Cilan Fawr

Cilan Fawr (Ardal 13 rhif 36)

1841: (1)

William Griffith, 55 oed, farmer (m. 10 Mehefin 1864 yn 84 oed; D046 Eglwys Llanengan)

Elinor Griffith, 55 oed (m. 6 Mawrth 1857 yn 72 oed; D046; ‘merch Robert Jones, Llwyndu’)

Elizabeth Hughes, 5 oed

 

Roedd William Griffith yn hen hen daid i Harri Parri (O Ben Cilan i Bombay, tud 16) ac efo 2 arall sefydlodd yr Ysgol Sul yng Nghilan. A mynd ati, wedyn, i hel dimeiau prin i brynu llyfrau, a gynhwysai’r Wyddor Gymraeg, er mwyn i hen ac ifanc gael crap ar ddarllen...Roedd wyres i William Griffith, a chwaer hynaf mam Harri Parri, yn fardd gwlad – Mary Griffith, Tyddyntalgoch.  

 

(2) Mary Williams, 30 oed

Elinor, 8 oed

Geunor, 6 oed

Robert, 2 oed 

William, 6 mis



1851: (Ardal 13  7c  rhif 5)

William Griffith, penteulu, prïod, 68 oed, yn ffermio 5 acer

Elin, ei wraig, 66 oed

 

(rhif 6): Mary Hughes, penteulu, prïod, 42 oed, mariner’s wife

Elizabeth, ei merch, 14 oed

Robert, ei mab, 12 oed (yn Park y Brenin yn ’71, ’81, ’91, ’01)

William, ei mab, 10 oed

Hugh, ei mab, 8 oed

Lidia, ei merch, 5 oed

Griffith, ei mab, 2 oed



1861: (Ardal 17 rhif 75) 

Mary Hughes, penteulu, prïod, 52 oed, sailor’s wife, fferm 6 acer

Gaenor, ei merch, dibrïod, 26 oed

Lidya, ei merch, 15 oed

Griffith, ei mab, 12 oed

Judith, ei merch, 8 oed (m. 8 Medi 1876 yn 23 oed ar enedigaeth ei merch Emma; prïod Daniel Carrington; D046, Eglwys Llanengan. Ei gŵr,o’r Iwerddon, yn ‘manager’ yn Pyllau Llanengan)

Margaret, ei merch, 4 oed

Elizabeth, ei merch, 3 oed (prïod Ellis Jones, a laddwyd yn nhanchwa Cilfynydd yn 1894. Ei hail ŵr oedd Griffith Jones, Bryngwyn.)

William Griffith, ei thad, 79 oed, retired farmer



1871: (Ardal 17 rhif 96) 

Griffith Hughes, penteulu, prïod, 65 oed, yn ffermio 35 acer

Mary, ei wraig, 62 oed

Mary Hughes, wyres, 14 oed, yn yr ysgol

Elizabeth Hughes, wyres, 13 oed, yn yr ysgol


 

1881: (Ardal 17 rhif 97) 

Griffith Hughes, penteulu, prïod, 75 oed, ‘old Capt’ (m. 27 Mehefin 1883 yn 77 oed; D049, Eglwys Llanengan)

Mary, ei wraig, 73 oed 

William, eu mab, dibrïod, 40 oed, seaman 

Griffith, eu mab, dibrïod, 32 oed, lead miner

Lydia, eu merch, dibrïod, 35 oed 

John Roberts, visitor, dibrïod, 18 oed, farm lab, g. Llanengan



1891: (Ardal 17 rhif 33)

Mary Hughes, penteulu, gweddw, 84 oed (m. 20 Gorffennaf 1891 yn 84 oed; D049)

William, ei mab, dibrïod, 50 oed, sailor

Lydia, ei merch, dibrïod, 46 oed


 

1901: (Ardal 16 rhif 57) 

William Hughes, penteulu, dibrïod, 60 oed, ffermwr, gweithio iddo’i hun

            Lydia Hughes, ei chwaer, dibrïod, 55 oed 

 

Llyfr Ocsiwn Y Faenol 1907 – Cilan Fawr – Lot 113 – in joint occupation of Mr William Hughes and Miss Lydia Hughes – 6 acres.



1911: ( Ardal 14, rhif 112/175) 

William Hughes, dibrïod, 70 oed, ffermwr, siarad y ddwy iaith (cl.19 Chwefror 1913 yn 73 oed; A 087, Bwlch)

Lydia Hughes, ei chwaer, 65 oed, gweithwraig, yn siarad Cymraeg (cl. 30 Ebrill 1913 yn 68 oed; A 087, Bwlch)

Evan Jones, dibrïod, 26 oed, morwr, ‘byrddiwr’/’lodger’, g. Nantlle, yn siarad y ddwy iaith

(1884-1963, cl. Bwlch B240 gydag Esther, ei wraig, 1885-1953) Esther yn wreiddiol o Benmaenpŵl, ei theulu yn gyrru trenau. Y rhain oedd taid a nain Glenys, Ty’n Ffôs.



