedd y teulu wedi symud o Brynrodyn i Tanybryn.

 

Ym 1944 daeth Richard Jones (o Tanybryn, Pencaenewydd) i fyw i Brynrodyn. Roedd hefyd yn aelod yn y capel.

 

Erbyn 1951 yr oedd Robert Griffith Williams a’i wraig Dorothy (chwaer i William Williams, Bodarfoel, tad Charles ac Ellis) wedi symud yno  – hwythau yn aelodau yn y capel. Ond erbyn 1955 ni welir eu henwau fel aelodau. Enw Richard Jones yn unig sydd wedyn yn Brynrodyn, tan 1961 pan ddaw Emlyn Griffith a Barbara, a’u plentyn Ann Selina i fyw i’r un cyfeiriad – hwythau’n aelodau yn y capel. Mab Richard Griffith, Fronheulog a Sarnlys, yw Emlyn Griffith.



                                                        *********

Comments

Popular posts from this blog

Bryngwyn

Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003

Bryncelyn-bach