Fronheulog
1841: Fronheulog (Adran 13 rhif 60)
Evan Davies, 40 oed, ffermwr (m. 10 Chwefror 1882 yn 83 oed Eglwys C022)
Elizabeth Davies, 30 oed (m.11 Tachwedd 1888 yn 80 oed)
David Davies, 11 oed
Griffith Davies, 9 oed
Evan Davies, 3 oed
John Davies, 1 oed
Elinor Williams, 75 oed
Fronhaelog : 1851 (Adran 13 7c rhif 24)
Elizabeth Davies, penteulu, prïod, 44 oed, ‘mariner’s wife’, g. Llanengan
David, ei mab, dibrïod, 22 oed, ‘employed at home’
Evan, ei mab, 13 oed
John, ei mab, 10 oed
William, ei mab, 7 oed
Robert, ei mab, 4 oed
Ellen, ei merch, 2 oed
Bron Heulog : 1861 (Adran 17 rhif 70)
Elizabeth Davies, penteulu, prïod, 57 oed, ‘farmer and mariner’s wife’, 12 ac
Evan, ei mab, dibrïod, 23 oed
Eleanor, ei merch, 12 oed
Elizabeth, ei merch, 8 oed
1871 : Penymynydd (Adran 17 rhif 92)
Elizabeth Davies, gwraig brïod, 64 oed, yn ffermio 12 acer
Evan, ei mab, 32 oed, dibrïod
Elizabeth, ei merch, dibrïod, 18 oed
1881 : Fronheulog (Adran 17 rhif 92)
Evan Davies, penteulu, prïod, 81 oed, yn ffermio 12 acer
Elizabeth, ei wraig, 74 oed
Griffith, eu mab, dibrïod, 50 oed, ‘seaman’
Evan, eu mab, 42 oed, ‘farm servant’
William, eu mab, dibrïod, 35 oed, ‘seaman’ (Bedd C024, Eglwys, m. 27 Ionawr 1891 yn 45 ml)
Elizabeth, eu merch, dibrïod, 27
1891 : Fronheulog (Adran 17 rhif 22)
Evan Davies, penteulu, dibrïod, 53 oed, ffermwr
Elizabeth Griffith, ei chwaer, prïod, 37 oed
Owen Griffith, brawd yng nghyfraith, 40 oed, ‘farm lab’, g. Rhiw
1901 : Bron Heulog (Adran 16 rhif 53)
Evan Davies, penteulu, dibrïod, 62 oed, ffermwr, gartref
Elizabeth Griffith, ei chwaer, prïod, 46 oed
Evan Griffith, ei nai, 9 oed
Mary Griffith, ei nith, 8 oed
Elizabeth Griffith, ei nith, 5 oed
1907 : Llyfr Stad y Faenol, Lot 118, Bronheulog, or Pen-y-mynydd, 12 acer – tenant, Mr
Owen Griffith
1921 : Fronheulog, Cilan, Abersoch (Pwllheli 03 21 - 625/644)
Moses John Griffith, penteulu, 31.6 oed, prïod, g. Llanengan, ffarmwr iddo’i hun. C
Jane Ellen G, ei wraig, 30.8 oed, g. Llanengan, gwaith tŷ C
Richard G, eu mab, 10.1 oed, yn yr ysgol amser llawn C
Robert G, eu mab, 6.7 oed, yn yr ysgol amser llawn C
Griffith Jones G, 0.4 oed
1939 : Bronheulog, Cilan, Abersoch (Lleyn Rd > Zega > 84 – 7/10)
Griffiths M J, prïod, 22/12/1890 farmer
Griffiths M E, prïod, 8/10/1891 unpaid house duty
One line redacted
Gwelwn enwau teulu Fronheulog ar lyfrau’r capel o 1914-1916, sef Owen, Elizabeth, Mary ac Elizabeth Griffith – nid yw enw Evan yma o gwbl. Ym 1915, mae enw Mary yn absennol, ond yn ôl ym 1916, pan gofnodir marw Owen. Fe fyddai Owen tua 67 oed. Ni allaf gael hyd i’w fedd ym mhlwy Llanengan. Gan iddo gael ei eni ym Mhlwy Rhiw, efallai mai yno y mae.