1921: (Ardal Pwllheli > 03 > 19 20 21 rhif 607/644) Cilan Fawr, Abersoch

Evan Jones, penteulu, 36.10 oed prïod g. Llanllyfni; amaethwr a physgotwr iddo’i hun. C

Esther, ei wraig, 36.3 oed g. Penmaenpŵl, cadw tŷ. C a S

Idwal Humphreys, mab, 13 oed, ei 2 riant yn fyw, g. Pwllheli, yn yr ysgol. C

Elizabeth Humphreys, merch, 11.5 oed, ditto,  g. ditto, rhan-amser yn yr ysgol. C

Lydia Jane Jones, merch, 9 oed, g. Llanenagn, rhan-amser yn yr ysgol. C

Vera Verdun Jones, merch, 5 oed, g. Llanengan

Sallie Jones, 2.6 oed, g. Llanengan

William Evan Jones, mab, 1 oed g. Llanengan



1939: (Zega 96, 8/10 ) Cilan Fawr

Jones Evan, 31/8/1884, labourer, smallholder

Jones Esther, 5/3/85, unpaid domestic duties

Jones William E, 7/7/1920, general farm labourer

2 redacted



Nid oes gyfeiriad at Cilan Fawr ym 1914 yn Adroddiad y Capel ac ar hyn o bryd nid oes sicrwydd os oedd cyswllt rhwng yr hen deulu – sef William a Lydia Hughes – â’r teulu fu’n byw yno wedi eu marw ym 1913. Ond o 1916 ymlaen, bron yn ddi-dor, cawn enw Evan Jones yn cyfrannu at yr Achos fel aelod o’r gynulleidfa. Hwn yw’r Evan Jones o Nantlle oedd yn aros yn Cilan Fawr ym 1911. Y stori yw i’w dad fod yn cadw siop gig ym Mhenygroes yn wreiddiol, ond collodd ei wraig pan oedd Evan yn ifanc, ac yna bu farw’r tad gan adael Evan yn amddifad. Daeth yr ‘housekeeper’ ag Evan efo hi i Rhiw ac oddiyno i Gilan Fawr. Ni sonnir  am Esther - gwraig Evan, a nodir ar ei garreg fedd - yn Adroddiad y Capel, ond efallai mai aelod yn yr Eglwys oedd hi.


Yr enw a welwn nesaf yn yr Adroddiadau yw Lydia Jones, Cilan Fawr, yn cael ei derbyn yn gyflawn aelod ym 1928. (Dyma fam Glenys, a gwraig Harry Jones.) Mae Lydia yn ferch i Evan ac Esther. Mae ei henw cyntaf yn awgrymu cyswllt efo’r hen deulu. Erbyn 1934 ceir enw Sallie Jones efo enw Lydia, Cilan Fawr – Sallie newydd ei derbyn fel ‘had yr Eglwys’, h.y. wedi ei derbyn yn gyflawn aelod fel merch ifanc, efallai tua 15 oed. Felly dyma chwaer i Lydia – a mam Minnie a Barbara Drosinos. Dengys 1935 fod Lydia bellach yn byw yn Tyddyn Twlc a Sallie yn unig aelod o Cilan Fawr.


Ym 1937 ceir chwaer arall i Sallie, Katie Jones, yn cael ei derbyn fel ‘had yr Eglwys’, a’r ddwy yn byw yn y cartref. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1939, enw Katie ddaw gyntaf yn y rhestr a’r gair ‘gynt’ ger enw Sallie. Dengys nodyn y flwyddyn ganlynol paham – ym 1940 roedd Sallie yn Sallie Drosinos a phlentyn bach ganddi, sef Minnie, yn byw yn y cartref, Cilan Fawr, tra’r oedd Lydia yn Tyddyn Twlc a phlentyn ganddi hithau, Glenys. Y tebygolrwydd yw i Lydia fod wedi priodi Harri Jones, ei fedd yn y Bwlch, B237, lle nodir Tyddyn Twlc fel ei gartref, a dyddiadau ei eni a’i farw – 1909-1953. Bu farw yn hynod ifanc.


Erbyn 1942 roedd Sallie a Minnie wedi symud i Ty’n Twlc at Lydia a Glenys, gan adael Katie yn Cilan Fawr. Ac felly bu tan 1946 pan nodwyd fedyddio Barbara yn ferch fach arall i Sallie a’i gŵr ar 26 Mai gan y Parch G G Owen, Penygroes. Cyfeiriad y teulu erbyn hyn oedd Parc. Felly Lydia a Glenys oedd yn Ty’n Twlc bellach a Katie yn Cilan Fawr.

 

Ym 1949 bedyddiwyd Brian Samuel Jones, Cilan Fawr, ar 8 Chwefror, gartref gan y gweinidog, y Parch Ieuan James Owen, ac yn hwyrach yr un flwyddyn bedyddiwyd Sally Ann Drosinos, Parc y Brenin ar 11 Hydref, eto yn y cartref. Erbyn 1950 roedd Glenys, Ty’n Twlc, wedi ei derbyn fel ‘had yr Eglwys’ ac felly’n ferch ifanc bellach.


