Greenland
Greenland, Cilan (Ardal 13 rhif 56)
1841: Hugh Roberts, 34 oed, ffermwr
Lowry Roberts, 30 oed
Jane Roberts, 7 oed
Elinor Roberts, 5 oed
Robert Roberts, 2 oed
1851: Gringland (Ardal 13 rhif 7)
Hugh Roberts, gweddw, 47 oed, yn ffermio 12 acer
Jane, ei ferch, dibrïod, 17 oed
Robert, ei fab, 12 oed
Henry, ei fab, 9 oed
1861: Greenland (Ardal 17 rhif 85)
Hugh Roberts, penteulu, prïod, 53 oed, yn ffermio 12 acer
Cathrine, ei wraig, 48 oed
Hugh, eu mab, 5 oed
Hannah Williams, ‘visitor’, dibrïod, 29 oed, g. Pwllheli
1871: Greenland (Ardal 17 rhif 111)
Hugh Roberts, penteulu, prïod, 64 oed, ffermwr
Cath , ei wraig, 59 oed
Hugh, eu mab, 15 oed, yn yr ysgol
Hannah Williams, dibrïod, 38 oed, nam arni
1881: Greenland (Ardal 17 rhif 112)
Hugh Roberts, gweddw, 54 oed (74?), ffermwr
Hugh, ei fab, prïod, 25 oed, ‘leadminer’ (lladdwyd yn nhanchwa Cilfynydd, 24/6/1894 yn 37 oed.)
Margaret, merch-yng-nghyfraith, 24 oed (m.30 Gorffennaf 1937. B287)
Catherine, eu merch, 4 oed (m. 24 Mai 1893 yn 16 oed; bedd B287, Bwlch)
Griffith, eu mab, 2 oed
Robert Henry, eu mab, 2 fis oed
Hannah Williams, ‘boarder’, 51 oed, g. Pwllheli, nam arni
1891: Greenland (Ardal 17 rhif 44)
Hugh Roberts, gweddw, 84 oed, ffermwr
Hugh, ei fab, 35 oed, ‘leadminer’
Margaret, merch-yng-nghyfraith, 34 oed
Catherine, eu merch, 14 oed, yn yr ysgol
Griffith, eu mab, 12 oed
Robert Henry, eu mab, 10 oed, yn yr ysgol
Mary Ellen, eu merch, 8 oed, yn yr ysgol
Hugh, eu mab, 6 oed, yn yr ysgol
Jane, eu merch, 3 oed
Hannah Williams, dibrïod, 37 oed( 57?) g. Denïo, nam arni
1901: Greenland (Ardal 16, rhif 70)
Margaret Roberts, gweddw, 44 oed
Mary E. ei merch, dibrïod, 18 oed, ‘tailoress’
Hugh, ei mab, 16 oed
Jane, ei merch, 13 oed
Margaret M. ei merch, 9 oed
Yn 1907 yn Arwerthiant y Faenol, gwelwn mai Mrs Margaret Roberts yw tenant y tyddyn 11 acer. Gwerthir fel Lot 126.
1911: Greenland (Ardal 14 sleid 148)
Margaret Roberts, penteulu, gweddw, 54 oed. 7 o blant, 6 yn fyw.
