Cilan Uchaf

Cilanycha: 1841 (Ardal 13 rhif 50)

Elias Williams, 35 oed, ffermwr

Mary Williams, 35 oed

Ann Williams, 9 oed

Elizabeth Williams, 7 oed

Mary Williams, 5 oed

Jane Thomas, 15 oed, F S (farm servant)

 

(rhif 49) 

Elizabeth Frances, 75 oed, ffermwr

Elizabeth Frances, 45 oed

Elinor Frances, 40 oed

Elizabeth F. 15 oed

Elinor F. 13 oed

William Thomas, 24 oed, Ag Lab

Elias Roberts, 15 oed, Ag Lab

Margaret Roberts, 17 oed, F S 


 

1851 (Ardal 13 7c rhif 27)

Ellias Williams, penteulu, prïod, 48 oed, yn ffermio 55 acer, g. Llanengan

Mary, ei wraig, 45 oed

Anne, eu merch, 19 oed

Elizabeth, eu merch, 17 oed

Mary, eu merch, 13 oed

William Jones, gwas, 17 oed, g. Abereirch

 

 

1861 (Ardal 17 rhif 27)

Elis Williams, penteulu, prïod, 59 oed, yn ffermio 40 acer

Mary, ei wraig, 55 oed

Ann, eu merch, dibrïod, 29 oed

Elizabeth, eu merch, dibrïod, 27 oed

 

(rhif 28)

Mary Hughes, penteulu, prïod, 25 oed, ‘sailor’s wife’, g. Llanengan

Mary, ei merch, 2 oed



1871 (Ardal 17 rhif 90)

Ellias Williams, penteulu, prïod, 68 oed, yn ffermio 50 acer

Mary, ei wraig, 65 oed

Elizabeth, eu merch, dibrïod, 37 oed

Mary Hughes, eu wyres, 11 oed, yn yr ysgol

Gwen Williams, 2 oed

William Owen, gwas, 18 oed



1881: (Ardal 17 rhif 90)

Elias Williams, penteulu, prïod, 79 oed, ffermwr

Mary, ei wraig, 75 oed

Elizabeth, eu merch, dibrïod, 47 oed 

Winefred, eu merch, 12 oed, yn yr ysgol

Mary Hughes, morwyn, dibrïod, 23 oed 

Humphrey Jones, gwas, dibrïod, 29 oed


 

1891: (Ardal 17 rhif 23)

Griffith Jones, penteulu, prïod, 53 oed, ffermwr, g. Llangïan

Elizabeth, ei wraig, 46 oed, g. Llanengan

Gwen Jones, eu merch, dibrïod, 22 oed



1901: (Ardal 16 rhif 51)

Elizabeth Jones, penteulu, gweddw, 67 oed

Gwen, ei merch, dibrïod, 32 oed

 

1907: Llyfr Ocsiwn Y Faenol : Lot 115; 59 acer; tenant Mrs Gwen Williams

 

1911: (Ardal 14 rhif 100/175)

John Jones, penteulu, prïod, 62 oed, ffermwr, g. Llanengan

Gwen, ei wraig, 42 oed, yn brïod ers 7 mlynedd, dim plant (m.5 Gorffennaf 1938 Bedd D061 Eglwys)


 

1921: (Ardal Lleyn Rd. 03 21 629/644)

John Jones, 73.6 oed, penteulu, ffermwr, cyflogwr, C

Gwen, ei wraig, 52.4 oed,  C

Griffith P Powell, 29 oed, gwas, g. Blaenau Ffestiniog, ceffylwr i’r ffermwr,  C

 

1939: y tŷ yn wag. Bu farw Gwen Jones yn 1938. Ni symudodd G Hamilton Williams yno tan 1940.



1914: mae John Jones, Cilan Uchaf yn ben blaenor yn y capel a’i wraig, Winiffred, hithau’n gyflawn aelod ac yn cyfrannu’n hael at yr Achos.

1926: bu farw John Jones ar 4 Medi a theyrnged twymgalon iddo yn yr Adroddiad yn canmol ei addfwynder, ei allu i gynnal gwasanaethau drwy weddïo’n ddwys ac adrodd yr ysgrythur ar ei gof. Ni chefais hyd i’w garreg fedd.

1929: ceir enw Laura Jones yn dilyn enw Winifred yn Cilan Uchaf y flwyddyn hon. Nid oedd wedi cyfrannu ac nid oes eglurhad pwy yw. Ni welir ei henw wedyn.

1938: rhoddir teyrnged glodwiw i Mrs Gwen Jones yn yr Adroddiad, gan nodi mai yma oedd ei gwreiddiau; bu’n ffyddlon i’r gwasanaethau tra gallodd; bu’n gyson hael ei chyfraniad. Diddorol yw nodi mai perthynas iddi – AW - a drefnodd i’r canlynol ymddangos ar y garreg: 

Er cof am fy annwyl gyfnither Gwen Jones, prïod y diweddar John Jones, Cilan Uchaf, Cilan...

 

Yr enw nesaf a welwn yn byw yn Cilan Uchaf yn Adroddiad y capel yw Griffith Hamilton Williams ym 1940. Erbyn y flwyddyn ganlynol mae Nellie, ei wraig, a Robert John, eu mab, 

wedi cyrraedd yno ato. Ym 1945 mae enw chwaer i Robert John, Ann Eifiona, yn ymddangos i gwblhau’r teulu. Buont yma tan 1948 pan symudasant i Glaswen Cottage. A’r un flwyddyn cawn enw Griffith Jones Griffith (Fronheulog gynt) yn Cilan Uchaf. 

 

Erbyn 1949 mae Griffith wedi priodi efo Mary Ellen (Williams, Siop Cilan). Ym 1950 gwelwn fedyddio eu merch Joan ar 7 Mai gan y gweinidog, y Parch Ieuan James Owen. Ar 9 Awst 1959 bedyddiwyd Moses John yn frawd iddi, eto gan y gweinidog. Ac yma y bu’r teulu tan 1983, pan symudodd Griffith a May i Sarn Farm.

 

Rhywbryd yn ddiweddarach daeth Dylan Evans (mab Brinley a Medi,Glan Morfa,Llanengan) ei wraig Nia a’u plant i fyw i Gilan Uchaf, ac yma y mae Dylan a Nia o hyd.


                                                                    ******************

 

Comments

Popular posts from this blog

Bryngwyn

Cip ar Fywyd Cilan : 1841 – 2003

Bryncelyn-bach