Llainhenryd 1

Llainhenryd (1) 1841 (Ardal 13 rhif 11)

William Evans, 50 oed, ‘shoem’

Mary Evans, 45 oed, 

Evan Evans, 17 oed

Elianor Evans, 9 oed

Ann Evans, 6 oed

John Evans, 5 oed

Elizabeth Evans, 2 oed

 

1851: Llainyrhenryd (Ardal 13  7c  rhif 15)

            Williams Evans, penteulu, prïod, 60 oed, ‘shoemaker’, g. Llangïan

            Mary, ei wraig, 56 oed, g. Llanengan

            Evan, eu mab, 25 oed, dibrïod, ‘shoemaker’

            Anne, eu merch, 16 oed

            Elizabeth, eu merch, 12 oed

            Hannah Williams, ‘visitor’, 3 oed


1861:  Llainrhenryd (Ardal 17 rhif 97)

            William Evans, penteulu, prïod, 71 oed, ‘shoemaker’, g. Llangïan

            Mary, ei wraig, 67 oed

Hannah, eu wyres, 13 oed

William, eu ŵyr, 3 oed, g. Treflys

 

1871: Llainrhenryd (Ardal 17 rhif 60)

            William Evans, penteulu, prïod, 81 oed, ‘shoemaker’, g. Llangïan

            Mary, ei wraig, 78 oed

            Hannah, eu wyres, dibrïod, 23 oed, ‘labourer’

            William Evans, eu ŵyr, 13 oed, ‘miner’

            John Evans, eu ŵyr, 8 oed, yn yr ysgol

            Evan Jones, ‘boarder’, prïod, 29 oed, ‘miner’, g. Dolgelley

 

1881: Llainyrhenryd (Ardal 17 rhif 129)

            Elizabeth Hughes, penteulu, gweddw, 68 oed, ‘housekeeper’ (hen hen nain Arthur)

            Griffith Hughes, ei mab, dibrïod, 21 oed, yn gweithio ar fferm (hen daid Arthur R.)

            (Roedd y teulu hwn yn Bryndu ers 1851.)

 

1891: Llainrhenryd (Ardal 17 rhifau 69 a 70)

            Elizabeth Hughes, penteulu, gweddw, 76 oed

Griffith Hughes, penteulu, prïod, 30 oed, ‘leadminer’

            Mary, ei wraig, 26 oed, g. Llangïan

            Owen, eu mab, 3 oed

            Jane Ellen, eu merch, 1 mis?

 

1901: Llainhenryd (Ardal 16 rhif 81)

            John Jones, penteulu, prïod, 29 oed, yn gweithio ar fferm

            Elizabeth, ei wraig, 26 oed, g. Rhiw

            Ellen, eu merch, 4 oed

            Ellis, eu mab, 3 oed

 

1911: Llainrhenryd (Adran 14 sleid 168/175)

            John Roberts, ‘lodger’, 73 oed, gweddw, ‘farm labourer’

            Separate occupier: Ann Williams – dim manylion

 

 

1921: Llainhenryd (Pwllheli 03 > 21 > 556/644) Sarn Bach, Abersoch

           Elizabeth Griffiths, penteulu, 68 oed, gweddw, cadw tŷ gartref

Evan, ei mab, 29.1 oed, sengl, morwr, gyda Morgan Shipowners, Swansea, allan o waith

Lizzie, ei merch, 25.9 oed, sengl, cadw tŷ gartref

George O. Griffiths, nai, 1.2 oed

 

 

1939: Llainhenryd, Abersoch (Lleyn Rd > Zega > rhif 38 - 4/10)

            Evan Griffiths, g. 9 Ion 1892, sengl, Llafurwr cyffredinol 



Yn Adroddiad y capel am 1914, nid oedd enw Llainhenryd yn gynwysedig. Ond erbyn 1917 roedd enwau: Elizabeth Griffith, Mary Griffith (am ran o’r flwyddyn) a Lizzie Griffith yn gyflawn aelodau o’r cyfeiriad hwn. Nid yw enw Lizzie Griffith yn yr Adroddiadau am hir, a mynd a dod mae enw Mary Griffith am gyfnod, ond mae enw’r fam, Elizabeth Griffith, yn gyson tan 1926. Gwelwn gofnod ei marw ar 5 Ionawr y flwyddyn honno pan sonnir iddi ‘hannu o un o deuluoedd hynaf yr eglwys’. Parheir i weld enw ei merch Mary Griffith, yn yr Adroddiadau hyd at 1929. (Gwelir y teulu hwn yn Bron Heulog ym 1901 – Elizabeth Griffith, mam Evan, Mary ac Elizabeth, yn chwaer i Evan Griffith y ffermwr. Yr Evan Griffith, 9 oed ym 1901, yw’r un sy’n byw yn Llain Henryd yn ddiweddarach, yn frawd hŷn i Mary ac Elizabeth/Lizzie.)