Ymddengys i’w deulu symud o Fronheulog yn dilyn ei golli gan y gwelwn enwau diarth yn llyfr y capel ym 1917 sef Moses J Griffith a Jane E. ei wraig, Richie a Robert (Bobbie) yn blant iddynt. Dybed a oedd Moses J Griffith yn perthyn i’r teulu blaenorol? Hefyd cawn Richard Roberts, Fronheulog, yn gofalu am y drysau ym misoedd Chwefror ac Awst - a allai hwn fod yn dad i Jane E dybed? Gallai! Dengys Cyfrifiad 1911 fod Moses J Griffith yn brïod ers llai na blwyddyn i Jane E. Griffith, a’u bod yn byw yn Fronhyfryd, Bwlchtocyn bryd hynny, Jane yn ferch i Richard Roberts a Mary. Roedd Richard Roberts yn frawd i Evan Jones, Pantgwyn, ac yn fab i John Roberts, Sgubor Ddegwm (Siongoch) a Jane.
Dilynir y patrwm yn y blynyddoedd i ddilyn (dim ond i Moses J Griffith gymeryd dyletswydd y drysau o 1919 ymlaen) a chawn fedyddio trydydd mab, Griffith John Griffith, ym 1921 – sef Guto Cilan Ucha. Yn ôl arfer y capel gwnaed Richard yn un o’r Casglyddion ym 1927 wedi iddo gael ei dderbyn yn gyflawn aelod, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1929, mae’n ymadael. Ym 1934 ymadael yw hanes Robert hefyd. Derbyniwyd Griffith yn aelod llawn ym 1936 a bu yntau’n un o’r Casglyddion y flwyddyn ganlynol.
Daeth yn gyfnod yr Ail Ryfel Byd a gwelwn i deulu Fronheulog dderbyn Emlyn Griffith, yn blentyn ym 1939, i fyw atynt. Mab Richard a’i wraig Selina, oedd yn byw yn Lerpwl, oedd Emlyn, ac felly daeth o’r ddinas fel efaciwî i fyw efo’i daid a’i nain i Gilan. Y flwyddyn ganlynol, ym 1940, cynhwysir enw Robert gydag eraill o aelodau’r capel oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Yn y cyfamser, parhau i gyfrannu at waith y capel a wnaeth y teulu - Jane E. yn croesawu’r pregethwyr ar ei haelwyd bob mis Ebrill er enghraifft.
Ond ar 17 Hydref 1943, bu farw Moses John yn 54 oed (Bwlch B333) ac ar ei garreg fedd hefyd mae cyfeiriad at farw Robert ei fab o’i glwyfau ym 1944. Claddwyd ef yn Acroma, Libya, yn aberth i’r Ail Ryfel Byd. Ceir teyrnged twymgalon i Moses John yn Adroddiad y capel gan ddweud i’w “ddiddordeb fod yn ddwfn yn y pethau...yr oedd yn un o’r ychydig gweddill oedd yn parhau i gadw’r allor deuluaidd yn fyw yn y wlad.”
Yn ystod 1943 hefyd daeth tenantiaid newydd i Sarn - fferm y teulu yn Sarn Bach - gan y cawn enw Gruffydd Roberts, ei wraig Janetta, a’i ferch Meira yn byw yno ac yn aelodau o gapel Bethlehem. Hwy a gymerodd y ddyletswydd o groesawu’r pregethwyr ym misoedd Ebrill o hynny ymlaen oddiwrth teulu Fronheulog, mae’n debyg ar ôl newyddion trist colli Robert ar 15 Ebrill y flwyddyn honno.
Collwn enw Emlyn o’r rhestr ym 1944 ond erbyn 1945 gwelwn i Richard, ei dad, ddychwelyd i’r ardal ac ymgartrefu yn Sarnlys, Sarn Bach efo’i wraig, Selina, ei ferch Margaret, a’i fab Emlyn. O golli un mab yn annaturiol o ifanc felly, cafodd Jane Elen gwmni ei mab hynaf yn ôl wedi ei ymadawiad i Lerpwl sawl blwyddyn ynghynt.
