Bryncelyn (Isaf)
Bryncelyn (Isaf):
1841 (Ardal 13 rhif 16)
James Jones, prïod, 30 oed, ffermwr (g. 24/7/1807)
Mary Jones, gwraig, 25 oed
John, Jones, 10 oed
Mary Jones, 17 oed, morwyn ar y fferm
Yn 1841, roedd dau deulu yn byw yma, mae’n amlwg:
Margrate Roberts, 75 oed, ffermwr
Williams Williams, 65 oed, gwas ar y fferm
Ann Williams, 18 oed, morwyn ar y fferm
1851 (Ardal 7c rhif 29)
James Jones, prïod, 43 oed, yn ffermio 50 acer, g. Llanengan
Mary Jones, gwraig, 37 oed, g. Nevin
Anne, merch, 7 oed, 'scholar', g. Llanengan
Catherine, merch, 2 oed g. Llanengan
Elinor, merch, 3 mis oed, g. Llanengan
John Evans, 38 oed, sengl, gwas ar y fferm, g. Llanengan
John Williams, 19 oed, sengl, gwas ar y fferm, g. Llanengan
Elizabeth Williams, 24 oed, sengl, morwyn yn y tŷ, g. Llanengan
1861 (Ardal 17 rhif 92)
James Jones, prïod, 53 oed, yn ffermio 60 acer, g. Llanengan
Mary Jones, gwraig, 37 oed, g. Llanengan
Ann, merch, 17 oed, sengl, g. Llanengan
Catherine, merch, 12 oed, g. Llanengan; (priododd Evan Jones*, Tanybryn a Lerpwl)
Lydia Ellis, 20 oed, sengl, morwyn yn y tŷ, g. Llannor
William Williams, 19 oed, sengl, certmon, g. Abereirch
1871 (Ardal 17 rhif 66)
James Jones, prïod, 63 oed, yn ffermio 58 acer, g. Llanengan
Mary Jones, gwraig, 47 oed, g. Llanengan, m. 1879 yn 55 oed; B031, Bwlch (merch Owen ac Elizabeth Jones, Hendŷ, Llanengan ??)
Ann Williams, merch, prïod, 27 oed, 'joiner's wife', g. Llanengan
Catherine Jones, merch, sengl, 22, g. Llanengan
Hugh Williams, 22 oed, sengl, gwas ar y fferm, g. Llanengan
1881 (Ardal 17 rhif 125)
James Jones, gweddw, 73 oed, yn ffermio 60 acer, g. Llanengan
Anne Jones, 20 oed, sengl, morwyn, g. Llanengan
1891 (Adran 17, rhif 50)
James Jones, gweddw, 83 oed, ffermwr, g. Llanengan
Margaret Owen, 33 oed, sengl, morwyn yn y tŷ, g. Aberdaron
Ellis Roberts, 18 oed, sengl, gwas ar y fferm, g. Llandegwning
Bu James farw ar 10 Ionawr 1894 gan adael £336 i’w ferch Catherine. Dim cofnod o’i fedd ond efallai iddo gael ei gladdu gyda’i rieni ym medd D036 yn Eglwys Llanengan.
1901 (Ardal 16 rhif 77) - y tri isod yn rhedeg y fferm yn absenoldeb y tenantiaid
Mary Hughes, 34 oed, sengl, morwyn yn y tŷ, g. Llanengan
Rowland Hughes, 30 oed, sengl, gwas ar y fferm, g. Llanengan
Owen Griffith, 50 oed, sengl, yn gweithio'r ceffylau ar y fferm, g. Rhiw
Yn ocsiwn Y Faenol 1907 (Lot 106) gelwir y fferm hefyd yn Bryn Celyn Mawr. Nodir iddi fod ychydig dros 59 erw ac yn 'well cultivated'. Mrs Catherine Jones oedd y tenant.