Hugh, ei mab, dibrïod, 26 oed, yn ffermio gartref
Griffith, ei mab, dibrïod, 32 oed, ‘coalminer’
1921 : Greenland, Abersoch (03 < 21 < sleid 590/644)
Margaret Roberts, penteulu, 64.11 oed, gweddw, gwaith tŷ gartref. C
Griffith, ei mab, 43 oed, dibrïod, torrwr glo dan ddaear yn Lockett’s Colliery Co. Maerdy, Glam. Allan o waith. C&S
Hugh, ei mab, 36.11 oed, dibrïod, ffarmwr iddo’i hun, gartref. C
1939 : Greenland, Llanengan, Abersoch (Lleyn Rd. > Zega > rhif 107)
H Williams, g. 7/9/1882, prïod, Llafurwr amaethyddol
L S Williams (Elizabeth Susannah), g. 11/3/1894, prïod, gwaith gartref di-dâl
M (Margaret)Williams, g. 29/5/1922, di-brïod, mewn gwasanaeth fferm
Elspeth Williams/Parry, g. 25/7/1924, di-brïod, gwaith gartref di-dâl
A Williams/Hickey, g. 30/12/1927, di-brïod, gwaith gartref di-dâl
4 enw wedi eu cuddio (redacted)
Ym 1914 yn Adroddiad y capel, gwelwn Robert Henry Roberts, Greenland, yn gyflawn aelod, ynghyd â Hugh, Margaret, a Margaret M. Roberts. Ond erbyn 1915 mae’n amlwg i Robert Henry fod wedi priodi â Lizzie Hughes, Muriau, ac yno mae’r ddau yn byw, tra bod Margaret, Hugh a Margaret M. Roberts yn parhau yn Greenland. Erbyn 1916 mae Robert Henry a’i wraig Lizzie Hughes Roberts yn byw yn Rhiwlas, a thrigolion Greenland yn parhau fel y bu. Ond roedd 1917 yn flwyddyn drist i’r teulu gan i Robert Henry farw ‘wedi cystudd blin a hir’ yn ôl yr Adroddiad. Yn yr un Adroddiad gwelwn fedyddio Hugh Owen Roberts, Rhiwlas, a Lizzie felly yn gorfod magu ei mab bach newydd ar ei phen ei hun oherwydd ei cholled. O dan enw Hugh Owen Roberts yn y cofnod, cawn enw Mary Ellen Jones, Greenland, hefyd wedi ei bedyddio yr un flwyddyn. Nodir fod Hugh Roberts, Greenland, yn rhannu’r ddyletswydd o ofalu am y drysau efo Owen Evans, Mur Cwpwl ym misoedd Mai a Tachwedd, a hynny am rai blynyddoedd.
Yr un fu patrwm aelodaeth y teulu yn y capel dros y blynyddoedd canlynol tan welwn ddiflannu enw Margaret M. ym 1922, gan adael yn unig Margaret, y fam, a Hugh Roberts, ei mab. Ond symud fu eu hanes hwythau ym 1924 i Murpoeth, ac yn eu lle i Greenland daeth Henry ac Elizabeth Susannah Williams a’u 4 plentyn: Catherine, Mary, Margaret ac Elspeth. Cyfrannu fel aelod o’r gynulleidfa wnaeth Henry am flynyddoedd ond Lizzie, ei wraig yn gyflawn aelod.
Fe welwn o’r manylion uchod i’r un teulu (Roberts) fod wedi byw yn Greenland am dros 80 o flynyddoedd o leiaf. Hyd y gwyddom, gallent fod wedi bod yno am genedlaethau ynghynt.
Roedd Henry Williams yn fab i Bryncelyn Uchaf ond yn Greenland y bu’n byw gyda’i wraig a’u plant o 1924 hyd 1946 pan welwn iddynt fod wedi symud i’r fferm deuluol. Yn y
cyfamser bedyddiwyd Annie Williams ym 1927; Hugh Griffith Williams ym 1930; Ellen Gaynor ym 1931; Jane Ann ym 1933; ac yn Tachwedd 1939 Winniefred Louisa.
Pan ddaeth Greenland yn wag unwaith eto ym 1946, dywed Adroddiad y capel i Evan Jones, Ivor Jones, Catherine J a Gwilym J ddod yno i fyw, yr olaf yn blentyn. Merch hynaf Henry ac Elizabeth Williams, oedd Catherine, gwraig Ivor, oedd yn parhau i fyw yn y cartef lle’i magwyd felly. Ac yno y bu’r teulu am dair blynedd tan i Ivor, Catherine a Gwilym fynd i fyw i Castell Bungalow ym 1949 gan adael Evan yn Greenland ei hun. Enwir cartref Ivor a’r teulu yn Parc erbyn 1951 ac felly am y ddwy flynedd ganlynol. Ym 1954 fodd bynnag, symudodd y teulu cyfan, gan gynnwys Evan Jones, Greenland, o’r ardal i Bwllheli. Cyfeirir yn yr Adroddiad i Evan gael ‘damwain angeuol’ wedi iddo ymadael.
