Corn (Fflewyn)

Corn Fflewyn (gweler Llyfr Arwerthiant Stad y Faenol 1907)


(Nid oes eglurhad boddhaol i’r enw Corn Fflewyn. Cyfeiriad yw ‘corn’ mae’n debyg, at gorn anifail, a ddefnyddid - wedi ei drin - at sawl pwrpas ers talwm. Daw ‘fflewyn’ yn wreiddiol o’r Saesneg ‘flaw’, yn hen fenthyciad, yn golygu ‘darn bychan’ o lechen, neu bren, neu ddraenen; darn wedi ei dorri i ffwrdd oddiar rhywbeth mwy. Nid yw’r ystyr yn glir felly. Mae hen stori tu ôl i’r enw hwn. Mae’n amlwg i Fflewyn gael ei ollwng o’r enw ers blynyddoedd, gan iddo fynd yn ddi-ystyr yn gyffredinol.)


1841 : Ardal 11 rhif 29

            Cadwaladr Williams, 65 oed, ffermwr, g. yn y sir (m. 2/7/1849 yn 73 oed.B002 Eglwys)

            Cathrine Williams, 60 oed (m. 14/7/1848 yn 67 oed)

            Thomas Williams, 35 oed

            Jane Williams, 25 oed

            Lowry Williams, 20 oed

            Henry Williams a Jane Owen, 15 oed, yn was a morwyn

 

 

1851 : Ardal 7a rhif 50 

            Thomas Williams, penteulu, dibrïod, 45 oed, ffermwr, g. Llangïan

            Jane Williams, ei chwaer, 35 oed,prïod, master mariner’s wife, g. Llanengan

            Cadwaladr, ei mab, 5 mis oed, g. Llanengan

            Evan Williams, visitor, prïod, 39 oed, master mariner, g. Llanengan

            Laura Jones, visitor, prïod, 31 oed, gwraig ffarm, g. Llanengan

            Jannette Williams, visitor, gweddw, 57 oed,  bu ei gŵr yn ffermio, g. Llanengan

            Eleanor Griffiths, visitor, dibrïod, 25 oed, dressmaker, g. Llanengan

            Jane Roberts 23 oed, g. Bryncroes, Mary Williams, 24 oed yn ddwy forwyn ddibrïod

            Thomas Ellis 20 oed, John Williams 15 oed yn ddau was dibrïod



1861 : Ardal 17 rhif 46 

Thomas Williams, penteulu, dibrïod, 52 oed, yn ffermio 60 acer, g. Llangïan

            Laura Evans, morwyn, dibrïod, 24 oed, g. Rhiw

            John Roberts, gwas, 17 oed, g. Llanengan

            Robert Williams, 11 ? oed, g. Llangïan

            Jane Williams, penteulu, prïod, mariner’s wife, g. Llanengan

            Cadwaladr, ei mab, 10 oed

Jennet, ei merch, 8 oed

Catherine, ei merch, 6 oed



1871 : Ardal 17 rhif 57 

            Evan Williams, penteulu, prïod, 59 oed, yn ffermio 70 acer

            Jane, ei wraig, 54 oed

            Cadwaladr, eu mab, dibrïod, 20 oed

            Janet, eu merch, 18 oed

            Catherine, eu merch, 16 oed

            Laura Williams, morwyn, dibrïod, 25 oed

            William Quick, lodger, prïod, 39 oed, mine agent, g. Cornwall

            Richard Tresider, dibrïod, 27 oed, engine driver, g. Cornwall

 

 

1881 :  Ardal 17 rhif 72 (15/26)

             Jane Williams, penteulu, gweddw, 64 oed, yn ffermio 69 acer

            Cadwaladr Williams, ei mab, dibrïod, 30 oed

            Richard Roberts, gwas, dibrïod, 28 oed

            Griffith Thomas, gwas, dibrïod, 20 oed

            Elizabeth Jones, morwyn, dibrïod, 27 oed



1891 : Ardal 17 rhif 60 (10/20)

