Bryncelyn (Bellaf) 2
1841 Bryncelyn (Bellaf) 2 (Ardal 13, rhif 26)
William Jones, 45oed, ‘farmer’
Mary, 40 oed
Petter, 11 oed
Griffith, 9 oed
John, 7 oed
Lowry, 5 oed
William, 12 day?
Catherine Jones, 16 oed, f.s.
Robert Richards, 12 oed, Ag. lab.
1851 Bryncelyn (Bellaf) 2 (Ardal 7c rhif 16)
Deborah Williams, penteulu, prïod, 37 oed, g. Llanfaelrhys
David Roberts, ei mab, 6 oed, g. Llanengan
1861 : Bryncelyn 2 (Ardal 17 rhif 53)
Rachel Griffiths, penteulu, 83 oed, ‘glazier’s widow’?
Deborah Williams, ei merch, dibrïod, 47 oed, g. Rhiw
1871 : Bryncelyn 2 (Ardal 17 rhif 71)
Deborah Williams, penteulu, 56 oed, g. Llanfaelrhys
David Roberts, ei mab, prïod, 26 oed, ‘sailor’
Mary, ei wraig, 25 oed, g. Llanengan
Jane, ei wyres, 1 oed
Hugh Lloyd, ‘lodger’ 52 oed, ‘mariner’, g. Sir Feirionnydd
Isaac Lloyd, ei fab, 12 oed, g. Sir Feirionnydd
1881 : Bryncelyn 2 (Ardal 17 rhif 83)
Deborah Roberts, penteulu, gweddw, 66 oed
1891 : Bryncelyn 2 (Ardal 17 rhif 63)
Debora Williams, penteulu, gweddw, 76 oed
Ann Roberts, ei ŵyres, 11 oed
1911: Bryncelyn 2 – yn wag
1921 : Bryncelyn 2, Abersoch
Job Rees, penteulu, 35 oed, g. Abererch, gof yn gweithio iddo’i hun
Mary, ei wraig, 31.11 oed, g. Llanengan, yn gweithio gartref
Thomas G, eu mab, 9.8 oed, g. Abersoch, yn yr ysgol
Betty, eu merch, 7.9 oed,
Einion, eu mab, 5.10 oed
Elwyn, eu mab, 3.8 oed
Glyn, eu mab, 7 mis oed
Mae Adroddiad y capel am 1914 yn dangos fod Job Rees a’i wraig, Mary, a dau o’u plant – Thomas Goronwy ac Eliza Mary - yn byw yn Bryncelyn y flwyddyn honno ac yn gyflawn aelodau o’r Achos. Y flwyddyn ganlynol, bedyddiwyd Charles Einion yn fab iddynt ac yn 1917 bedyddiwyd Ellis Elwyn. Yn 1921 bedyddiwyd John Glyn a Pattrisau Clare – oedd yn ymwelydd mae’n amlwg, ond nid oes eglurhad am yr enw dieithr hwn. Yn 1922 bedyddiwyd Elina yn chweched plentyn i Job a Mary Rees. Yn 1924 bedyddiwyd Eirwen yn ferch iddynt tra roeddynt yn dal i fyw fel teulu ym Mryncelyn, ond erbyn 1925 gwelwn iddynt for wedi symud i Moranedd, Bwlchtocyn.