Y flwyddyn ganlynol, ym 1955, daeth Mary Place a’i dau fab, John James a Peter, i fyw i Greenland. Merch arall i’r cyndrigolion oedd Mary, sef merch Henry/Harri ac Elizabeth S Williams, a chwaer Catherine. Roedd Mary wedi gadael Greenland ym 1935, wedi priodi a magu teulu, ond bellach wedi dychwelyd i’w hen gartref. Roedd enwau’r tri yn gyson ar lyfrau’r capel dros y blynyddoedd canlynol, a’r meibion yn cyfrannu fel casglyddion ar y Sul hyd nes i John ymadael yn 1968 a Peter yntau yn fuan ar ei ôl. Erbyn 1970 dim ond enw Mary oedd yn aelod o Greenland a’r flwyddyn ganlynol aeth hithau i fyw i Maes Gwydryn, Abersoch, lle’r oedd mwy o hwylustod i wraig weddw ar ei phen ei hun.
Y tebygolrwydd yw i Greenland gael ei osod yn dŷ haf ar ôl 1970, a’i fod bellach wedi ei werthu fel cartref gwyliau.
*****************
Nodyn am Evan Jones (uchod).
Magwyd Evan yn Castell, Cilan, yn fab i John Jones a Mary, Castell, ac yn frawd i Ellis (taid Ellis, Charles a Catherine Williams, Bodarfoel, Cilan). Bu’r teulu yn Castell ers 1861 o leiaf, efallai ynghynt. Ym 1901 roedd Evan gyda’i frawd Charles, yn gweini yn Crugan, Llanbedrog, y ddau yn laslanciau 17 ac 16 oed. Ymhen deng mlynedd, ym 1911, roedd Evan a’i frawd Ellis yn gweithio yn y pyllau glo yn Gelligaer, Morgannwg, ond roedd erbyn hyn wedi priodi â Margiad o Fynytho, oedd dipyn hŷn na’i gŵr. Efallai iddi fod yn brïod ynghynt? Ym 1911 roedd Margiad yn 41 oed ac yn byw yn rhif 7 Wellington, Mynytho gyda Evan/Ivor ei mab 1 oed, a pherthynas 13 oed, Kate. Nodir mai Evan Jones oedd y penteulu absennol.
Gwelwn i Ivor Jones gychwyn yn Ysgol Sarn Bach ar 23 Mai 1919. Rhydd Llyfr Log yr ysgol ei ddyddiad geni – 31 Mawrth 1910 – a nodir ei ysgol flaenorol fel ‘Voelgron NP’. Bu’n ddisgybl yn Sarn Bach tan 17 Ebrill 1924 pan adawodd i fynd i weini. Ei gyfoedion yng Nghilan oedd Richard John, Penygroes, Richard Griffith, Fronheulog/Sarnlys a Robert John Evans, Tŷ Newydd.
Tua Mai 1919 ddaeth Evan a Margiad o Fynytho i Gilan felly. Gwyddom i Margiad farw ym 1935, ac y Nghofrestr 1939 mae Evan Jones, 58 oed, Ivor Jones, 29, a C Jones 23, Castell Farm, yn byw efo’i gilydd. Mae Ivor wedi priodi Catherine, merch hynaf Henry ac Elizabeth Susannah Williams, Greenland. Ym 1946 symudodd y teulu o Castell i Greenland (pan symudodd rhieni Catherine/Katie oddiyno i Bryncelyn Uchaf.)
Ym 1949 aeth Ivor, Catherine a’u mab Gwilym i fyw o Greenland i Castell Bungalow.
Ym 1951 oddiyno i Parc.
Ym 1954 o Parc i Bwllheli?
Bu farw Ivor yn 51 oed ym 1961 (Cofrestr Bangor Cyf.8a, tud 76 yng nghyfnod Ebrill/Mai/Mehefin.)
Bu Gwilym, ei fab, yn yrrwr ambiwlans yn ardal Pwllheli. Bu’n brïod â Nansi o Fynytho, a dau fab ganddynt. Roeddynt yn byw yn Lôn Abererch ac yn ddiweddarach ym Morfa Garreg. Bu Gwilym farw yn weddol ifanc.
****************
Comments
Post a Comment