Yna am ran o’r flwyddyn 1930 cawn Mary Jones, Llainhenryd yn gyflawn aelod, a Mr Evan Griffith, Llainhenryd yn cyfrannu at beintio’r capel, er nad yw’n gyflawn aelod. (Sylwer mai cadw at yr enw gwreiddiol a wneir yn y cartref hwn, sef Llainhenryd, i’w wahaniaethu oddiwrth drws nesaf, sef Henryd/Henryd Cottage.

 

Roedd Mary Jones yn wraig i William Jones. Noda Adroddiad 1947 farw William Jones Llainhenryd ac mai ‘yn nyddiau y canol oed y daeth ef i berthyn i’r Achos...’ Nodir hefyd ar 5 Hydref 1930 fedyddio Elizabeth Emily Jones, Llain Henryd – merch William a Mary. Yn ddiweddarach fe briododd Emily â William Thomas Williams, Tŷ Rhos, ac ymgartrefu yn Tyddyn Priciau.

Ni fu Evan Griffith yn gyflawn aelod o’r capel ond ymddengys ei enw am rai blynyddoedd yn cyfrannu fel aelod o’r gynulleidfa. Roedd yn ewyrth i Mary Jones, yn rhannu’r un bedd â hi a’i gŵr William yn Eglwys Llanengan, E043. Nodir ei eni ym 1892 a’i farw ym 1946. Flwyddyn yn ddiweddarach claddwyd William Jones (1875-1947). Cadarnheir mai gwraig William oedd Mary (1893-1983).


Parheir y patrwm ym 1931 o Mary Jones a’i merch Elizabeth Emily (a William Jones mae’n siwr) yn Llainhenryd ac Evan Griffith yn gwmni iddynt ac ym 1932 bedyddiwyd Henry Owen Jones yn fab i William a Mary. Erys y teulu yn Llainhenryd tan 1933 pan maent yn byw yn Bryn Berllan(Llanengan) ond erbyn 1937mae enwau’r teulu yn diflannu o’r Adroddiadau.

 

Mae’n amlwg i Evan Griffith barhau i fyw yn Llainhenryd, fodd bynnag, gan i’w enw ymddangos yn rheolaidd yn yr Adroddiadau ond ym 1946 bu farw.Y flwyddyn ganlynol, 1947, gwelwn dderbyn fel cyflawn aelodau William, Mary ac Elizabeth Emily Jones, Llainhenryd, yn dilyn absenoldeb o ryw ddeng mlynedd. Ond yr un flwyddyn marw fu hanes William Jones. 


Ym 1948, mae enw Henry Owen Jones yn ôl yn Llainhenryd, fel aelod o’r gynulleidfa a phery’r  patrwm tan 1954 pan fu priodas Emmy Jones â William Williams, Tŷ Rhos, ar 1 Mai. Ond gyda’r hapusrwydd roedd tristwch yn hanes Henry Owen y nodir ei ‘ddiflaniad’ yn Adroddiad y capel, ac a ‘gollwyd yn Lagos, Nigeria’ yn ôl carreg fedd ei rieni, (Eglwys Llanengan E043).

 

Parhau i fyw yn Llainhenryd wnaeth Mary Jones tan iddi symud ym 1976 i fyw efo’i merch a’i mab-yng-nghyfraith yn Ty’n Priciau. Bu farw ym 1983 yn 90 oed a’r deyrnged iddi yn yr Adroddiad yn nodi mai “chwaer yn caru’r encilion ydoedd...[gafodd] groes yn ei bywyd a’r groes honno yn un drom iawn.”

 

 

                                                            **********                

Comments

Popular posts from this blog

Bryngwyn

Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003

Bryncelyn-bach