Llainhenryd 2/Henryd/Henryd Cottage

Llainhenryd 2 (Ardal 13 rhif 10)

1841:   Evan Williams, 40 oed, Ag. Lab.

            Eleanor Williams, 60 oed

            John Jones, 2 oed

 

1851: (Ardal 13  7c  rhif 14)

            Thomas Jones, penteulu, prïod, 33 oed, Ag Lab. g. Penllech

            Anne, ei wraig, 29 oed, g. Llanengan

            John Thomas, eu mab, 4 oed

            Robert Thomas, eu mab, 1 oed

 

1861: (Ardal 17 rhif 98)

            Thomas Jones, penteulu, prïod, 43 oed, labourer, g. Penllech

            Ann, ei wraig, 39 oed, g. Llanengan

            John, eu mab, 14 oed

            Robert, eu mab, 11 oed

            William, eu mab, 6 oed


1871: (Ardal 17 rhif 61)

            Thomas Jones, penteulu, prïod, 50 oed, labourer, g. Penllech

            Ann, ei wraig, 49 oed

            William, eu mab, 16 oed, miner

 

1881: (Ardal 17 rhif 130)

Thomas Jones, penteulu, prïod, 63 oed, general labourer, g. Penllech (m. 11/1/1890 Bwlch B207)

            Anne, ei wraig, 59 oed, g. Llanengan

            William, eu mab, dibrïod, 26 oed, leadminer

 

1891: (Ardal 17 rhif 67)

            Ann Jones, penteulu, gweddw, 71 oed, g. Llanengan

 

1901: (Ardal 16 rhif 82)

            Anne Jones, penteulu, gweddw, 80 oed, g. Llanengan (m. 4/6/1907. Bwlch B207)

            Margaret A. Jones, niece, 17 oed, morwyn


1911: (Ardal 14 sleid 168/175) gweler Llainhenryd 1. Yr ail dŷ yn wag, mae’n siwr??

 

1921: (Lleyn Rd > 03 > 21 > 558/644 Llainhenryd, Abersoch)

Thomas Evans, penteulu, 26.6 oed, prïod, g. Mynytho, hwsmon i John Roberts, Towyn, Llanengan – Cymraeg

Judith, ei wraig, 27.4 oed, g. Llanengan, cadw tŷ

Thomas G, eu mab, 1.8 oed g. Llanengan

 

1939: (Lleyn Rd > Zega > 4/10 > rhif 39 Henryd Cottage, Sarn Bach, Abersoch)

            Thomas Evans, g. 13 June 1895, llafurwr ar y ffordd

            Judith Evans, g. 23 April 1894, gwaith gartref di-dâl

            Thomas G Evans, g. 24 Aug 1919, sengl, prentis saer coed ac adeiladu

            Mary R Evans/Jones, g. 15 July 1922, sengl, gwaith tŷ di-dâl

                                        Llinell odanodd wedi ei duo

 

Ym 1920 mae Adroddiad y capel yn nodi bedyddio Thomas Griffith EvansLlainrhenryd yn fab i Thomas Evans a Judith sy’n ymgartrefu yno. Gellir olrhain Judith Evans ym 1919 yn byw efo’i mam, Mary Hughes, yn Bryn Eryr.O 1914 hyd 1918 cyfeirir at Judith fel Judith Hughes, Bryn Eryr. Erbyn 1922 mae Mary Rhianon Evans yn ychwanegiad at y teulu a nodir ei bedyddio. Yno hefyd mae Grace A Roberts a welwn yn ddiweddarach ym Mwlch Gwynt. Ym 1929 bedyddiwyd John Eirwyn Evans yn drydydd plentyn i Thomas a Judith ond yn anffodus, mae cofnod ei gladdu y flwyddyn ganlynol.


Mae newid yn yr enwau a ddefnyddir i gyfeirio at y cartref o 1930 ymlaen. Henryd Cottage yw’r enw a roir o hyn allan ar gartref Thomas Evans, Judith a’r plant. Hefyd yn Henryd Cottage mae Mary Hughes - mam Judith – yn byw gyda hwy.Yna ym 1932 gwelir i gyfeiriad Mary Hughes fod yn Henryd Bungalow yn hytrach na Henryd Cottage. Ai dyma pryd y codwyd y Bungalow dybed? Ond mae’r drefn yn newid ym 1936 pan fu farw Mary Hughes ar 5 Gorffennaf wedi ‘cystudd blin a chaled’ yn ôl yr Adroddiad.

