Lôn Las

Lôn Las, Cilan

 

Nid yw’r enw yn ymddangos yng Nghyfrifiad 1841, ond gwelwn ef fel 

Lonelas yn 1851 (Ardal 13 > 7c > rhif 19) lle mae Anne Morris yn wraig brïod 38 mlwydd oed ac yn ‘mariner’s wife’ yn enedigol o Blwy Llanengan. Gyda hi mae 5 merch:

Anne : 11 oed; Jane : 7 oed; Mary : 5 oed; Ellen : 2 oed; Margaret 1 mis oed.

Yn 1841 mae Anne Morris a’i merch hynaf yn byw yn Castell.

Yn 1891 mae’r ferch Anne, dibrïod, yn byw yn Castell eto, efo’i merch Jane Morris, 20 oed, dibrïod, a babi mis oed, Ann Jane Morris.

 

Yn 1861, nid yw enw Lonlas yn ymddangos. Mae’r teulu uchod yn byw yn Castell:

Thomas Morris, 47 oed, mariner, yn enedigol o Blwy Llangïan

Ann, ei wraig, 48 oed, o Blwy Llanengan

Ellin, eu merch 12 oed a Margaret eu merch yn 10 oed. Yn 1871 mae’r rhain yn Fairview.


Yn 1871 (Ardal 17 rhif 97) yn Lonlas mae: Mary Hughes, 33 oed, sailor’s wife, o Blwy Llanengan

Catherine, ei merch 9 oed; Ann, ei merch 6 oed; Elizabeth Elin, ei merch 5 oed; a Janet, ei merch 3 oed.

 

Yn 1881 (Ardal 17 rhif 96) yn Lon Las mae Mary Hughes, 42 oed, yn Capt’s wife erbyn hyn, o Blwy Llanengan.

 Mae Catherine, ei merch, yn 19 oed, yn ddibrïod ac yn dressmaker. Mae Judith yn 8 oed ac yn scholar, ac mae mab bychan, John Elias, yn 2 oed.

 

Erbyn 1891 (Ardal 17 rhif 14) yn Lon Las mae William Williams, 27 oed, o Blwy Bryncroes, sy’n farm labourer, ac Ellin, ei wraig 21 oed o Blwy Rhiw.

 

Erbyn 1901 (Ardal 16 rhif 46  8/14) gwelwn Ellen Richards, (1845-1929) yn weddw 56 oed, o Blwy Llanengan yma. Ei bedd hi a’i gŵr, Evan Richards (1849-1889) yn Eglwys Llanengan, DO71/2. Tebyg yw mai ym 1839 y’i ganwyd. Ei gartref oedd Penrallt, mab i Thomas a Lowry.


Efo hi mae ei merch Margaret, dibrïod, 28 oed (1872-1952); Catherine, 17 oed (1884-1939);

Griffith R. Griffiths, ŵyr 13 oed; ac Elizabeth Ll Richards, wyres, 8 mis oed.

(Roedd Ellen yn ferch i Edward Hughes ac Anne, y ddau yn Castell yn 1841; yn Dalarddima yn 1851 ac Ellenyn 6 oed; yn Bwlch y Gwynt yn 1861 yn 17 oed; ym Morfa Neigwl ym 1871 a 1881 ac yn Brynyreryr ym 1891. Ei merch hynaf oedd Laura, fu ynghanol brwydrau cau’r comin yng Nghilan yn 1911 ac a aeth i fyw i’r Ewig ym 1917.)

 

Yn 1911 (Ardal 14, 91/175) mae Ellen Richards yn weddw 67 oed ac yn bennaeth y teulu; mae Margaret yn ddibrïod, yn 34 oed, ac yn forwyn gyffredin deuluaidd; Kate yn ddibrïod, yn 26 oed ac yn forwyn gyffredin; Griffith R. Griffith, yr ŵyr, yn ddibrïod, yn 22 oed ac yn llafurwr amaethyddol; ac Elizabeth Lloyd Richards, yr wyres yn 10 oed ac yn yr ysgol.

 

1921 (Pwllheli 03 > 21 > 640/644) Lonlas, Cilan, Abersoch

            Ellen Richards, penteulu, 77 oed, analluog i weithio

            Evan, ei mab, 30 oed, sengl, llafurwr amaethyddol ar alw

            Edward, ei mab, 45 oed, sengl, ditto

Kate Richards, ei merch, 31 oed, sengl, gwaith tŷ

Nellie Griffiths, ymwelydd, 22 oed, g. Rhoshirwaun, morwyn deuluol i Mrs Williams,   Talafon

 

1939  (Lleyn Rd. Zega rhif 77 Lonlas, Cilan, Abersoch 6/10)

            Evan Richards, g. 11/11/1875 sengl Mânddaliwr/smallholder

            Ed. Richards, g. 30/5/1882 sengl, gwryw, ditto

 

Probate: Ellen Richards of Lôn Las, died 20/3/1929, bequeathing £60 to Edward Richards, fisherman

Laura Jones of The Bungalow, Mynydd Cilan, died 30/5/1938 at Tawelfryn, Cilan bequeathing £40 to Edward Richards, farmer



Adroddiadau Capel Bethlehem, Cilan

 

Yn 1914 mae Kate Richards, Lonlas yn gyflawn aelod ac yn aelod cyson tan ei marwolaeth ar 20 Medi 1939‘heb i neb ohonom prin sylweddoli fod y diwedd mor agos’.

Erbyn 1915 roedd enw Lizzie Lloyd Richards ar y llyfrau hefyd, yn blentyn.

Yn 1917 gwelwn enw Ellen Richards yn ‘aelod o’r gynulleidfa’ ac felly yn flynyddol y gwelir ei henw tan ei marwolaeth yn 1929. Fel ei merch, Kate, bu Ellen yn cyfrannu’n gyson at yr achos ar hyd y blynyddoedd. Erbyn 1926 mae enw Lizzie Lloyd Richards wedi diflannu o’r llyfrau.

Bu Kate Richards yn byw yn Lonlas ei hunan am ddeng mlynedd olaf ei bywyd (1929-39). Bedd DO71/2 yn Eglwys Llanengan. Ar hyn o bryd does dim i ddangos yn Adroddiadau’r capel fod neb yn byw yn Lonlas am y blynyddoedd dilynol, onibai nad oeddynt yn aelodau – ond gweler Cofrestr 1939 uchod.


Erbyn 1947 derbyniwyd Laura Richards, Lonlas, (yn wreiddiol o Tŷ Newydd, Cilan) yn gyflawn aelod o’r capel a Robert John Evans yn blentyn efo hi. Bu’r ddau yn cyfrannu’n gyson at yr achos ar hyd y blynyddoedd. Mae’n amlwg i Laura briodi Evan Richards.)

Derbyniwyd Robert John Evans yn gyflawn aelod ym 1951. Claddwyd Laura Jane Richards efo’i gŵr, Evan Richards, ym Mawrth 1978 yn 75 oed. Bedd DO90 yn Eglwys Llanengan.

 

Wedi marwolaeth sydyn Robert John - sef Robin Lônlas fel y’i gelwid yn lleol - fe etifeddodd Sylvia Gibbs,neé Pryde – merch Jane/Jennie Pryde, hanner chwaer Robert John - y bwthyn. Mae Sylvia a'i gŵr yn dod yno i aros mor aml â phosib o’u cartref yn Lerpwl. Braf gweld dilyniant y teulu yma.

 

 

                                                            ************  

Comments

Popular posts from this blog

Bryngwyn

Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003

Bryncelyn-bach