1911 Bryncelyn Isaf, Abersoch (Adran 14 rhif 81 sleid 162/175)
Catherine Jones, gweddw, 63 oed, fu'n brïod am 36 ml. a chael 4 o blant, 2 yn unig yn fyw; ffermwraig, m. 1924 yn 75oed; bedd A049, Bwlch; g. Llanengan
Sarah A. Jones, merch, 29 oed, sengl, yn gweithio adref, g. Lerpwl, m. 1940 yn 60 oed; B360
Harry Griffith, 32 oed, sengl, yn gweithio'r ceffylau ar y fferm, g. Llanengan
Robert Roberts, 30 oed, sengl, yn gyfrifol am y gwartheg, g. Llanengan
Mary Williams, 19 oed, sengl, morwyn yn y tŷ, g. Llanengan
Y teulu yn aelodau yng Nghapel Bethlehem, Cilan yn 1914. Fe briododd Sarah gyda'r gweinidog y Parch. Hugh Davies Lloyd, fu'n gweinidogaethu yn y Bwlch 1913-1941.
1921 BrynCelyn Isa, Abersoch, (Adran 03. 19. 20. 21. 550/644)
Catherine Jones, penteulu, 72.9 oed, gwaith tŷ
Sarah Ann Lloyd, ei merch, prïod, 40.11 oed, g. Liverpool, yn siarad y ddwy iaith
Alice Williamson, morwyn, 13.9 oed, g. Manchester, yn siarad Saesneg
Eryl Picton Davies Lloyd, ŵyr, 3.5 oed
Yn 1881 mae merch James Jones a Mary, Catherine, yn byw yn Lerpwl ac yn brïod:
Walton-on-the-Hill (District 2) 46 Oakfield Rd.
Evan Jones*, prïod, 40 oed, 'warehouseman', g. Llanengan, m.1909 yn 68 oed; A049 Bwlch
Catherine, gwraig, 32 oed, g. Llanengan, m. 1924 yn 75 oed; A049 Bwlch
Mary E. merch, 6 oed, 'scholar', g. Liverpool, m. Awst 1957 yn 84 oed; B353 Bwlch
Griffith, mab, 4 oed, g. Liverpool, m. 1897 yn 21 oed; A049 Bwlch
James Picton, mab, 2 oed, g. Liverpool, m. 1900 yn 22 oed; A049 Bwlch
Sarah A. merch, 7 mis, g. Liverpool, m. 1940, gwraig y Parch H.D. Lloyd yn ddiweddarach
1891 : Walton-on-the-Hill (District 55) 15 St Andrew's Rd
Evan Jones*, prïod, 50 oed, 'warehouseman', g. Llanengan
Catherine, gwraig, 43 oed, g. Llanengan
Mary E. merch, 16 oed, g. Liverpool
Griffith, mab, 14 oed, 'scholar', g. Liverpool
James P. mab, 12 oed, 'scholar', g. Liverpool
Sarah A. merch, 10 oed, 'scholar', g. Liverpool
Anne J Hesketh, 14 oed, morwyn, g. Liverpool
1901 : Walton-on-the-Hill (District 32) 116 Belmont Rd
Evan Jones*, prïod, 59 oed, 'warehouseman', g. Caernarvon
Catherine, gwraig, 52 oed, g. Caernarvon
Mary E. merch, sengl, 26 oed, g. Liverpool
(y ddau fab wedi marw a'u claddu yn y Bwlch, AO49)
Sarah, merch, sengl, 20 oed, g. Liverpool
Rhywbryd rhwng 1901 a 1907 daeth y teulu i fyw i hen gartref Catherine yn Bryn Celyn Isaf. Hen gartref Evan* oedd Tanybryn - tan aeth ef a'r teulu oddiyna rhywbryd ar ôl 1861*. I Lerpwl yr aeth Evan a'i ddau frawd. Ymddengys i Tanybryn gael ei werthu gan Nanhoron rhywbryd yn ystod 1850au a’i brynu gan Richard Sorton, Cim. Bu Richard farw ar 16 Rhagfyr 1860 ac yn ei ewyllys gedy Tanybryn i fab ei chwaer Ann a’i gŵr Griffith Williams, Tanybwlch, sef Griffith Williams a briododd Jane, ferch William Parry, Bryncelyn. Hwy fu’n byw yn Tanbryn ar ôl 14 Mai 1862 pan ymadawodd Sarah a’i theulu.* (Y dyddiad ar Feibl y teulu, bellach gan weddw Wyn Bodlondeb, Jane. Roedd Wyn yn ddisgynnydd.)
