Bryncelyn (Bellaf) 1

Bryncelyn (Bellaf) 1 (Mae sicrwydd mai yma oedd cartref Benjamin Thomas)

1841:  (Ardal 13, dim rhif, tua 25)

1.     Annie Williams, 25 oed

 

2.     William Jones, 60 oed, ‘weaver’

Phebe, ei wraig, 24 oed

Moses, 5 oed

John, 2 oed

Mary, 7 mis oed


1851: Bryncelyn 1 (Ardal 7c, rhif 24)

Griffith Jones, penteulu, prïod, 45 oed, ‘miner’

Hannah, ei wraig, 45 oed

John, eu mab, 11 oed

Catherine, eu merch, 8 oed

Evan, eu mab, 6 oed

Jane, eu merch, 3 oed (yn priodi John Evans o Rhuthun; erbyn 1871 yn Efail Glaswen)



1861: Bryncelyn 1 (Ardal 17, rhif 52) 

Griffith Jones, penteulu, prïod, 55 oed, ‘leadminer’, g. Llanbedrog

Hannah, ei wraig, 55 oed, g. Llanengan

Jane, eu merch, 14 oed, g. Llanengan

John Hughes, eu mab, 1 oed



1871: Bryncelyn 1 (Ardal 17, rhif 73) 

Benjamin Thomas, penteulu, prïod, 31 oed, ‘mariner’

Janet, ei wraig, 32 oed (m. 13 Ebrill, 1876 yn 37 oed. Bedd E045, Eglwys Llanengan)


Hefyd drws nesaf (rhif 74) mae:

David Jones, penteulu, prïod, 31 oed, ‘mariner’ (Tŷ Capel, Cilan ym 1861?)

Ann, ei wraig, 31 oed

John, eu mab, 8 oed

David, eu mab, 2 oed



1881: Bryncelyn 1(Ardal 17, rhif 81)  

Benjamin Thomas, penteulu, gweddw, 40 oed, ‘leadminer’

Ellis, ei fab, 8 oed, yn yr ysgol

Robert, ei fab, 6 oed, yn yr ysgol

Benjamin, ei fab, 4 oed

Laura Williams, morwyn, sengl, 35 oed

 

Hefyd drws nesaf (rhif 80) mae

John Evans, penteulu, prïod, 37 oed, ‘leadminer’, g. Sir Ddinbych

Jane, ei wraig, 34 oed, g. Llanengan (merch Griffith Jones a Hannah)

Laura, eu merch, 9 oed, yn yr ysgol

Griffith John, eu mab, 7 oed, yn yr ysgol

Evan, eu mab, 5 oed, yn yr ysgol



1891: Bryncelyn 1 (Ardal 17, rhif 54)  

Benjamin Thomas, penteulu, gweddw, 50 oed, ‘leadminer’

Robert, ei fab, 17 oed, ‘mine labourer’

Benjamin, ei fab, 14 oed, ‘farm labourer’

Laura Williams, morwyn, sengl, 46 oed


Rhif 55, drws nesaf, mae:

William Williams, penteulu, prïod, 27 oed, ‘farm labourer’ g. Llaniestyn

Laura, ei wraig, 22 oed, g. Llanengan

Elizabeth, eu merch, 1 oed



1901: Bryncelyn 1 (Ardal 16, rhif 38) 

Benjamin Thomas, penteulu, gweddw, 61 oed, ffermwr, g. Llanengan (m. 20 Ebrill 1905 yn 67 oed. Bedd E045, Eglwys Llanengan)

Benjamin, ei fab, sengl, 24 oed, ‘gweithiwr’ 

Laura Williams, morwyn, sengl, 56 oed, g. Llanengan



1911Bryncelyn 1 (Ardal 14, sleid 80)

(Gelwir yn Bryncelyn Bellaf heddiw, lle bu Griffith Hamilton Williams a’i deulu yn byw.)

4 ystafell 

Benjamin Thomas, penteulu, prïod, 34 oed, ffermwr, g. Llanengan 

Hannah K, ei wraig, 31 oed. Yn brïod ers 1 flwyddyn, dim plant. g. Llanengan



1921 : Bryncelyn, Abersoch ( 03. 19. 20. 21 sleid 539/644)

Benjamin Thomas, penteulu, 45.3 oed, ffermwr yn gweithio gartref

H K Thomas, gwraig, 42.1 oed, gwaith tŷ. Cymraeg yw eu hiaith.



Gwelir enwau Benjamin Thomas a’i wraig Kate yn flynyddol gyson fel cyflawn aelodau o’r capel, yn cyfrannu’n rheolaidd at achosion gwahanol yn ôl y gofyn. Daeth diwedd y daith yn sydyn  i Hannah Kate ym 1949 ar 27 Medi, yn 70 oed. Canmolir ei ffyddlondeb yn y dysteb, a’i chroeso wrth gynnig llety i’r gweinidogion ar y Sul. Ar 30 Mai 1951 bu ei gŵr Benjamin farw wedi ‘llesgedd’, yn ôl yr Adroddiad. (Bedd B272, Bwlch)

Yr un flwyddyn symudodd Griffith Hamilton Williams, ei wraig, Ellen, a’u plant, Robert John ac Ann Eifiona i Bryncelyn Bellaf ac yno y bu’r rhieni hyd ddiwedd eu dyddiau –  Griffith ar 25 Mawrth 1981 yn 69 oed (Bedd B357) a Nell ym 1993. Mae teyrnged deilwng iddi yn Adroddiad y flwyddyn honno yn nodi ei ffyddlondeb i’r capel a’i gweithgarwch gyda’r Achos. Gadawodd Robert John ac Ann Eifiona yr ardal. Mae’r tŷ yn eiddo i deulu Nant, a’r tir amaethyddol perthnasol yn eiddo i deulu Bodlondeb – y ddau deulu yn lleol. Disgynyddion Nant sy’n byw yno heddiw.


                                                             ***************   


Comments

Popular posts from this blog

Bryngwyn

Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003

Bryncelyn-bach