Erbyn 1948 gwelwn i Griffith, ei mab ieuengaf, fod yn byw yng Nghilan Uchaf ac ym 1949 mae enw Mary Ellen (merch Siop Cilan) yng Nghilan Uchaf gydag ef. Ym 1950 cawn fedyddio eu merch Joan ar 7 Mai. Erbyn hyn hefyd mae Jane Ellen yn rhannu’r ddyletswydd o roi blodau yn y capel efo Selina, Sarnlys bob mis Hydref. Yn wir mae cyfraniad y teulu i anghenion y capel yn gyson. Ym 1952 derbyniwyd Emlyn yn gyflawn aelod a’r flwyddyn ganlynol daeth Richard, ei dad, yn flaenor. Bu Mary Ellen hithau, gwraig Griffith, yn rhannu’r cyfeilio ers 1948. Ym 1954 ceir enw Emlyn ar y rhestr o gasglyddion ym misoedd Mawrth ac Ebrill. Mae’r teulu yn frwd eu cefnogaeth i weithgareddau’r capel yn ôl pob golwg.
Parhau mae’r enwau teuluol yn ystod y 50au, gyda Margaret, Sarnlys yn priodi ym 1958, gan i’w henw newid i Margaret Narbett. Ym 1959 gwelwn fedyddio Moses John Griffith, Cilan Uchaf gan y gweinidog, y Parch Ieuan James Owen. Erbyn 1961 mae’n amlwg i Emlyn, Sarnlys fod wedi priodi Barbara a symud i fyw i Brynrodyn gan i’r Adroddiad nodi bedyddio Ann Selina Griffith, Brynrodyn ar 27 Awst y flwyddyn honno gan y Parch R G Thomas, Tudweiliog. Y flwyddyn ganlynol, ym 1962, bedyddiwyd brawd i Ann, sef Richard Wyn Griffith ar 14 Hydref, eto gan y Parch R G Thomas. Yna eu merch Jean Awenna ar 19 Rhagfyr 1965 gan y gweinidog newydd, y Parch Gareth Maelor Jones.
Ond ar 17 Mawrth 1966 bu farw Jane Ellen Griffith, Fronheulog yn 75 mlwydd oed a’r deyrnged iddi yn yr Adroddiad yn cyfeirio at y cysur a gafodd drwy ei diwylliant yn y capel, ei gofal am ei theulu a’i gwerthfawrogiad o’r gynhaliaeth a dderbyniodd. Derbyniwyd Joan, Cilan Uchaf, ei wyres, yn ystod y flwyddyn yn gyflawn aelod o’r capel, a bedyddiwyd gorŵyr iddi ar 1 Ionawr 1967, sef Robert Wyn Narbett, Birmingham, gan y Gweinidog. Efallai mai dyma pryd y defnyddiwyd am y tro cyntaf y ‘Gwpan Fedydd hardd’ a roddodd Richard a Selina Griffith, Sarnlys - taid a nain Robert Wyn – i’r capel ym 1966.
Erbyn 1967 mae teulu Brynrodyn gynt - Emlyn, Barbara a’r plant - wedi symud i Fronheulog lle gwelwn fedyddio pedwerydd plentyn iddynt, Margaret Wendon ar 15 Hydref. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, bedyddiwyd John Emyr ar 6 Gorffennaf 1969 a dyna deulu Fronheulog yn gyflawn.
Ym 1978 derbyniwyd Ann Selina a’i brawd Richard Wyn yn gyflawn aelodau o’r capel, ond o tua 1982/3 ymlaen mae enwau’r plant yn araf ddiflannu o’r rhestrau, gan adael yn unig Emlyn a Barbara yn aelodau o Fronheulog, a hynny tan 1994/5, pan symudasant oddiyno, ac i Emyr, y mab ieuengaf, fynd yno i fyw gyda’i gymar, Liz, a’u plant. Felly, mae’r cysylltiad teuluol yn parhau yn Fronheulog ers o leiaf 1917.
*************
Comments
Post a Comment