 

Ceir newid arall ym 1940 oherwydd y Rhyfel y tro hwn. Bellach mae T G Evans yn Sapper yn y lluoedd arfog, ac am ran o’r flwyddyn yn unig y bu Mary Rhiannon yn byw yn Henryd. Cawn beth anghysondeb yn yr Adroddiadau gyda golwg ar ddefnyddio’r gair ‘Cottage’ i gyfeirio at gartref y teulu, ond un ai Henryd neu Henryd Cottage yw’r enw bellach. Cawn hefyd fedyddio Eileen Evans, Henryd, ym 1940.


Ym 1942 mae enwau Mary Rhiannon ac Arthur Roy Jones, Nant y Big, yn ymddangos am y tro cyntaf fel aelodau o’r gynulleidfa – bu Roy am ddwy flynedd yn gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol. Y flwyddyn ganlynol mae Roy yn byw yn y ‘Bungalow’ – dim cyfeiriad mwy manwl. Nid yw enw Mary Rhiannon i’w weld o gwbl, ond cynhwysir Eileen Jones (y tro hwn) gyda’i thaid a’i nain yn Henryd.

 

Erbyn 1944 enwau Thomas Evans, Judith a Thomas G. Evans sy’n Henryd, ac Arthur Roy Jones, Mary Rhiannon Jones, Eileen, Brian ac Elizabeth M Jones i gyd yn ‘Bungalow’. Y flwyddyn hon bedyddiwyd Elizabeth Mary Jones, Bungalow, a ‘chroesawyd pregethwyr i Henryd Cottage fis Hydref’.

 

1946 yw’r flwyddyn nesaf i ddangos newid pan mae Thomas Griffith Evans yn byw yn 2 Pensarn. Erbyn 1947mae Katie, ei wraig, Brinley a Rhian eu plant wedi ymgartrefu efo fo yn y cyfeiriad hwn, tra mae teulu Mary Rhiannon ac Arthur Roy yn y Bungalow. 


1950 yw blwyddyn nodi marw Judith Evans, Henryd Cottage, ar 25 Chwefror (Bwlch A181). Mae hefyd yn flwyddyn y symudodd Thomas Griffith Evans a’i deulu o Pensarn i Mur Cwpl. Y flwyddyn ganlynol, 1951, fe symudodd Roy, Nanon a’r plant i Henryd o’r Bungalow. Am y tro cyntaf hefyd gwelwn enwau Mrs A R Jones  a Mrs T G Evans i ofalu am y blodau fis Mehefin, ac yn wir buont yn ffyddlon iawn ar hyd eu hoes i’w cyfrifoldeb bob blwyddyn. Yn ogystal ym misoedd Gorffennaf, Awst a Medi mae A R Jones a T Evans yn gasglyddion – a phery’r ddyletswydd hon am lawer blwyddyn hefyd.


Ym 1952 cawn fod Thomas Evans, Mur Cwpl yn aelod o’r Pwyllgor Adeiladau, a bu bedyddio trydydd plentyn yn eu teulu, sef Lilwen, merch Thomas a Catherine, yn y capel gan y gweinidog, Ieuan James Owen. Cynigiwyd llety i’r pregethwyr yn Henryd hefyd ym mis Hydref.

 

Ym 1954 mae ychwanegiad i deulu Mur Cwpl gyda bedyddio Judith Elizabeth yn ferch fach iddynt ar 4 Gorffennaf. A’r blynyddoedd yn gwibio, gwelwn i enw Rhian, Mur Cwpl ddod yn Rhian Thomas erbyn 1964 a’r flwyddyn ganlynol bedyddiwyd Selwyn Thomas, Mur Cwpl yn fab iddi hi a’i gŵr. Hwn yw’r tro olaf i enw Rhian ymddangos yn yr adroddiadau. Ond ym 1966 mae Lilwen yn Ysgrifennydd yr Ysgol Sul a phresenoldeb y teulu yn parhau. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ym 1968,  nodir marw Thomas Evans, Mur Cwpl yn 74 oed, a’r un flwyddyn gwelir mai Tanrallt yw cyfeiriad cartref Brinley Evans bellach. Capel y Bwlch oedd agosaf at ei gartref newydd, a gwelwn ei enw ef a’i wraig, Medi, Glan Morfa, ar restr aelodau olaf y capel hwnnw yn Ebrill 2019. Y cyfeiriad olaf at y teulu yw nodi bedyddio Karen Ann Roberts, Mur Cwpl ym 1975, gan Gareth Maelor - merch fach i Lilwen a’i gŵr.


