Castell/Tynewydd

Castell/Tynewydd (sawl tŷ yn dod o dan yr enw yma – Ardal 13 rhif 42)

Dilyn teulu Elinor Jones/Griffith a’i disgynyddion.

1841 : Elinor Jones, 30 oed

             Elizabeth Jones, 8 oed (1832-1914) Priodi Charles Penna (1) a Ths Wms (2)

             Ann Jones, 7 oed (1834-1848)

             John Jones, 3 oed

             Griffith Jones, 1 oed 


1851 : Tynewydd (Ardal 7c rhif 17) Ai enw newydd ar dŷ yn ‘Castell’ sydd yma, ai wedi                symud i dŷ cyfagos mae’r teulu? Nid oedd Tynewydd ar restr 1841.)

            Ellen Griffith, penteulu, prïod, 41 oed, ‘mariner’s wife’, g. Llanengan

            Elizabeth Griffith, ei merch, dibrïod, 18 oed

            John Griffith, ei mab, 12 oed, yn yr ysgol

            Griffith Griffith, ei mab, 10 oed, yn yr ysgol

William Griffith, ei mab, 9 oed, ‘errand boy’ (1842-1899) Priodi Dorothy E         Jones(1845-1913) Yn Tyddyn Priciau yn 1881

            Evan Griffith, ei mab, 1 oed (1850-1863)

 

1861 : Ty Newydd, Castle (Ardal 17 rhif 79)

            Eleanor Griffith, penteulu, gweddw, 51 oed, ‘mariner’s wife’ (sic)

            Evan Griffith, ei mab, 10 oed

David Griffith, ei mab, 6 oed (1854-1911) Priodi Jane E Owens (1860-1929) Rhieni Harri G, a William G (1889-1969) Taid John Elfyn, Dewi, Ann, Iona, Arwyn.



1871: Ty newydd (Ardal 17 rhif 102)

            Ellen Griffith, penteulu, gweddw, 61 oed, ‘former laundress’

            John Davies, ‘lodger’, prïod, 25 oed, ‘miner’, g. Mold, Flints

            Ellen Davies, ‘lodger’, 21 oed, ei wraig, g. Llanengan

            John Davies, eu mab, 1wythnos oed

 

1881: Bryndu (Ardal 17 rhif 120)

            David Griffiths, penteulu, prïod, 26 oed, ‘leadminer/farmer of 5 acres)

            Jane Griffiths, ei wraig, 21 oed, g. Bodfean(m. 14/3/1929 Bwlch B064)

            Henry Griffiths, 3 oed (1878-1951) Bwlchclawdd Isaf

            Griffith Griffiths, 1 oed (m.1883?)

 

(1883 – David Griffith a Jane yn symud i Bwlchclawdd Isaf, gw. Bwlch B064)


1891 : Bwlchclawdd (Isaf) (Ardal 17 rhif 12)

            Jane Griffith, penteulu, prïod, 31 oed, g. Bodvean 

            Henry, ei mab, 11 oed? yn yr ysgol, g. Llanengan

            Thomas Owen, ei mab, 9 oed, yn yr ysgol (m. 23/2/1919 Bwlch A137)

            Griffith, ei mab, 6 oed, yn yr ysgol (m. 14/2/1896 Bwlch B064)

            William, ei mab, 1 oed

 

1901 : Bwlchclawdd (Isaf) (Adran 16 rhif 43) 8/14

            Jane Griffith, prïod, 40 oed, g. Nevin

            Thomas, ei mab, gof, 19 oed, g. Llanengan

            William, ei mab, 11 oed, yn yr ysgol

            Ellen, ei merch, 8 oed, yn yr ysgol

 

1911 : Bwlchclawdd (Isaf) (Pwllheli Adran 14 rhif 69) 138/175

            David Griffith, penteulu, 56 oed, ffarmwr (m. 14/11/1911 Bwlch B064)

Jane, ei wraig, 50 oed, prïod ers 33 mlynedd; 6 o blant, 4 yn fyw, g.Bodvean

William, eu mab, 21 oed, yn gweithio ar y fferm

Nell, eu merch, 18 oed, morwyn deuluaidd

Elizabeth Jane Griffith, sengl, 22 oed, cyfnither? ‘milliner’ g. Ffestiniog

 