Ni welir enw i gyfateb i’r tŷ eto tan 1943 pan gawn Laura Evans yn byw yno ac yn gyflawn aelod o’r capel. Ar 11 Chwefror 1945 bedyddiwyd merch Laura a’i gŵr, Annwen, yn y cartref, yn hytrach na’r capel. Erbyn 1947 ceir cyfeiriad at Owen John Evans, Bryncelyn, y talwyd 2 gini iddo am gyflenwad o oel ar gyfer y capel – gŵr Laura oedd hwn, nad oedd yn gyflawn aelod yr adeg hon, ond enwir ef fel ‘aelod o’r gynulleidfa’. Erbyn 1949, fodd bynnag, gwelir ei enw gyda’i wraig a’i ferch a’i aelodaeth yn gyflawn. Ym 1950 mae Laura yn gwirfoddoli i rannu‘r gofal am y blodau bob mis Ionawr ac yntau Owen John yn cael ei ethol i Bwyllgor yr Eisteddleoedd. Erbyn 1952 mae Owen ar y Pwyllgor Adeiladau hefyd a’i wraig yn cynnig llety i’r pregethwyr bob mis Mai. Cyfrannant at dwymo’r capel ym 1955 gan barhau i fod yn ffyddlon eu gwasanaeth tan y gwelwn nodi ym 1958 am farwolaeth disymwth Owen ar 26 Tachwedd yn 65 oed. Canmolir ei fedrusrwydd a’i ffyddlondeb yn y dysteb. (Bedd B313 Bwlch) Yr un flwyddyn cawn enw Annwen yn gyfeilyddes yn yr Ysgol Sul.
Bu Laura Evans yn byw yn ei chartref tan iddi fynd yn rhy llesg pan symudodd i fyw efo’i merch. Bu farw ym 1985 a chladdwyd hi gyda’i gŵr ym Mynwent y Bwlch. Pwysleisiwyd ei ffyddlondeb i’r Achos yn yr Adroddiad, yn unol â ffyddlondeb ei theulu yn y gorffennol. Wedi ei chyfnod yn y coleg, priododd Annwen Meurig Edwards, gweinidog, ac ymgartrefodd ym Mochdre, ger Bae Colwyn. Roedd Laura , ei mam, yn chwaer i Jane Ellen, mam Margaret, Nansi, Arfon a Gwilym, Graigwen, Bwlchtocyn. A Laura a Jane Ellen yn ferched i Ann, Tŷ Rhos, merch William Williams a Laura Hughes, Tŷ Rhos. Yn 2020 gwerthwyd Bryncelyn.
* Dywed carreg fedd Owen John Evans i’w dad gael ei ladd yn nhanchwa Cilfynydd ym 1894. Dengys Cyfrifiad 1901 i’w fam weddw, Catherine, fyw yn Angorfa, Abersoch cyn ail-briodi ym 1908 efo Edward Kirkby, yn wreiddiol o Leeds. Cawsant ferch, Catherine Lilian, oedd yn ddwyflwydd oed ym 1911 pan oedd y teulu’n byw yng Nghaerdydd. Erbyn 1939 roeddynt ym Morawelon, Bwlchtocyn, C Lilian wedi priodi David Rice-Hughes, a brawd i Lilian, Albert W Kirkby, gyda’r teulu. Roedd Edward Kirkby wedi marw ers 1934 a’i gladdu yn y Bwlch (B394). Dywed Register 1939 fod Owen J Evans yn ŵr gweddw ym 1939, ond yn byw efo’i fam, Catherine Evans/Kirkby a’i hanner brawd a chwaer, Lilian ac Albert.
1901 – Llanengan (Ardal 15, 6/13, rhif 41)
Angorfa
Catherine Evans, penteulu, gweddw, 32 oed, ‘dressmaker’, g. Llanengan
Owen J Evans, ei mab, 7 oed
1911 – Glamorgan, Whitchurch (District 17, 440/703)
Sunnyside, Heol Don
Edward Kirkby, penteulu, prïod, 47 oed, ‘private means’, g. Leeds, Yorks. Yn siarad 2 iaith
Catherine, ei wraig, 42, y brïod ers 3 bl, 1 plentyn
Catherine Lilian, eu merch, 2 oed, g. Abersoch
Frances May, ei ferch, 15 oed, yn yr ysgol
Owen John Evans, ‘stepson’, 17 oed, ‘carpenter’
1921 – efallai mai Owen John Evans, 29 oed, dibrïod, sy’n byw yng Nghilfynydd, 4 Ann St. gyda gweithwyr eraill, ac yn gweithio yng nglofa’r Albion. Dim sicrwydd.
**************
Comments
Post a Comment