Dychwelwn i Henryd i weld enw Brian ym 1957 yn un o gasglyddion y capel yn rhannu’r ddyletswydd efo Charles Williams ym misoedd Gorffennaf ac Awst. Camwn ymlaen i 1964 pan nodir bedyddio Christopher Jones ar 3 Mai, yn fab i Brian a Betty – ar yr un pryd ag y bedyddiwyd Russell Roy Ward, yn fab i Mair a’i gŵr Graham – gan y gweinidog, Gareth Maelor Jones.

Flwyddyn yn ddiweddarach, ym 1965, bedyddiwyd Fiona Jones, Henryd Bungalow, ar 28 Tachwedd gan y gweinidog. Hefyd mae enw Betty - Elizabeth Mary Jones - Henryd, ymysg yr aelodau cyflawn bellach. I gwblhau teulu Henryd Bungalow, cawn nodi bedyddio Benita Jones, ar 27 Gorffennaf 1969, eto gan y gweinidog. Gwelir eu henwau wedyn yn flynyddol ymysg plant a phobl ifainc y capel tan 1991.  Erbyn y flwyddyn 1986, cawn newid cyfeiriad i Brian a Betty, sef Tŷ’r Lôn, a gwelwn i Betty fod wedi parhau arfer Nanon o roi blodau yn y capel ym mis Mehefin yn flynyddol. Fe barhaodd aelodaeth Brian a Betty hyd nes caewyd y capel ym 2003.

 

Gwelwyd enw Elizabeth Mair Ward a Russell, Y Rhyl, unwaith eto yn Adroddiad 1967, ac enw Eileen, ei chwaer, ym 1973 yn dal i gartrefu efo’i rhieni yn Henryd. Ond erbyn 1978 mae cyfeiriad Eileen yn newid i Gerlan, Llanbedrog, a’r flwyddyn ganlynol, 1979, Roberts yw ei chyfenw yn y cyfeiriad hwn, yn brïod â John. Erbyn 1988, ei chyfeiriad yw Dolwar, Abersoch.


30 mlynedd ynghynt, ym 1958, bu Eileen yn Ysgrifenyddes yr Ysgol Sul (am ddwy flynedd) a’r un flwyddyn ymddangosodd enw ychwanegol fel aelod o’r teulu, sef  Thomas Arthur Jones, Henryd Cottage, yn cael ei fedyddio ar 2 Tachwedd yn fab ieuengaf Rhiannon a Roy. Erbyn 1984 mae Arthur yn amlwg wedi priodi ac yn byw yn Bay View, Abersoch, ond erbyn 1989 mae yntau a’i deulu yn Henryd Bungalow.

 

Cawn nodi marw Roy ym 1985 yn 67 oed a’r Deyrnged yn sôn am ei barodrwydd i godi arian dros y blynyddoedd i achos y capel, ac i ddioddef ei anhwylder blin yn ddirwgnach. (Bwlch C079). Mae englyn iddo ar y garreg gan Alan Llwyd, eto yn nodi ei wroldeb:


                                                    Dewr ydoedd yn doredig - er chwifio’i

                                                            Oruchafiaeth ysig;

                                                           Yn ŵr heb rym ar y brig,

                                                           Yn gadarn orchfygedig.

 

Ond marw’n sydyn fu hanes Rhiannon, ei weddw, ar 12 Mai 1991, yn 69 oed a’r Deyrnged yn sôn am ei hanwyldeb ‘a’i chroeso at y bwrdd i’r pregethwyr yn eu tro fel y bu gan ei mam o’i blaen’, a’r cof amdani yn felys.

 

Tomos Arthur a’i deulu symudodd i Henryd (Cottage) wedyn, a Gwennan a Tomos Emyr - ei blant ef ac Annwen, ei wraig - yn ymddangos yn gyson ymhlith plant a phobl ifainc y capel hyd y cau yn 2003.

                                                                 **************

  

Comments