1871 : Toxteth Park (District 60)
16. Mary Griffiths, gweddw, 52 oed, cadw tŷ lojin; g. Clynnog
Jane Griffiths, visitor, sengl, 23 oed, morwyn; g. Llanarmon
Evan Jones*, 30 oed, warehouseman; g. Llanengan
Griffith Jones, 26 oed, cotton packer; g. Llanengan
John B. Jones, 21 oed, draper assistant; g. Llanengan (hanner brawd i Evan a Griffith)
Donald McDonel Gaskin, 26 oed
Yn 1873 cyhoeddwyd cyfrol fechan o'r enw Capel Newydd y Bwlch, Llanengan a argraffwyd ym Mhwllheli. Ynddi ceir rhestr o danysgrifwyr y capel newydd ac ar dudalen 37 wele'r tri enw uchod yn ymddangos eto:
Mr John B Jones, Compton House, Liverpool - 10 swllt
Mr Evan Jones*, 16 Heman St. Liverpool - £2.00
Mr Griffith Jones, 16 Heman St Liverpool - 12 swllt
Er yn Lerpwl, yr oedd y brodyr yn dal i gyfrannu at achos y Bwlch mae'n amlwg.
Ceir un enw perthnasol arall yn y gyfrol dan sylw, sef Miss Dorothy Jones, Trwynygarreg, a roddodd 3 swllt at yr achos. Bu'r Dorothy hon - oedd yn chwaer i Evan Jones* - yn byw efo'i mam Sarah Jones yn Nhrwynygarreg ers y symud o Danybryn rhywbryd ar ôl 1861. Bu'r ddwy yn cadw siop yno i gadw dau ben llinyn ynghyd. Soniodd Megan Roberts, Bryn Teg, i'w
mam fod yn cofio Dorothy a chofio cael afal ganddi 'a blas drôr arno'! Darganfu John Dilwyn Williams gofnod o'i marwolaeth yn Nghofrestr yr Ysbyty Meddwl, Dinbych ar 2 Mehefin 1895 yn 53 oed. Claddwyd hi ym mynwent yr Eglwys yn Llanengan efo'i thad, Griffith Jones, Tanybryn. (Bedd B024)
Ond dychwelwn at Bryn Celyn Isaf. Ceir enw Bryncelyn Vawr yn rhestr y Dreth Tir a ddaeth i rym yn 1783. Eiddo T Assheton Smith oedd y fferm, a'r tir yn werth 7 swllt o dreth yn flynyddol i'w dalu i'r wlad. Yr enw cyntaf a gawn fel tenant yw Henry Prichard hyd at 1801; yna gwelwn enw Anne Williams yn denant yn 1803; a'r enw o 1804-1818 yw William Roberts. Mae bwlch yn y wybodaeth wedyn hyd at Gyfrifiad 1841.
Diddorol yw gweld cyfeiriad at Bryn Celyn Isaf yng nghyfrol Harri Parri, O Ben Cilan i Bombay, Gwasg y Bwythyn, 2016, tt.45-6. Ymddengys fod peth anghysondeb yn stori Dafydd Jones, y cymeriad y dilynir ei stori, a'r ffeithiau fel y'i gwelir : Glamai 1909 yr aeth Dafydd Jones i weithio i Bryncelyn Isaf meddai, ond bu Evan Jones* farw ar 12 Chwefror 1909 (Bwlch A049) felly ni fu'r ddau yno ar yr un pryd. Diddorol hefyd yw sylw Harri Parri, 'fedra i ddim peidio â meddwl nad oedd yr aelwyd ym Mryncelyn Isaf, hefyd, yn un wahanol i'r cyffredin.' Hoffem wybod mwy!
Erbyn 1914 cawn Adroddiad Capel Bethlehem, Cilan, a gwelwn enw Catherine a'i merch Sarah Ann Jones yn aelodau, ond di-brïod yw Sarah yr adeg yma. Erbyn Adroddiad 1916, fodd bynnag, mae'r Parch H D Lloyd wedi symud ei gartref o Ty'n Pwll i Fryncelyn ac enwau Sarah a Catherine wedi eu symud i ben y rhestr aelodau! Bu priodas mae'n amlwg.