1921 : Bwlchclawdd, Abersoch (Pwllheli > 03 > 19.20.21) 570/644

            Jane Griffith, penteulu, 61.1 oed, gweddw, g. Bodvean, gwaith tŷ gartref

            Ellen Williams, merch, 28.9 oed, prïod, g. Llanengan

            R W Williams, mab yng nghyfraith, 33.4 oed, g. Pwllheli, llythyr glydydd i’r GPO yn PO 

             Abersoch

 Elizabeth Williams, ymwelydd, 67.1 oed, g. Bethesda, gwaith tŷ, yn 26 Orlando St. Bootle

 

1939 : England and Wales Register (Lleyn Rd > Zega > 73) Bwlchclawdd Isaf

            Griffith Henry, 19/7/78, Tyddynwr a llafurwr cyffredinol

            Griffith Mary, 20/4/87, gwaith tŷ di-dâl


Adroddiadau Capel Bethlehem, Cilan

1914 : Roedd Jane, Henry, Thomas Owen ac Ellen yn aelodau yn y capel, Thomas yn un o’r casglyddion.

Yn 1915 roedd Thomas yn Arolygwr yr Ysgol Sul hefyd.

Erbyn 1917 roedd Thomas yn gofalu am y drysau fisoedd Mawrth a Medi, a gweddill y teulu - ond ddim David, y penteulu - yn dal yn aelodau. Mae’n amlwg i Ellen fod yn brïod bellach gan mai ei chyfenw bellach yw Williams.

Erbyn 1918 nid yw Henry yn aelod yn y capel.

Yn 1919 bu farw Thomas Owen, a cheir enw Robert Williams, Bwlchclawdd yn un o’r casglyddion. Ef hefyd (R W Williams) sy’n gofalu am y drysau fisoedd Mawrth a Medi. Gŵr Ellen yw hwn.

Yn 1920 enwau Jane Griffith ag Ellen Williams yn unig sydd o Fwlchclawdd Isaf.

Yn 1922 mae enw Henry yn ôl fel aelod o’r capel ynghyd â’i wraig Mary. (Roedd Mary yn chwaer i Mrs Jennie Hughes, Glaswen, ac i Tomi Ty’n Mynydd, Mynytho – ac yn gyfnitherod a chefnder i’m taid innau.) Gwelwn fod Ellen Williams bellach yn byw yn Gwelfor (rhwng Sarn Bach ac Abersoch) ac wedi ymadael â’r capel, gan adael Jane Griffith, Henry a Mary yn aelodau o Fwlchclawdd Isaf.

Yn 1926 bu Henry yn Arolygwr yr Ysgol Sul tan 1930.

Yn 1929 bu farw Jane Griffith ar 14 Mawrth. Sonnir iddi fod wedi symud at ei merch – Ellen yn Gwelfor. Canmolir iddi fod yn ‘hyddysg yn ei Beibl a meddai farn go graff a chywir ar bethau crefyddol. Darllennai lawer...a cheid llawer ganddi yn ei chwmni’.

Yn 1931 mae Henry yn Arolygwr yr Ysgol Sul unwaith eto tan 1935.

Yn 1943 gwelwn fod Henry a Mary yn croesawu’r pregethwr i’w cartref ym mis Ionawr.

Ond yn 1945, bu Mary farw ar 13 Tachwedd yn 57 oed – ‘gwraig rinweddol ei moes, diwyd a darbodus yn ei chartref’ medd y deyrnged iddi yn yr Adroddiad.

Yn 1951 bu Henry Griffith farw ar 8 Chwefror yn 72 oed – gŵr ‘ffyddlon i’r cysegr’ ac yn weddïwr ‘cynnes neilltuol’.

Yn 1956 nodir enwau Mr a Miss Scott, Bwlchclawdd, ymhlith caredigion y capel.

 

 

                                                        ****************

Comments

Popular posts from this blog

Bryncelyn-bach

Bryncelyn Uchaf

Bryngwyn