            Jane Williams, penteulu, gweddw, 76 oed

            Cadwaladr, ei mab, dibrïod, 38 oed, ffermwr

Hugh Williams, gwas, prïod, 35 oed; Thomas Roberts, 17 oed, gwas; Jane Roberts, 21 oed, morwyn

 

 

1901 : District 16, Rhif 32 (6/14)

            Cadwaladr Williams, penteulu, dibrïod, 49 oed, ffermwr, g. Llanengan

            Gwen ? Williams, morwyn, dibrïod, 30 oed, g. Rhostryfan

 

 

1907 : Arwerthiant Stâd y Faenol : y tenant oedd Cadwaladr Williams



1911 : District 14 (68/175) Corn, Abersoch

            John Jones, penteulu, 35 oed, dibrïod, ffermwr, g. Llanbedrog

            Laura Jones, ei fam, gweddw 84 oed, g. Llangïan

            Ellen Thomas, morwyn, 25 oed, dibrïod, g. Llanaelhaearn

 

 

1921 : Pwllheli 03 21 (529/644) Corn, Abersoch

            John Jones, penteulu, 47.4 oed, dibrïod, g. Llanbedrog, ffermwr a chyflogydd

            Mary Sennar, morwyn, 39.3 oed, dibrïod, g. Llanfihangel, morwyn deuluol

Morris Jones, gwas, 17.4 oed, g. Pwllheli, helpu ar y fferm yn Corn

Griffith Sennar, ymwelydd, 9.4 oed, g. Pwllheli, amser llawn yn yr ysgol



1939: Lleyn Rd  Zega  4/10 rhif 31  Corn, Abersoch

           Williams, Thomas J  g. 23/6/1888, prïod, ffermwr (gwaith trwm)

           Williams, Mary         g. 25/11/1893, prïod, gwaith tŷ

           Roberts, Griffith      g. 7/6/1912, dibrïod, certiwr ar y fferm

 

 

Nid oedd Corn ar lyfrau’r capel ym 1914 ond ym 1923 fe dderbyniwyd Thomas John Williams a’i wraig Mary, yn gyflawn aelodau, ac ymadawodd Jane Evans, ond ni wn pwy oedd hi. Erbyn 1926 roedd Thomas Williams wedi ei benodi’n godwr canu a bu wrth y gwaith gydol ei amser yn y Corn a’r capel. Mae nodyn yn Adroddiad 1951 i Thomas a Mary symud i fyw i Dudweiliog, ac ymddeol mae’n siwr. 


Ym 1952 derbyniwyd G Pierce Davies a’i wraig Bessie, Corn,  i’r capel a’r flwyddyn ganlynol fe wnaed Griffith Davies yn flaenor. Bedyddiwyd mab iddynt ym 1954, Owen John, ar 7 Mawrth. Erbyn 1955 roedd Bessie/Elizabeth, LGSM, yn un o’r cyfeilyddion ac yn rhannu cyfrifoldeb y blodau ym mis Mai efo Miss Mary Anne Williams, Fairview. Bu’r teulu yn weithgar a ffyddlon i’r achos tan 1978 pan symudasant i Gricieth i fwynhau eu ymddeoliad.

 

Mae’n debyg i dad Mrs Laura Williams, Pant y Branner, brynu Corn adeg yr Arwerthiant ym 1907 oherwydd eiddo teulu Pant oedd y fferm ac o 1978 ymlaen am rhyw 10 mlynedd bu John Owen, Terrace, Bwlchtocyn -  a’i wraig Olwen yn ddiweddarach – yn ffermio yno, fel gwas i Mrs Laura Williams. John Owen a etifeddodd y fferm a bu yno tan i salwch creulon ei drechu yn Chwefror 2019. Rhoddwyd y fferm ar y farchnad fel canlyniad. Prynwyd y tŷ gan Saeson a ddaeth i redeg siop Pizza yn Abersoch; rhannwyd y tir a gwerthu i ffermydd Tanybryn a Nantybig.

Comments

Popular posts from this blog

Bryncelyn-bach

Bryncelyn Uchaf

Bryngwyn