Garreg Haul

Garreg Haul/Gareghaul


1841 (Ardal 13, rhif 63)

Jane Jones, 55 oed, farmer

John Jones, 30 oed

Elinor Williams, 15 oed

Jane Williams, 13 oed



1851 (Ardal 13, rhif 14)

Jane Griffith, penteulu, gweddw, 63 oed, yn ffermio 8 acer, g. Aberdaron

Jane Griffith, ei merch, dibrîod, 23 oed, g. Llanengan

Henry Hughes, lodger, gweddw, 65 oed, Ag. Lab. g. Penrhos



1861 (Ardal 17, rhif 80)

William Roberts, penteulu, prïod, yn ffermio 12 acer, g. Abererch

Jane, ei wraig, 32 oed, g. Llanengan

Robert, eu mab, 5 oed, g. Llanengan



1871 (Ardal 17, rhif 107)

William Roberts, penteulu, prïod, 48 oed, yn ffermio 14 acer

Jane, ei wraig, 43 oed

Robert, eu mab, 15 oed

John, eu mab, 9 oed, yn yr ysgol



1881 (Ardal 17, rhif 109)

William Roberts, penteulu, prïod, 59 oed, ffermwr

Jane, ei wraig, 53 oed

John, eu mab, dibrïod, 19 oed, gwas fferm

Ellen Williams, dibrïod, ‘sister’s wife’/ chwaer Jane, 56 oed, morwyn, g. Llanengan



1891 (Ardal 17, rhif 41)

William Roberts, penteulu, prïod, 72 oed, ffermwr

Jane, ei wraig, 65 oed

John, eu mab, dibrïod, 29 oed, yn gweithio ar y fferm



1901 (Ardal 16, rhif 65)

Jane Roberts, penteulu, gweddw, 77 oed, ‘farmer’s wife’

John, ei mab, dibrïod, 39 oed, ‘worker’



1911 (Ardal 14, rhif 134/175)

John Roberts, penteulu, prïod, 49 oed, ffermwr (m. 11 Ebrill 1946 yn 85 oed, B002 Bwlch)

Mary, ei wraig, 44 oed, yn brïod ers 11 mlynedd, dim plant (m. 8 Gorffennaf 1932 yn 66 oed)

(Gallai fod yn Mary Hughes, g.1866 merch Parc??)


 

Yn Llyfr y Faenol, 1907, nodir Mrs Jane Roberts fel y tenant, a’r tir yn 15 acer. (Lot 123)



1921 :  (Ardal Lleyn Rd, 3 < 21 < rhif 51  597/644)

John Roberts, penteulu, 59.3 oed, prïod, Ffermwr iddo’i hun, g. Llanengan C

Mary Roberts, ei wraig, 54.9 oed, gwaith tŷ, g. Llanengan C



1939 : (Lleyn Rd. Zega, rhif 103, 8/10)

John Roberts, g. 27/2/1862, gweddw, farmer

Line beneath redacted.

 


Yn Adroddiad y capel ym 1914, dim ond Mary Roberts sy’n gyflawn aelod a chyfrannodd yn gyson ar hyd y blynyddoedd at yr Achos. O 1921 ymlaen gwelwn enw ei gŵr yn cyfrannu fel aelod o’r gynulleidfa, a hynny’n gyson tan 1932, pan fu farw Mary. Deallwn iddi hi fod yn gaeth i’w chartref ym mlynyddoedd olaf ei bywyd ond canmolir ei ffyddlondeb a’i chof ‘yn trysori llawer o emynau a’r Ysgrythur’.


Ni welir enw Garreg Haul yn Adroddiadau’r capel wedyn am rai blynyddoedd tan 1962 pan geir enw David Roberts yn cyfrannu i’r Achos fel aelod o’r gynulleidfa ac enw Miss Janet Williams, Garreg Haul, yn gyflawn aelod yr un flwyddyn (gynt Tŷ Rhos – roedd yn chwaer i Lizzie, Jane a Vera. Bu’n ‘howsgipar’ yn Garreg Haul). Pery’r patrwm, ac eithrio 1966 a 1967, tan y gwelwn nodi marw David Roberts ym 1974. Claddwyd ef efo’i daid a’i nain, a’i hen nain yn A034 – Deborah Williams, Bryncelyn, ei mab David Roberts a’i wraig Mary. (Claddwyd ei rieni, Thomas Roberts a Deborah, Penygroes, yn A152 Bwlch.)


Parhaodd cyfraniadau Janet Williams, fodd bynnag, a swm blynyddol er cof am David Roberts. Ac er i Janet symud o Garreg Haul ym 1975, parhaodd i gyfrannu i’r Achos ac i gynnwys cyfraniad er cof am David Roberts. 1987 yw’r flwyddyn gyntaf i enwau’r ddau beidio ymddangos. Cafwyd teyrnged fer i Janet yn Adroddiad 1989 yn nodi ei marwolaeth yn 80 oed. Claddwyd hi yn Y Bwlch (C100) a’i chyfeiriad - Garreg Haul.

 

                                                          ************* 

Comments

Popular posts from this blog

Bryngwyn

Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003

Bryncelyn-bach