Yn Adroddiad 1953 ceir nodyn trist yn anerchiad y gweinidog pan gyfeiria at farwolaeth Mrs Esther Jones, Cilan Fawr a Mr Harri Jones,Tyddyn Twlc – ‘dau, os nad oeddynt yn aelodau, oedd yn ffrindiau i Fethlehem ac yn barod eu cymwynas i’r achos bob amser...Peth eithriadol ydyw angladd dau, sef Mam a Mab yng Nghyfraith yr un diwrnod. Cydymdeimlwn yn fawr â’r holl deulu...’


Ym 1955 derbyniwyd Minnie Drosinos yn gyflawn aelod, fel ‘had yr Eglwys’. Yn y cyfamser mae Evan Jones, Cilan Fawr yn dal i gyfrannu fel aelod o’r gynulleidfa drosto ef ei hun a thros ei ŵyr, Brian Samuel. Ym 1957 nodir i Glenys, Ty’n Twlc, fod wedi ymadael â’r capel –

mae’n debyg iddi briodi Jess Jones, Pant Gwyn. Bu’r ddau yn ymgartrefu yn Ty’n Ffôs, Llanengan. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhoir cyfeiriad Lydia fel Ardwyn Cottage ac erbyn 1963 nodir iddi hithau fod wedi ymadael fel aelod. Yr un flwyddyn, 1963, cawn gyfeirio at Evan Jones, Cilan Fawr yn anerchiad y Blaenoriaid, ynghyd â chymydog iddo, Evan Roberts (Richards?) Lonlas, y ddau yn marw yr un flwyddyn – ‘er nad oeddynt yn aelodau, teimlwn fod Cilan yn dlotach hebddynt. Hen gymeriadau y llwybr troed, gwnaethant lawer i gymwynas ar y daith.’ Yn arwyddocäol iawn gwelwn ei deulu yn cofio am Evan Jones yn flynyddol bron, gyda chyfraniad Er Cof amdano tan 1992.


Flwyddyn cyn marw Evan Jones, ym 1962, derbyniwyd Barbara yn gyflawn aelod; ym 1964 cawn enw Brian Samuel Jones, Cilan Fawr, yn cyfrannu fel aelod o’r gynulleidfa a hynny am sawl blwyddyn; erbyn 1966 derbyniwyd Sally Ann yn gyflawn aelod, ac enwau ei mam a’i chwiorydd yn gwmni iddi ar y rhestr aelodau. Dyma hefyd flwyddyn bedyddio Esther Drosinos, Parc y Brenin, ar 2 Hydref gan y gweinidog, Gareth Maelor, yn bedwaredd merch i Sallie a’i gŵr. Ym 1967 mae’n amlwg i Minnie briodi gan mai Minnie Evans yw hi bellach, ac erbyn 1968 mae Barbara yn brïod hefyd gan mai Jones yw ei chyfenw a’i chyfeiriad yn ‘Erw’. Ar 9 Tachwedd 1969 bedyddiwyd Alan Drosinos Jones gan y gweinidog yn fab i Barbara a Don, ei gŵr, a gwelwn y flwyddyn hon mai Llanbedrog yw cyfeiriad Minnie.


1974 yw’r flwyddyn bwysig nesaf yn hanes y teulu gyda bedyddio Tomi Drosinos Jones ar 28 Ebrill yn y capel gan y gweinidog a’r un adeg bedyddiwyd dwy fach arall, sef Carol Jones (wyres Vera, Cilan Fawr) a Dilys Williams, Tŷ’n Rhos. 



Erbyn 1975 ‘Eryri’ yw enw cartref Barbara, Don a’r bechgyn, ond yr enwau teuluol sy’n aelodau o’r capel yn dal yr un fath. Ar 20 Rhagfyr 1981 bu’r gweinidog yn bedyddio unwaith eto – y tro hwn merch fach, Haf,  i Brian Samuel a’i wraig, oedd wedi dod adref i Gilan Fawr o Gorris lle’r oeddynt yn byw ers rhai blynyddoedd. Ceir cyfraniadau gan William Jones a’i chwaer Katie (mam Brian)  fel aelodau o’r gynulleidfa ac er côf am Evan Jones, eu tad. Parheir yr arferiad hwn am rai blynyddoedd i ddilyn.



Yn 1986 gwelwn i Barabara, Don a’r bechgyn fod wedi symud o Eryri. Erbyn y flwyddyn ganlynol roeddynt wedi dewis enw i’w cartref newydd sef Brig yr Ewyn a’r teulu’n cyfrannu at beintio’r capel. Parháodd Katie, Cilan Fawr i gyfrannu er côf am ei thad tan 1992 pan ddarfu enw teulu Cilan Fawr yn yr Adroddiadau. Erbyn 2003, roedd yr Achos ym Methlehem, Cilan yn cau. Bu Cilan Fawr ynghlwm â’r Achos hwnnw ers y dechrau’n deg.

 

 

 

                                                                  *****************

 

Comments

Popular posts from this blog

Bryncelyn-bach

Bryncelyn Uchaf

Bryngwyn