Erbyn Adroddiad 1918 ategir enw Eryl Picton Lloyd at y teulu, a nodir iddo gael ei fedyddio'r flwyddyn honno. Yn Adroddiad 1924 gwelir bedyddio Eirlys Mair Davies Lloyd yn ail blentyn i'r gweinidog a'i wraig, Catherine. Ni fu'r naill na'r llall, Eryl nac Eirlys, yn brïod a diwedd cynamserol fu hanes Eryl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodir ar garreg fedd ei rieni yn y Bwlch (B360) i Eryl gael ei ladd 'mewn brwydr yng Ngogledd Affrica, Ionawr 18, 1943, ac a gladdwyd yng Nghladdfa Filwrol Bouarada yn 25 mlwydd oed'.
Anodd fu blynyddoedd cynnar y 40au i'r teulu felly: marw Sarah yn 1940; H D Lloyd yn gadael y weinidogaeth yn 1941; marw Eryl ym 1943. Parhau i fyw ym Mryncelyn Isaf wnaeth Eirlys Lloyd a'i thad, fodd bynnag, tan ei farw ef ym 1965. Bu Eirlys hefyd am gyfnod yn Lerpwl yn gweithio mewn banc (?) lle cyfarfu â Miss Cowley. Bu’r ddwy yn ddiweddarach yn rhedeg Siop Vera, Abersoch. Ac ar fedd B360 yn y Bwlch, mae carreg goffa i Daisy Muriel Cowley, The Orchard, Cae Du Lane, fu farw ym 1995 yn 77 oed ac i Eirlys Mair Davies Lloyd fu farw ym 1996 yn 72 oed.
Cydiwn am funud yn enw canol Eryl Picton Lloyd cyn gorffen. Coffëir James Picton Jones a fu farw'n ifanc hefyd, ar fedd a nodwyd yn barod, A049, sef mab ieuengaf Evan Jones* a Catherine, a fu farw ym mis Hydref 1900 yn 22oed. Ewyrth i Eryl oedd y James hwn, ddwyflwydd yn hŷn na Sarah, ei fam. Dewiswyd yr enw James iddo ar ôl taid Sarah, fu'n ffermio Bryn Celyn Isaf am ddegawdau. Ond o le daeth yr enw Picton?
Ar yr un gof golofn yn union yn y Bwlch, A049, coffëir hefyd Griffith, mab ddwy flynedd yn hŷn na James, a fu farw'n ŵr ifanc eto, ddiwedd Awst 1897 yn 21 oed. Magwyd y brodyr hyn yn Lerpwl, ond yn y Bwlch y claddwyd y ddau, gyda'u rhieni yn ddiweddarach.
Mae enw chwaer hŷn na'r meibion hyn yn y Cyfrifiadau, sef Mary E Jones, ddwy flynedd yn hŷn na Griffith a chwe mlynedd yn hŷn na Sarah. Yn y Bwlch mae bedd B353 heb fod yn rhy bell o B360, lle gwelir yr enwau: John Williams, 58 Balmoral Rd, Liverpool, a blaenor yn Eglwys M C Newsham Park. Bu farw ym Mryncelyn 22 Tachwedd 1941 yn 78 oed. Hefyd ei brïod Mary Ellen Williams, bu farw yn Y Fras, Mynytho 9 Awst 1957 yn 84 oed.
A dyna bedwar plentyn Evan Jones* a Catherine, er eu magu yn Lerpwl, wedi eu claddu oll yn y Bwlch. Daeth cyswllt y teulu efo Bryn Celyn Isaf i ben yn y 1960au gydag Eirlys Lloyd yn symud oddiyno i Abersoch wedi marwolaeth ei thad. Bu’n byw yno gyda Miss Cowley weddill ei hoes.
Wendy Lloyd Jones
9 Awst 2022
(Mae’r nodiadau uchod yn gywir hyd y gwn i, ond gellid ychwanegu atynt yn ddi-os gyda mwy o ymchwil.)
*****************
Comments
Post a Comment